Nodi anghenion dysgu a datblygu cyfunol

URN: CLDLD01
Sectorau Busnes (Suites): Dysgu a Datblygu
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 28 Meh 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi a dysgu ar gyfer timau, grwpiau, adrannau neu sefydliadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ennill cefnogaeth ac ymrwymiad rhanddeiliaid allweddol
  2. nodi nodau'r dadansoddiad, y wybodaeth sydd ei hangen, a dulliau effeithlon o gasglu data
  3. casglu gwybodaeth ddigonol sy'n berthnasol i'r dysgwyr a'u cyd-destun i nodi anghenion dysgu a datblygu
  4. dadansoddi gwybodaeth a data i nodi anghenion dysgu cyfunol ac i lywio argymhellion
  5. blaenoriaethu anghenion dysgu a datblygu, gan nodi ffocws a faint o ddysgu sydd ei angen
  6. cyfleu canfyddiadau ac argymhellion i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn ffyrdd fydd yn cynorthwyo eu dealltwriaeth
  7. trafod unrhyw addasiadau i ganfyddiadau ac argymhellion gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  8. cynnal cytundebau cyfrinachedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion sefydliadol, cyfreithiol a phroffesiynol y dylid eu dilyn wrth gynllunio rhaglenni dysgu a datblygu
  2. yr egwyddorion sy'n sail i ddadansoddi anghenion dysgu ar gyfer timau, grwpiau neu sefydliadau
  3. y cyfraniad y gall dysgu a datblygu ei wneud i helpu timau, grwpiau a sefydliadau i gyflawni eu nodau a'u hamcanion
  4. y mathau o randdeiliaid sy'n gysylltiedig â dadansoddi anghenion dysgu ar y cyd a pham mae eu cefnogaeth a'u hymrwymiad yn bwysig
  5. y mathau o wybodaeth ansoddol a meintiol sydd eu hangen i gynnal dadansoddiad o anghenion dysgu ar y cyd
  6. pwysigrwydd casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol gan gynnwys: nodau ac amcanion cyfunol dysgwyr; effaith newid ar rolau a ffyrdd o wneud pethau; y sgiliau, y wybodaeth, yr agweddau a'r cymhwysedd sy'n ofynnol; galluoedd a photensial presennol dysgwyr; ac agweddau at ddysgu
  7. ffynonellau gwybodaeth, a dulliau effeithlon o gasglu data, gan gynnwys defnyddio technoleg
  8. sut i ddadansoddi data ansoddol a meintiol i nodi anghenion dysgu cyfunol
  9. materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth a allai effeithio ar gasglu data a dadansoddi anghenion dysgu cyfunol
  10. materion yn ymwneud â thechnoleg ac arferion gwaith newidiol sy'n effeithio ar anghenion dysgu cyfunol
  11. y materion i'w hystyried wrth flaenoriaethu anghenion dysgu cyfunol
  12. sut i nodi ffocws a maint y dysgu sydd ei angen a'r amserlenni sydd eu hangen ar gyfer i'w roi ar waith
  13. pwy allai fod yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau am ganfyddiadau ac argymhellion
  14. dulliau effeithiol o gyfleu canfyddiadau ac argymhellion i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  15. pam y dylai ymarferwr ddefnyddio eu profiad proffesiynol a'u harbenigedd i drafod canfyddiadau ac argymhellion gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  16. pam mae cyfrinachedd yn bwysig wrth nodi anghenion dysgu cyfunol a sut i gynnal cyfrinachedd data, canfyddiadau ac argymhellion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Anghenion dysgu cyfunol

Yr anghenion dysgu cyffredin sydd gan grŵp o ddysgwyr. Gallai grwpiau yn y cyd-destun hwn fod, er enghraifft, yn sefydliadau cyfan neu'n dimau o fewn sefydliadau.

Amrywiaeth

Cydnabod bod pob unigolyn yn unigryw, a chydnabod ein gwahaniaethau unigol e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd unigol arall.

Cydraddoldeb

Yr hawl sydd gan bawb i gael eu trin yn deg beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngddynt e.e. o ran diwylliant, gallu, rhywedd, hil, crefydd, cyfoeth, cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodwedd grŵp arall.

Pwyslais y dysgu

Beth sydd angen ei ddysgu, er enghraifft, gwasanaeth i gwsmeriaid, rheoli pobl neu sut i ddefnyddio offer newydd.

Nodau

Mae hyn yn cyfeirio at dargedau dros dro neu gamau tuag at helpu dysgwyr i gyflawni deilliannau ac amcanion cyffredinol.

Sefydliad

Er enghraifft, sefydliad dyfarnu, adran fewnol neu unrhyw sefydliad arall sy'n ymwneud â chyflwyno a/neu asesu dysgu a datblygu.

Rhanddeiliaid

Pawb sydd â diddordeb yn y dadansoddiad o anghenion hyfforddi/dysgu, er enghraifft, rheolwyr, staff Adnoddau Dynol, y dysgwyr eu hunain.

Digonol

Digon o dystiolaeth fel y nodir yn y Gofynion o ran Tystiolaeth neu'r Strategaeth Asesu.

Technoleg

Mae hyn yn cyfeirio at galedwedd ac offer/apiau ar-lein y gellir eu defnyddio wrth gyflwyno rhaglenni dysgu a'u hasesu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lifelong Learning UK

URN gwreiddiol

LaD01

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol, Addysgu a darlithio, Gweithiwr Gwasanaethau Cyhoeddus Proffesiynol, Cymorth dysgu uniongyrchol

Cod SOC

3574

Geiriau Allweddol

anghenion dysgu cyfunol, anghenion datblygu, ffocws dysgu, nodi anghenion dysgu, dysgu, dadansoddi anghenion dysgu, blaenoriaethu anghenion dysgu, anghenion hyfforddi, cyfrinachedd dysgwyr, ymarferwyr datblygu dysgu