Nodi dysgu a datblygu unigol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi a dysgu ar gyfer dysgwyr unigol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi amcanion y dysgwr, y cymhelliant i ddysgu ac unrhyw ofynion sy'n berthnasol i'r dadansoddiad o anghenion dysgu
- adolygu cyflawniadau'r dysgwr, gan werthuso'r rhain yn erbyn amcanion a gofynion perthnasol
- asesu galluoedd a photensial y dysgwr drwy ddefnyddio dulliau cadarn, dibynadwy a dilys
- dadansoddi galluoedd a photensial y dysgwr yng nghyd-destun ei amcanion a gofynion eraill
- cytuno ar anghenion dysgu'r dysgwr a'u blaenoriaethu
- cefnogi dysgwyr i nodi'r ffyrdd o ddysgu sydd orau ganddynt
- rhoi adborth adeiladol i'r dysgwr ar ei ddisgwyliadau a thrafod cyfleoedd dysgu a datblygu
- cynnal cytundebau cyfrinachedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
- yr egwyddorion sy'n sail i ddadansoddi'r anghenion dysgu ar gyfer dysgwyr unigol
- pam mae'n bwysig nodi amcanion a chymhelliant dysgwr i ddysgu wrth ddadansoddi ei anghenion dysgu
- gofynion eraill gan sefydliadau neu asiantaethau allanol a allai effeithio ar ddadansoddiad o anghenion dysgu
- dulliau adolygu cyflawniadau ffurfiol ac anffurfiol dysgwr
- dulliau rhoi cydnabyddiaeth am ddysgu a chyflawniad blaenorol
- dulliau cynnal asesiad cychwynnol o allu a photensial, gan gynnwys dulliau sy'n defnyddio technoleg yn briodol
- sut i ddewis dulliau asesu cychwynnol sy'n ddilys, cadarn, dibynadwy a chyfredol ar gyfer y dysgwr a'i amcanion
- sut i asesu a rheoli risg wrth gynnal asesiadau cychwynnol
- materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar ddadansoddiad o anghenion dysgu a sut i fynd i'r afael â'r rhain
- gyda phwy y mae angen gwneud cytundebau, a'r materion i'w hystyried wrth flaenoriaethu anghenion dysgu unigolyn
- y sgiliau cyfathrebu a phersonol sydd eu hangen ar ymarferwyr wrth nodi anghenion dysgu unigolion
- ffyrdd o ddysgu a ffefrir a sut gallai'r rhain effeithio ar ddewisiadau o ran cyfleoedd dysgu a datblygu posibl
- gwahanol ddulliau o gefnogi dysgwyr i nodi'r ffyrdd o ddysgu sydd orau ganddynt, a sut i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gefnogi eu hastudiaethau
- gwahanol ddulliau o roi adborth i ddysgwr ar ddeilliannau'r dadansoddiad o anghenion dysgu, a manteision ac anfanteision y dulliau hyn
- sut i gynnal cyfrinachedd a rheoli gwybodaeth yn unol â gweithdrefnau cyfreithiol a threfniadol a deddfwriaeth gyfredol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Asesu a rheoli risgiau
Gallai hyn fod yn asesiad risg ffurfiol ac ysgrifenedig ond gallai fod yn anffurfiol ac yn ddeinamig — yn monitro ac yn rheoli risg yn barhaus.
Dull asesu
Ffordd o gynhyrchu tystiolaeth o wybodaeth a/neu sgiliau ymgeisydd. Ffyrdd o fesur dysgu a datblygu, er enghraifft, arsylwi, cwestiynu, gwirio cynhyrchion gwaith, gosod aseiniadau.
Dilys
Gwaith yr ymgeisydd ei hun.
Ymgeisydd
Yr unigolyn a gyflwynwyd ar gyfer cymhwyster. Yn aml yn cael ei ddefnyddio yn yr un modd â 'dysgwr' a gellir ei ddefnyddio i gyfeirio at ddysgwr sydd ar y pwynt asesu.
Cyfredol
Dylai'r dystiolaeth gyfredol ganiatáu i benderfyniadau gael eu gwneud yn hyderus ynghylch pa mor gyfredol yw'r sgiliau a gwybodaeth a honnir, a bod yr ymgeisydd yn gymwys ar y pwynt asesu.
Amrywiaeth
Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.
Cydraddoldeb
Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.
Cyflawniadau dysgwyr
Gallai'r rhain fod yn ffurfiol e.e. graddau arholiad, neu anffurfiol e.e. cyfnodau o brofiad gwaith a sgiliau a gwybodaeth a enillwyd drwy'r rhain.
Cyfleoedd dysgu a datblygu
Unrhyw ddigwyddiad sy'n helpu i gaffael sgiliau a gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ffurfiol yn ogystal â phrofiadau fel ymweliadau, amser a dreulir yn y gweithle, ymchwil bersonol ac ati.
Sefydliad
Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud â chyflwyno a/neu asesu dysgu a datblygu.
Deilliannau
Gallai'r rhain fod yn ddeilliannau i'r grŵp cyfan - er enghraifft galluogi effeithiolrwydd tîm - a/neu ddeilliannau i'r unigolion sy'n ffurfio'r grŵp — er enghraifft caffael sgiliau unigol.
Dibynadwy
Yn cyflawni'r un canlyniadau yn gyson gyda'r un grŵp (neu grŵp tebyg) o ddysgwyr.
Gofynion
Gallai'r rhain fod yn ofynion sefydliad yr ymarferydd neu ofynion sefydliad allanol, fel corff cyllido neu sefydliad dyfarnu.
Risg
Mae hyn yn cynnwys risgiau iechyd a diogelwch ond gall hefyd gynnwys, er enghraifft, y risg na fydd dulliau asesu anghenion cychwynnol yn ddigonol, tystiolaeth nad yw cyflawniad yn y gorffennol yn ddilys, neu fethu â chynnal cyfrinachedd.
Cadarn
Mae tystiolaeth gadarn yn gallu gwrthsefyll beirniadaeth ac mae modd cyfiawnhau ei defnydd yn hawdd.
Technoleg
Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.
Cywir
Yn berthnasol i'r meini prawf y mae'r ymgeisydd yn cael ei asesu yn eu herbyn.