Monitro ac adolygu polisi ac arferion eich sefydliad ar gyfer amddiffyn a diogelu pobl ifanc a'ch hunan
URN: CLD YW17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Diogelu pobl ifanc yw un o'r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a'u cymhwyso yn eu hymarfer.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at bolisïau ac arferion sy'n amddiffyn pobl ifanc, eu creu, a’u rhoi ar waith Yn rhan o hyn, byddwch yn gwneud yn siŵr eich bod yn rhoi camau recriwtio a goruchwylio diogel ar waith, yn dilyn gweithdrefnau ac yn cadarnhau bod cydweithwyr yn gwneud hyn hefyd fel bod camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i ddiogelu pobl ifanc pan fo angen.
Mae'r safon hon yn addas i bob gweithiwr ieuenctid, gan fod pawb yn gyfrifol am amddiffyn plant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- diogelu ac amddiffyn pobl ifanc gan ddilyn gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, codau ymarfer a dyletswydd gofal
- cadarnhau bod cydweithwyr a phobl ifanc yn ymwybodol o'r polisïau a'r gweithdrefnau diogelu, a'r rhesymeg y tu ôl iddynt
- rhoi gweithdrefnau recriwtio a gwirio gweithwyr ar waith ar gyfer gweithwyr a gwirfoddolwyr yn unol â deddfwriaeth gyfredol a gofynion sefydliadol
- goruchwylio fel ffordd o ddiogelu pobl ifanc
- rhoi cymorth ymsefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus i weithwyr a gwirfoddolwyr wrth gymhwyso ymarfer da
- rhoi cymorth i bobl ifanc pan fyddant yn defnyddio mathau newydd o gyfryngau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn dioddef bwlio ac aflonyddu
- cytuno â chydweithwyr perthnasol ar y gweithdrefnau a'r camau i'w cymryd i ymdrin ag amheuon, honiadau a digwyddiadau sy'n mynd yn groes i arferion da a rhoi gwybod amdanynt
- cytuno ar weithdrefnau i'w dilyn mewn perthynas â chyfrinachedd, datgelu a chydsynio
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol ac o ran codau ymarfer a dyletswydd gofal mewn perthynas ag amddiffyn a diogelu pobl ifanc
- gofynion, polisïau ac arferion eich sefydliad o ran recriwtio’n ddiogel a diogelu, gan gynnwys cael caniatâd gwybodus pan fo angen
- pwysigrwydd sefydlu polisi sy'n cydnabod mai diogelwch y person ifanc sydd bwysicaf, a bod cyfrifoldeb gan yr holl staff, gan gynnwys gwirfoddolwyr, i roi gwybod i'r person perthnasol am unrhyw bryderon
- yr egwyddorion sy'n sail i bolisïau a gweithdrefnau amddiffyn a diogelu pobl ifanc
- pwysigrwydd cynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau, a ffyrdd o wneud hyn
- dulliau effeithiol o gyfathrebu'r polisïau a'r gweithdrefnau, yn ogystal â chynorthwyo’r ffordd y cânt eu gweithredu yn eich sefydliad
- y meini prawf monitro ac adolygu i'w defnyddio i wirio effeithiolrwydd polisïau a gweithdrefnau i amddiffyn a diogelu pobl ifanc
- y camau i'w cymryd pan fydd polisi neu weithdrefn wedi cael ei thorri
- y polisïau a'r gweithdrefnau sydd wedi’u mabwysiadu gan sefydliadau partner i amddiffyn pobl ifanc
- yr asiantaethau a’r rhanddeiliaid yn eich sectorau eich hun a sectorau eraill sy'n rhoi cymorth, gan bwy y gellir cael gwybodaeth, ac at bwy y gellir cyfeirio er mwyn diogelu ac amddiffyn
- pwysigrwydd annog arferion rhagorol er mwyn diogelu ac amddiffyn staff rhag honiadau ffug
- terfynau cyfrinachedd, pryd mae'n bwysig datgelu, a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny
- arferion da o ran recriwtio, ymsefydlu a chymorth hyfforddiant parhaus ar gyfer amddiffyn a diogelu pobl ifanc a chi eich hun
- y gweithdrefnau ar gyfer diogelu ac amddiffyn pobl ifanc a chi eich hun, gan gynnwys diogelu digidol
- sut i roi cymorth ymsefydlu a datblygiad proffesiynol parhaus i weithwyr a gwirfoddolwyr wrth gymhwyso arferion da
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council Scotland
URN gwreiddiol
LSI YW20
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
3221
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; diogelu; lles; amddiffyn; gofynion; amgylchedd; atgyfeiriadau; cyfrinachedd; datgelu; cydsyniad; arferion; polisi; gweithdrefnau