Datblygu diwylliant ac ethos sy'n hyrwyddo cynhwysiant ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth

URN: CLD YW19
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Egwyddorion tegwch, amrywiaeth a rhyngddibyniaeth yw’r sail ar gyfer pob ymarfer gwaith ieuenctid ac mae'n un o'r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a'u cymhwyso yn eu hymarfer
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu diwylliant ac ethos o fewn eich sefydliad sy'n hyrwyddo cynhwysiant, cyfle cyfartal ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc a chydweithwyr i sefydlu ac ymgorffori diwylliant cadarnhaol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth i chi gyflawni eich rôl
  2. cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu dealltwriaeth, parch a goddefgarwch tuag at eraill ac amlinellu disgwyliadau eich sefydliad yn hyn o beth
  3. rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am sut i gydnabod unrhyw faterion neu bryderon sy’n ymwneud â chynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yng nghyd-destun eich rôl a sut i gymryd camau ar hyn
  4. gwneud yn siŵr bod pobl ifanc a chydweithwyr yn rhoi polisïau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  5. mynd i'r afael ag unrhyw achosion o ymarfer neu ymddygiad gormesol neu wahaniaethol yr ydych yn ymwybodol ohonynt
  6. ymchwilio i gwynion gan ddilyn gweithdrefnau eich sefydliad
  7. gofyn am gyngor i ddelio ag achosion o ymddygiad gormesol neu wahaniaethol sydd y tu allan i'ch profiad neu derfynau eich cyfrifoldeb
  8. gwneud yn siŵr bod polisïau ac ymarfer cynhwysiant ac amrywiaeth eich sefydliad yn hyrwyddo ac yn ategu gwerthoedd gwaith ieuenctid
  9. cynorthwyo pobl ifanc i fyfyrio ar eu gwerthoedd eu hunain a rhoi cyfleoedd i brofi'r gwerthoedd hyn
  10. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol, rheoliadau, codau ymarfer ac ystyriaethau moesegol sy'n effeithio ar hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
  2. materion lleol, anghydraddoldebau strwythurol ehangach a ffactorau eraill sy'n effeithio ar gynnal cynhwysiant, cyfle cyfartal ac amrywiaeth
  3. pwysigrwydd hyrwyddo ac ysgogi pobl ifanc i ddatblygu diwylliant sy'n hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ac sy'n barchus ac yn oddefgar i'r rhai sydd â chredoau gwahanol, anghrediniaeth, anabledd, rhyw, hunaniaeth, gwerthoedd, cefndir, diwylliannau a chrefyddau eraill
  4. egwyddorion a dulliau a ddefnyddir i hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
  5. beth yw ymddygiad gormesol a gwahaniaethol a ffyrdd o fynd i'r afael â hyn
  6. gweithdrefnau eich sefydliad i ddelio â chwynion am ymddygiad gormesol neu wahaniaethol
  7. pam mae’n bwysig mynd i'r afael ag ymddygiad gormesol neu wahaniaethol yn brydlon ac yn gywir
  8. eich rôl a'ch cyfrifoldebau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant a gwerthfawrogi amrywiaeth gyda phobl ifanc a chydweithwyr
  9. asiantaethau a phartneriaid y gallwch gyfeirio atynt neu gael cymorth ganddynt i hyrwyddo neu ymgorffori cynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth
  10. pam mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod polisïau ac ymarfer cynhwysiant ac amrywiaeth yn hyrwyddo ac ategu gwerthoedd gwaith ieuenctid
  11. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW21

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cydraddoldeb; amrywiaeth; cynhwysiant; diwylliant; systemau; polisi; gweithdrefn; ymarfer; ysgogi; anffafriaeth; ymddygiad; parch; goddefgarwch