Cynllunio a pharatoi rhaglenni dysgu a datblygu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio a pharatoi rhaglenni dysgu a datblygu i ddiwallu anghenion a gofynion a nodwyd. Mae'n berthnasol i gynllunio ar gyfer grwpiau ac unigolion. Mae `Rhaglen' yn cyfeirio at unrhyw ddilyniant a drefnwyd o gyfleoedd dysgu sy'n arwain at ddeilliannau y cytunwyd arnynt. Gallai enghreifftiau gynnwys: cwrs, rhaglen dysgu yn y gweithle, neu raglen hyfforddi unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi deilliannau dysgu sy'n diwallu anghenion dysgu a datblygu y cytunwyd arnynt
- datblygu cynllun cydlynol o gyfleoedd dysgu a datblygu sy'n briodol i'r deilliannau dysgu a'r gofynion mewnol/allanol
- nodi dulliau cyflawni ac asesu realistig sy'n briodol i gyfleoedd dysgu a datblygu
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni'r cynllun a sicrhau bod y rhain o fewn cyllidebau a ddyrannwyd
- sicrhau bod trefniadau wedi'u gwneud i gyflwyno'r cynllun
- nodi sut caiff y dysgu ei fonitro a'i werthuso
- cyfleu'r cynllun i ddysgwyr a phobl eraill sy'n ymwneud â darparu dysgu a datblygu
- sicrhau bod y cynllun yn cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a deddfwriaeth berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- sut mae gwybodaeth a gafwyd o ddadansoddi anghenion dysgu a datblygu yn cyfrannu at gynllunio, a'r ffactorau y mae angen eu hystyried
- sut i nodi ystod o opsiynau ar gyfer bodloni deilliannau dysgu a chryfderau a gwendidau gwahanol ddulliau, gan gynnwys defnyddio technoleg
- sut i ddatblygu cynllun o gyfleoedd dysgu a datblygu sy'n diwallu anghenion dysgu gwahanol, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth
- y mathau o ofynion mewnol ac allanol a allai effeithio ar gynllunio, gan gynnwys addasiadau i ddiwallu anghenion dysgwyr
- ffactorau y mae angen eu rheoli wrth drefnu a chydlynu cyfleoedd dysgu a datblygu
- sut i gynnal asesiadau risg, a'r ffactorau y mae angen eu hystyried yn y cyd-destun dysgu
- pwysigrwydd hyblygrwydd a chynllunio wrth gefn wrth ddatblygu rhaglenni
- y cylch dysgu a sut y dylai hyn lywio'r broses gynllunio
- pam mae'n bwysig bod anghenion y dysgwr wrth wraidd cynlluniau rhaglen
- sut i gynnwys dysgwyr wrth ddatblygu cynlluniau rhaglenni
- yr ystod o adnoddau, gan gynnwys technoleg, y gallai fod eu hangen i hwyluso, monitro a gwerthuso dysgu a datblygu a sut i'w nodi
- sut gall galluoedd ac anghenion y dysgwyr effeithio ar anghenion cynllunio ac adnoddau, gan gynnwys yr iaith a ddefnyddir
- y trefniadau sydd eu hangen i gyflwyno'r cynllun gan gynnwys y systemau, y strwythurau a'r perthnasoedd sydd eu hangen i'w roi ar waith yn effeithiol
- y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth fonitro sut mae'r cynllun yn cael ei roi ar waith a gwerthuso effeithiolrwydd dysgu
- sut gall gwerthuso parhaus helpu i lywio sut mae cynlluniau dysgu yn cael eu datblygu a'u rhoi ar waith, a gwella dysgu
- y cydweithwyr y dylid rhannu cynlluniau â nhw
- sut i annog yr ymrwymiad a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr a chydweithwyr i fod yn effeithiol wrth roi rhaglenni ar waith
- agweddau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth y mae angen mynd i'r afael â nhw wrth gefnogi dysgwyr
- y gofynion gweithredol y dylid eu hystyried wrth gynllunio cyfleoedd dysgu a datblygu penodol, gan gynnwys canllawiau sefydliadol, iechyd a diogelwch, cyllidebol a deddfwriaethol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dull asesu
Ffordd o gynhyrchu tystiolaeth o wybodaeth a/neu sgiliau ymgeisydd. Ffyrdd o fesur dysgu a datblygu, er enghraifft, arsylwi, cwestiynu, gwirio cynhyrchion gwaith, gosod aseiniadau.
Dulliau cyflwyno
Unrhyw ddull sy'n cefnogi dysgu a datblygu, er enghraifft, cyflwyniadau, cyfarwyddiadau, arddangosiadau, efelychiadau, cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth ac ymarfer sgiliau, dysgu drwy brofiad, prosiectau grŵp/unigol ac ymchwil. Mae hyn yn cynnwys defnyddio offer ac apiau ar-lein a/neu ddysgu cyfunol.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Iechyd a diogelwch
Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch corfforol yn ogystal â lles emosiynol.
Cyfleoedd dysgu a datblygu
Unrhyw ddigwyddiad sy'n helpu i gaffael sgiliau a gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ffurfiol yn ogystal â phrofiadau fel ymweliadau, amser a dreulir yn y gweithle, ymchwil bersonol ac ati.
Sefydliad
Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud â chyflwyno a/neu asesu dysgu a datblygu.
Pobl eraill
Mae hyn yn cyfeirio at bobl eraill a allai fod yn gysylltiedig â'r gweithgareddau dysgu, neu'n cael eu heffeithio gan y gweithgareddau hyn.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Rhaglen
Dilyniant o gyfleoedd dysgu a datblygu wedi'i drefnu dros gyfnod o amser sy'n arwain at ddeilliannau dysgu y cytunwyd arnynt, er enghraifft 'cwrs'.
Gofynion
Gallai'r rhain fod yn ofynion sefydliad yr ymarferydd neu ofynion sefydliad allanol, fel corff cyllido neu sefydliad dyfarnu.
Adnoddau
Mae hyn yn cynnwys unrhyw adnodd ffisegol neu ddynol sy'n cefnogi'r broses ddysgu a datblygu, a gallai gynnwys offer technegol, technolegau digidol (gan gynnwys offer ac apiau ar-lein), taflenni, llyfrau gwaith, pobl — er enghraifft siaradwyr allanol — ac ymweliadau â lleoedd o ddiddordeb.
Asesiadau risg
Gallai hyn fod yn asesiad risg ffurfiol ac ysgrifenedig ond gallai fod yn anffurfiol ac yn ddeinamig — yn monitro ac yn rheoli risg yn barhaus. Mae risg yn cynnwys iechyd a diogelwch ond gall hefyd gynnwys e.e. cyllid, pa adnoddau sydd ar gael, ac ati.
Technoleg
Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.