Dylanwadu ar strategaeth gwaith ieuenctid a’i datblygu

URN: CLD YW22
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth i helpu i lunio strategaeth, polisïau a gweithgareddau ar gyfer gwaith ieuenctid a ddarperir gan y sefydliad, yn ogystal â chyfrannu at adolygiadau a dylanwadu ar bolisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Byddwch yn pennu blaenoriaethau strategol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn datblygu cynllun strategol cysylltiedig ar gyfer cyflawni gwaith ieuenctid ac yn monitro'r gweithrediadau mewn perthynas â'r amcanion cyffredinol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr gweithwyr ieuenctid sy'n cyfrannu at strategaeth gwaith ieuenctid ac yn dylanwadu arni, megis drwy wneud awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy'n datblygu strategaethau gwaith ieuenctid, yn blaenoriaethu adnoddau ac yn cynllunio ac yn cytuno ar raglenni gwaith ieuenctid cysylltiedig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymgynghori ag asiantaethau i gael gwybodaeth sy'n briodol i'r rhannau hynny o'r gymuned a wasanaethir gan eich sefydliad
  2. dod o hyd i dueddiadau a datblygiadau o ran diddordebau, anghenion a chyfranogiad pobl ifanc yn y gweithgareddau gwaith ieuenctid yn y gymuned, a'u heffaith ar ddarparu gwaith ieuenctid
  3. blaenoriaethu newidiadau sy'n ofynnol mewn polisïau, cynlluniau a gweithgareddau yn unol â'r graddau y maent wedi mynd i'r afael ag anghenion pobl ifanc
  4. asesu'r opsiynau sydd ar gael ar gyfer dewis rhaglenni gwaith ieuenctid sy'n cyd-fynd â'r meysydd blaenoriaeth a'u hanghenion
  5. datblygu argymhellion ar gyfer gwella'r gweithdrefnau ar gyfer rhoi strategaeth a gweithdrefnau gwaith ieuenctid ar waith
  6. pennu’r meysydd blaenoriaeth a chytuno arnynt gyda phobl berthnasol er mwyn ffocysu adnoddau eich sefydliad
  7. asesu a dadansoddi’r risgiau sy'n gysylltiedig â'r opsiynau a gynigir gan gydbwyso'r risgiau a nodwyd â'r deilliannau a ddymunir
  8. cyflwyno argymhellion ar gyfer gwella strategaeth gwaith ieuenctid, polisïau a darpariaeth i'r bobl berthnasol
  9. chwilio am gyfleoedd ar gyfer partneriaethau strategol a chysylltiadau ag asiantaethau eraill er mwyn cyflawni'r nodau gofynnol
  10. cytuno â phartïon perthnasol ar y camau i ddatblygu cyfleoedd newydd a gweithgareddau cysylltiedig, yn ogystal â chamau gweithredu, adnoddau, rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n gysylltiedig
  11. cymhwyso dulliau mesur perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni a strategaeth y cytunwyd arnynt
  12. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'r effaith ar eich gweithgaredd eich hun
  2. dulliau rhagweld tueddiadau a datblygiadau a nodi ffactorau a allai effeithio ar bolisïau a strategaethau mewn gwaith ieuenctid
  3. rôl eich sefydliad, ei weithgareddau, polisïau, strategaethau a gweithdrefnau
  4. pwysigrwydd a gwerth cynllunio tymor hir a chanolig i lwyddiant y sefydliad
  5. swyddogaethau, anghenion, disgwyliadau a gweithgareddau prif asiantaethau eraill o fewn gwaith ieuenctid a sut maent yn berthnasol i'ch sefydliad chi
  6. unigolion a grwpiau cymunedol perthnasol sydd mynd i gael eu heffeithio gan ddatblygiad polisïau a strategaethau gwaith ieuenctid, a’r ffactorau sy'n effeithio ar eu cymorth ar gyfer gwaith ieuenctid
  7. yr egwyddorion a'r prosesau sy'n sail i ddatblygu polisïau a strategaethau a'r ffactorau a'r blaenoriaethau a allai ddylanwadu ar ddatblygu polisïau a’u derbyn
  8. dulliau ac offer i ddadansoddi a gwerthuso gwybodaeth berthnasol ac asesu goblygiadau, a dod i gasgliadau
  9. dulliau cynnwys ac ymgynghori â chymunedau ac asiantaethau, partneriaid a rhanddeiliaid eraill wrth gytuno ar flaenoriaethau a datblygiadau eraill
  10. y problemau cyffredin a allai godi wrth geisio rhoi strategaethau newydd ar waith
  11. sut i ddatblygu cynlluniau a rhaglenni ar gyfer cyfleoedd gwaith ieuenctid sy'n nodi gweithgareddau, rolau, adnoddau a meysydd allweddol eraill
  12. yr adnoddau sydd ar gael i'ch sefydliad a ffynonellau gwybodaeth sy’n gallu helpu i flaenoriaethu adnoddau
  13. sut i asesu risgiau posibl mewn perthynas â chyflawni nodau a sut i liniaru'r risgiau hyn
  14. egwyddorion cyfrinachedd, a sut i ddatblygu canllawiau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth rhwng unigolion ac asiantaethau
  15. eich rôl a'ch cyfrifoldebau, a chan bwy y dylid gofyn am gymorth a chyngor pan fo angen
  16. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; strategaeth; polisïau; datblygu; gweithgareddau; cynlluniau; rhaglenni; asesu; blaenoriaethau; mesur; monitro; dylanwadu