Ymgysylltu â phobl ifanc i hybu eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio ymyriadau a gweithgareddau gwaith ieuenctid i gynorthwyo pobl ifanc i archwilio eu hiechyd a'u lles meddyliol ac emosiynol a'u strategaethau ymdopi. Gallai'r ymyriadau a'r gweithgareddau hyn gynnwys gweithgareddau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, ysbrydol a hamdden, gan ddefnyddio rhwydweithiau a gwasanaethau.
Elfen ganolog o’r safon yw hawl pob person ifanc i gael ei gynnwys yn llawn yn gymdeithasol. Byddwch yn helpu pobl ifanc i wireddu eu cryfderau eu hunain, strategaethau ymdopi, dyheadau ac adnoddau a lleihau unrhyw rwystrau i fanteisio ar weithgareddau a gynlluniwyd i annog iechyd a lles meddyliol ac emosiynol cadarnhaol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i ymarferwyr gwaith ieuenctid sy'n gweithio i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol pobl ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynorthwyo pobl ifanc i asesu eu cryfderau, eu dyheadau, eu hadnoddau a’u strategaethau ymdopi eu hunain, a sut y gallant adeiladu ar y rhain
- gwneud awgrymiadau ynghylch gweithgareddau cadarnhaol priodol a/neu rwydweithiau/gwasanaethau i bobl ifanc y gallent ddymuno fanteisio arnynt
- cael gafael ar wybodaeth berthnasol a’i rhannu er mwyn galluogi pobl ifanc i benderfynu ar i ba raddau y maent am gael eu cynnwys mewn gweithgareddau a/neu rwydweithiau/gwasanaethau perthnasol
- creu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau a/neu rwydweithiau/gwasanaethau y maent wedi mynegi diddordeb ynddynt
- lleihau unrhyw rwystrau i allu manteisio ar weithgareddau a/neu rwydweithiau priodol
- rhoi cymorth yn ôl yr angen i alluogi pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau a/neu rwydweithiau/gwasanaethau perthnasol
- gofyn am gyngor i amddiffyn lles pobl ifanc, lle mae cymryd rhan mewn gweithgaredd a/neu rwydwaith yn ymddangos fel pe bai’n cael effeithiau negyddol ar eu hymddygiad, eu hiechyd a’u lles meddyliol ac emosiynol
- cymryd camau yn unol â'r cyngor a roddir i chi er mwyn cael deilliant cadarnhaol i'r bobl ifanc yr ydych yn eu cynorthwyo
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau cyfreithiol, sefydliadol a chodau ymarfer sy'n berthnasol i weithio gyda phobl ifanc ag anghenion iechyd emosiynol, a'u heffaith ar gyfathrebu â phobl ifanc yn effeithiol
- ffactorau sy'n effeithio ar anghenion a/neu alluoedd pobl ifanc i drefnu cefnogaeth, cymorth a chymryd camau'n uniongyrchol
- ffactorau sy'n dylanwadu ar hunanddelwedd pobl ifanc a'u parodrwydd i ryngweithio ag eraill a’u diddordeb mewn gwneud hynny
- y mathau o gefnogaeth a chymorth y gallai fod eu hangen ar bobl ifanc ar wahanol adegau ac mewn cyd-destunau gwahanol a sut i gael gafael ar y rhain
- unrhyw faterion hunaniaeth a allai rwystro pobl ifanc rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau gwaith ieuenctid
- pa fath o wybodaeth y gall fod ei hangen ar bobl ifanc, sut caiff ei defnyddio a sut gellir cynnal cyfrinachedd a diogelu
- sut a ble i gael gwybodaeth a chymorth sy’n gallu llywio eich arferion
- pwysigrwydd gwerthfawrogi, cydnabod, parchu a hyrwyddo amrywiaeth, arbenigedd a phrofiad pobl ifanc ag anghenion iechyd meddwl ac emosiynol a’r bobl sy’n bwysig iddynt
- sut i herio rhagdybiaethau mewn ffordd adeiladol sy'n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
- sut a phryd i gael cymorth ar gyfer pobl ifanc mewn sefyllfaoedd y tu hwnt i'ch profiad a'ch arbenigedd
- sut a phryd i gael cymorth ar gyfer eich hun
- y ffurfiau y gall gwahaniaethu eu cymryd, yr ymddygiadau a allai fynegi’r rhain a sut gall y rhain amrywio rhwng gwahanol grwpiau ac mewn gwahanol leoliadau
- effeithiau posibl stereoteipio, stigmateiddio, rhagfarn a labelu ar bobl a sut i gynorthwyo pobl a allai fod â phrofiad o’r rhain
- ffactorau a allai eithrio pobl o’r ddarpariaeth a sut i fynd i’r afael â’r rhain
- beth yw gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol
- eich gwerthoedd eich hun a sut mae'r rhain yn effeithio ar eich gwaith gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a chyda darparwyr gwasanaethau eraill
- pwysigrwydd herio gwahaniaethu ac ymddygiad gormesol a sut i wneud hynny o fewn a thrwy strwythurau eich sefydliad a thu hwnt i'r rhain
- achosion gwahaniaethu ac aflonyddu
- gweithdrefnau cofnodi a rhoi gwybod am arferion a digwyddiadau gwahaniaethol
- y gwerthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon