Cael gafael ar gyllid ac adnoddau ar gyfer gwaith ieuenctid
URN: CLD YW21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phenderfynu ar ffynonellau cyllid ac adnoddau eraill ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc a sefydlu perthynas waith dda gyda deiliaid cronfeydd a darpar ddeiliaid. Mae'n cynnwys datblygu a chyflwyno cynigion ar gyfer cyllid, neu fathau eraill o gymorth, a thrafod telerau cynigion i ddod i gytundeb yn llwyddiannus. Byddwch hefyd yn sefydlu cynlluniau wrth gefn fel y gallwch liniaru unrhyw ddiffyg o ran cyllid.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid sy'n gyfrifol am gael gafael ar gyllid i ddatblygu’r gwaith ieuenctid a ddarperir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu rhestr gyfoes o unigolion a sefydliadau sy'n darparu adnoddau ar hyn o bryd, ac a allai ddarparu adnoddau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
- datblygu cynigion ac argymhellion sydd wedi'u costio'n llawn ar gyfer cael y cyllid a'r adnoddau eraill sydd eu hangen i gyflawni gweithgareddau gwaith ieuenctid arfaethedig
- cytuno ar gynigion ac argymhellion gyda rhanddeiliaid perthnasol
- cyflwyno cynigion i ddarpar gyllidwyr
- mynd i'r afael ag unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth ac eglurhad
- cytuno ar drefniadau cytundebol gyda chyllidwyr sy'n nodi telerau'r adnoddau a ddarperir
- diweddaru'r holl bartïon perthnasol ynghylch deilliant y cynnig
- rhoi gwybodaeth i'r rhai fydd yn defnyddio'r adnoddau am unrhyw amodau sy'n gysylltiedig â'r cyllid
- datblygu cynlluniau wrth gefn i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau o ran y gofynion gwario
- rhoi system ar waith ar gyfer monitro ffynhonnell ariannu effeithiol
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- canllawiau a chodau ymarfer ac unrhyw ofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a moesegol mewn perthynas â mathau o gyllid a darparwyr cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid
- amcanion, cynlluniau ac adnoddau eich sefydliad eich hun
- gweithgareddau arfaethedig eich sefydliad, gan gynnwys y rhai sydd angen cyllid ac adnoddau
- rhanddeiliaid y sefydliad a'u barn mewn perthynas ag ariannu gweithgareddau'r sefydliad
- y mathau o gyllid a’r darparwyr cyllid ac adnoddau eraill a ddefnyddir gan sefydliad eu hunain, a’r mathau o gyllid a darparwyr cyllid eraill a'u manteision a'u risgiau cysylltiedig
- ffynonellau gwybodaeth am gyfleoedd i gael adnoddau, gan gynnwys y rhai yn y sectorau statudol, preifat, gwirfoddol ac elusennol
- sut i gyflwyno achos busnes a hyrwyddo manteision y prosiectau gwaith ieuenctid arfaethedig
- cwmpas a phwrpas y corff cyllido y cysylltir â nhw a’r adnoddau sydd ar gael ganddynt, ac unrhyw gyfyngiadau y maent yn gweithredu oddi tanynt
- pa wybodaeth sydd ei hangen ar y corff cyllido a'r fformat cywir ar gyfer cyflwyno'r cynnig
- y bobl berthnasol yn eich sefydliad ac unrhyw randdeiliaid pwysig y dylid ymgynghori â nhw ar gynigion ac argymhellion ar gyfer cael cyllid ac adnoddau
- pwysigrwydd cyflwyno ceisiadau clir am gyllid neu geisiadau i ddarparwyr cyllid ac adnoddau eraill, a chaniatáu digon o amser i'w hystyried
- y math o gytundebau y dylid eu rhoi ar waith gyda darparwyr cyllid a'r hyn y dylent ei gwmpasu
- y math o gamau y gallai fod angen eu cymryd pe bai diffyg mewn cyllid
- pam mae’n angenrheidiol paratoi cynlluniau wrth gefn mewn perthynas â chael cyllid a'r math o gynlluniau wrth gefn a allai gael eu rhoi ar waith
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council Scotland
URN gwreiddiol
LSI YW26
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
3221
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; cyllid; adnoddau; gweithgareddau; strategaeth; polisïau; nodi; ffynhonnell; cynigion; rhanddeiliaid; darparwyr; gweithgareddau; cynlluniau; rhaglenni; cynlluniau wrth gefn; costau; risgiau