Arwain gweithwyr ieuenctid a gwirfoddolwyr eraill

URN: CLD YW26
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi cymorth, mentora, hyfforddi a chyngor yn ymwneud â gwaith ieuenctid i weithwyr eraill. Byddwch yn rhannu eich ymarfer proffesiynol ym maes gwaith ieuenctid wrth roi cymorth. 
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid sy'n gweithio gydag eraill i ddarparu gwasanaethau gwaith ieuenctid ac sy’n rhoi cymorth a chyngor iddynt heb fod â chyfrifoldebau rheoli llinell. Mae hefyd yn addas ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n cynorthwyo eraill i ddatblygu eu hymarfer gwaith ieuenctid. 
Yng nghyd-destun y safon hon, gall gweithwyr eraill olygu'r rheini o fewn ac y tu allan i'ch sefydliad, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt rôl a chyfrifoldebau gwaith ieuenctid penodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi cymorth,mentora, hyfforddiant a chyngor yn ymwneud â gwaith ieuenctid i eraill
  2. helpu pobl ym maes eich gwaith i ddatblygu eu ffyrdd eu hunain o weithio a dod i’w penderfyniadau eu hunain o fewn ffiniau y cytunwyd arnynt
  3. cynorthwyo gweithwyr eraill i arwain yn eu meysydd arbenigedd eu hunain a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
  4. gweithio o fewn unrhyw strwythurau, gweithdrefnau a gofynion gofynnol eich sefydliad eich hun a sefydliadau eraill wrth roi cymorth i weithwyr eraill
  5. gweithio yn unol â'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid wrth weithio gydag eraill
  6. datrys unrhyw anawsterau a heriau y gall gweithwyr a gwirfoddolwyr eraill eu cyflwyno i chi
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'u heffaith ar faes eich gweithrediadau
  2. y gwahaniaethau sylfaenol rhwng rheoli a rhoi cymorth mewn rôl lle nad ydych yn rheoli
  3. y mathau o gymorth y gellir eu rhoi megis mentora, goruchwylio anffurfiol a chyngor ymarfer proffesiynol, a’r gwahaniaeth rhyngddynt
  4. y mathau o gymorth a chyngor y bydd eu hangen ar eraill yn ôl pob tebyg a sut i ymateb i'r rhain
  5. ffyrdd o adlewyrchu ymarfer proffesiynol ym maes gwaith ieuenctid wrth roi cymorth, mentora neu oruchwyliaeth anffurfiol i weithwyr eraill
  6. gwahanol ddulliau ar gyfer cyfathrebu ag eraill a sut i ddewis a chymhwyso dulliau llwyddiannus mewn gwahanol sefyllfaoedd
  7. mathau o anawsterau a heriau a allai godi, gan gynnwys gwrthdaro o fewn y maes, a ffyrdd o'u nodi a'u goresgyn
  8. pwysigrwydd annog eraill i arwain, a’r ffyrdd y gellir cyflawni hyn
  9. sut i rymuso eraill yn effeithiol
  10. sut i ddewis gwahanol ddulliau a'u defnyddio'n llwyddiannus i annog, cymell a chynorthwyo aelodau'r tîm a chydnabod cyflawniad
  11. eich gwerthoedd, eich cymhellion a’ch emosiynau
  12. eich rôl a’ch cyfrifoldebau a faint o annibyniaeth sydd gennych
  13. amcanion cyffredinol eich sefydliad
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW31

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cynorthwyo; gweithwyr eraill; effeithiol; ymarfer; mentora; gwybodaeth; cyngor; goruchwylio; gwerthoedd; cymell; galluogi; gwella; ymddiried; datblygiad; amcanion