Monitro a gwerthuso ansawdd strategaethau a dulliau cyflawni gwaith ieuenctid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso effaith gweithgareddau a rhaglenni gwaith ieuenctid, gan gydnabod y gallai gymryd peth amser i gyflawni manteision. Byddwch yn cynnwys pobl ifanc yn llawn yn y broses, yn ogystal ag unrhyw gydweithwyr, rhanddeiliaid neu sefydliadau perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r gwaith ieuenctid sy'n cael ei fonitro.
Yn y safon hon defnyddir y term 'sefydliadau eraill' i gyfeirio at yr holl asiantaethau, partneriaid a darparwyr perthnasol ac addas, gan gynnwys cymunedau lleol, sydd y tu allan i'ch sefydliad.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr gwaith ieuenctid sy'n gweithio gyda phobl ifanc i fonitro a gwerthuso effaith gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc yn defnyddio'r meini prawf ar gyfer gwerthuso deilliannau gweithgareddau gwaith ieuenctid
- gwneud yn siŵr bod gan y bobl ifanc broses ar gyfer cofnodi eu gweithgareddau gwaith ieuenctid
- gwneud yn siŵr bod pobl eraill sy'n ymwneud â'r gweithgareddau gwaith ieuenctid yn rhoi adborth a thystiolaeth o’r cynnydd a wneir yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt
- adolygu'r deilliannau a gyflawnwyd gan y gweithgareddau gwaith ieuenctid
- cymharu'r deilliannau a gyflawnwyd yn erbyn y meini prawf gwerthuso y cytunwyd arnynt
- cofnodi'r llwyddiannau a'r gwersi a ddysgwyd a defnyddio tystiolaeth i gynllunio gwaith ieuenctid yn y dyfodol
- rhoi tystiolaeth a gwybodaeth i eraill am effeithiolrwydd gweithgareddau gwaith ieuenctid, gan nodi a hyrwyddo'n glir natur y gweithgareddau a pham y gwnaethant gyflawni eu hamcanion
- cofnodi a chynnal tystiolaeth monitro a gwerthuso
- gwneud yn siŵr bod y dystiolaeth werthuso a'r wybodaeth ar gael i eraill
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n berthnasol i waith ieuenctid a'u heffaith yn eich maes gwaith eich hun
- pwysigrwydd monitro a gwerthuso effaith gweithgareddau gwaith ieuenctid, a sut i wneud hyn, gan gynnwys y dystiolaeth sydd ei hangen
- pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc, cydweithwyr, rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r gweithgareddau, a'r ffyrdd o’u cynnwys
- y dangosyddion, y dystiolaeth a'r meini prawf sy'n effeithiol ar gyfer gwerthuso deilliannau a llwyddiant gweithgareddau gwaith ieuenctid
- ffynonellau tystiolaeth a gwybodaeth sy'n briodol i fonitro gweithgareddau gwaith ieuenctid, sut i gael gafael arnynt a dulliau gwirio a gwerthuso'r wybodaeth
- amcanion eich sefydliad mewn perthynas â darparu gwaith ieuenctid a'r gweithgareddau cysylltiedig
- pwysigrwydd hyrwyddo llwyddiant gwaith ieuenctid, a ffyrdd o gyflawni hyn, gan gynnwys lledaenu arferion effeithiol ym maes gwaith ieuenctid
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau, a chan bwy y gellir gofyn am gymorth a chyngor
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon