Ymgysylltu â phobl ifanc yn natblygiad strategol gwaith ieuenctid

URN: CLD YW23
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu pobl ifanc i ystyried ffactorau sy'n effeithio ar y penderfyniadau sydd i'w gwneud a gwneud yn siŵr eu bod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau ac wrth asesu'r effaith a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau. Byddwch hefyd yn cynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu dulliau mesur perfformiad a thechnegau ar gyfer monitro gweithgarwch yn erbyn y rhain.
Pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn chwarae rôl amlwg yw rhai o’r prif werthoedd sy’n sail i’r safon hon ac mae disgwyl i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a'u cymhwyso yn eu hymarfer.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid sy'n ymgysylltu â phobl ifanc er mwyn llywio datblygiad strategol a darpariaeth gwaith ieuenctid yn eu sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i fynegi eu barn ynghylch darparu gwaith ieuenctid yn eu cymuned
  2. rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am y ffactorau sy'n effeithio ar y gwaith ieuenctid a ddarperir nawr ac yn y dyfodol yn eu cymuned
  3. cytuno â phobl ifanc ar y meysydd blaenoriaeth er mwyn ffocysu adnoddau eich sefydliad, ynghyd â rhesymeg y cytunwyd arni
  4. hwyluso pobl ifanc i ystyried opsiynau ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid er mwyn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt
  5. cytuno ar yr opsiwn (opsiynau) a ffefrir gyda phobl ifanc
  6. ymgysylltu â phobl ifanc a’u cynnwys wrth weithio gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau perthnasol i ddylunio a chyflawni'r opsiwn (opsiynau) a ffefrir
  7. cytuno ar ddulliau allweddol o fesur perfformiad gyda phobl ifanc, a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso gweithredoedd a gweithgareddau y cytunwyd arnynt
  8. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar waith ieuenctid
  2. pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc yn natblygiad strategol gwaith ieuenctid, a ffyrdd o gyflawni hyn
  3. pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc, a sut i wneud hyn ar draws amrywiaeth o grwpiau o bobl ifanc
  4. eich cymuned, y ffactorau sy'n effeithio ar y galw am waith ieuenctid ac anghenion a disgwyliadau pobl ifanc yn y gymuned
  5. ffactorau i'w hystyried wrth broffilio gwahanol gymdogaethau a risgiau posibl eraill i gyflawni eich nodau
  6. asiantaethau eraill sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid yn eich cymuned, a nodweddion allweddol eu rhaglenni
  7. y prif ffactorau sy'n effeithio ar y tebygolrwydd o gael cymorth i waith ieuenctid o fewn cymunedau ac ymhlith unigolion a dulliau asesu'r ffactorau hyn
  8. anghenion a disgwyliadau eich sefydliad ac asiantaethau eraill, sy'n berthnasol i ddarparu rhaglenni gwaith ieuenctid
  9. ffynonellau gwybodaeth sy’n gallu helpu i flaenoriaethu adnoddau
  10. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr, pobl ifanc, partneriaid eraill, darparwyr ac asiantaethau wrth geisio cytuno ar feysydd blaenoriaeth a rhaglenni gwaith ieuenctid cysylltiedig
  11. sut i ddatblygu mesurau a dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso llwyddiant rhaglenni gwaith ieuenctid
  12. pwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau
  13. dulliau lledaenu ymarfer effeithiol ym maes gwaith ieuenctid
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; hwyluso; ymgysylltu; datblygiad; cyflawni; strategaeth; polisi; gwneud penderfyniadau; cymryd rhan; cynnwys; blaenoriaethau; gweithgareddau; adnoddau gweithredu; cynlluniau; dewisiadau