Pennu, gwerthuso a blaenoriaethu amcanion eich sefydliad ar gyfer gwaith ieuenctid yn y gymuned
Trosolwg
Mae ymchwilio a nodi anghenion pobl ifanc a'r gymuned leol mewn perthynas â gwaith ieuenctid yn helpu i bennu darpariaeth bresennol ac yn cyfrannu at ddatblygu a gwella'r gwaith ieuenctid a ddarperir yn y gymuned.
Byddwch yn ymchwilio i'r anghenion hynny gyda phobl ifanc, gan werthuso a dadansoddi a yw'r ddarpariaeth bresennol yn diwallu anghenion a nodwyd.
Byddwch yn dod i gasgliadau yn seiliedig ar eich canfyddiadau am anghenion pobl ifanc a'r gymuned. Byddwch yn gwneud argymhellion a fydd yn blaenoriaethu anghenion yn unol â chylch gwaith a gallu'r sefydliad i ddarparu cyfleoedd a gweithgareddau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rhai sy'n ymwneud â hysbysu neu ddatblygu cynlluniau gweithredol ar gyfer gwaith ieuenctid yn eu sefydliadau, yn ogystal â'r rhai sy'n cyfrannu at ddatblygu a gwella'r gwaith ieuenctid a ddarperir yn y gymuned.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- casglu'r wybodaeth sydd ar gael fel eich bod yn gallu asesu'r anghenion a'r materion sy'n ymwneud â darparu gwaith ieuenctid
- pennu lefel a natur y gwaith ieuenctid a ddarperir yn y gymuned leol
- pennu anghenion pobl ifanc yn y gymuned i lywio'r gofynion ar gyfer darparu gwaith ieuenctid
- trafod a chytuno gyda phobl ifanc ar y cyfleoedd i wella a datblygu darpariaeth eich sefydliad
- pennu gofynion rhanddeiliaid ac asiantaethau yn y dyfodol drwy ymgynghori ynghylch darparu gwaith ieuenctid
- coladu ac asesu canfyddiadau, a nodi tueddiadau a phatrymau fydd yn helpu eich cynlluniau gweithredol
- chwilio am unrhyw fylchau yn narpariaeth bresennol eich sefydliad
- gwerthuso eich canfyddiadau, dod i gasgliadau a gwneud argymhellion ar gyfer yr ystod o weithgareddau sy'n ofynnol gan bobl ifanc a'r gymuned, gan ystyried ymarferoldeb a manteision eich sefydliad
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar ddarparu gwaith ieuenctid, ac wrth ymchwilio i anghenion
- y mathau o wybodaeth y gallai pobl ifanc, asiantaethau perthnasol a rhanddeiliaid eraill eu darparu sy'n briodol i sefydlu anghenion cymunedol o waith ieuenctid
- dulliau cael adborth gan bobl ifanc ac asiantaethau a rhanddeiliaid perthnasol, a'u manteision a'u anfanteision cymharol
- ffactorau sy'n dylanwadu ar ddarparu gwaith ieuenctid yn y gymuned
- pwysigrwydd bod yn wrthrychol wrth werthuso adborth a'r ffactorau i'w hystyried wrth asesu ei ddilysrwydd
- pwy yw'r asiantaethau a'r rhanddeiliaid perthnasol
- technegau ar gyfer dadansoddi gwybodaeth ansoddol a meintiol
- y cysyniad o ddadansoddi anghenion
- pwysigrwydd cynllunio tymor hir a chanolig er mwyn cyflawni amcanion eich sefydliad yn llwyddiannus
- sut i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth a chymorth wrth ymchwilio i anghenion cymunedol a nodi cyfleoedd ar gyfer gwaith ieuenctid
- pwysigrwydd gwneud asesiad ariannol o'r cyfleoedd a nodwyd, a sut i wneud hyn
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon