Helpu pobl ifanc i asesu risg a gwneud dewisiadau gwybodus wrth reoli eu hiechyd a'u lles

URN: CLD YW15
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n ceisio mynd i'r afael â lles pobl ifanc a'i wella.
Byddwch yn gweithio gyda phobl ifanc i nodi materion a allai effeithio ar eu lles a byddwch yn annog pobl ifanc i gymryd gofal rhesymol ac i gymryd cyfrifoldeb dros ofalu am eu lles eu hunain.
O fewn y safon hon, mae 'lles' yn cynnwys iechyd personol, corfforol ac emosiynol pobl ifanc.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno â phobl ifanc ar y ffactorau nodweddiadol a allai effeithio ar eu hiechyd a'u lles
  2. sefydlu meini prawf allweddol i'w defnyddio gan bobl ifanc i ddiffinio cyflwr eu hiechyd a’u lles, gan gynnwys risgiau
  3. asesu lles pobl ifanc drwy ddefnyddio'r meini prawf y cytunwyd arnynt
  4. trafod deilliant yr asesiad gyda'r bobl ifanc a'u cynorthwyo i ddatblygu meini prawf ar gyfer strategaethau i wella eu hiechyd a'u lles
  5. rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad perthnasol a diweddar i bobl ifanc, yn unol â'ch cymhwysedd a'ch cyfrifoldeb eich hun
  6. gofyn i bobl ifanc fyfyrio ar eu hymddygiad a phennu achosion a goblygiadau eu gweithredoedd
  7. atgoffa pobl ifanc i wirio eu cynnydd, cydnabod cyflawniadau a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau
  8. cynnal cyfrinachedd a chofnodion fel y bo'n briodol yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol
  9. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol a sefydliadol, gan gynnwys y cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol, sy'n effeithio ar roi gwybodaeth, arweiniad a chymorth sy'n ymwneud â lles pobl ifanc
  2. gofynion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n berthnasol i storio, cadw a chynnal gwybodaeth
  3. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad o ran cyfrinachedd gwybodaeth a datgelu gwybodaeth i drydydd parti, ac o dan ba amgylchiadau penodol y gellir datgelu
  4. y prif asiantaethau a'r llwybrau atgyfeirio sydd ar gael i gynorthwyo pobl ifanc ynglŷn â'u hiechyd a'u lles, a sut i fanteisio ar y rhain
  5. pwysigrwydd cynnal hawl y person ifanc i wneud eu dewisiadau eu hunain
  6. materion economaidd-gymdeithasol lleol a chenedlaethol a'u heffaith ar les pobl ifanc
  7. ffactorau risg sy'n effeithio ar les pobl ifanc yn y gymuned leol, gan gynnwys y gymuned ddigidol
  8. pam mae’n bwysig i'r person ifanc reoli cynnydd a chynnwys trafodaethau, sut i wneud awgrymiadau a phryd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf
  9. pam mae’n bwysig peidio â barnu'r ffyrdd y mae pobl ifanc yn dewis byw a'r dewisiadau y maent wedi'u gwneud
  10. pam mae’n bwysig helpu pobl ifanc i ystyried achosion ac effeithiau eu dewisiadau a'u hymddygiad arnyn nhw eu hunain ac ar eraill a dulliau o wneud hyn
  11. sut mae diwylliant, credoau a dewisiadau effeithio yn gallu effeithio ar barodrwydd person ifanc i drafod materion a'r strategaethau y gellir eu defnyddio i annog hyn
  12. strategaethau ar gyfer annog pobl ifanc i drafod materion yn agored ac yn onest, sut i barchu a chydnabod blaenoriaethau pobl eraill mewn perthynas â'u lles a'u hawl i wrthod awgrymiadau a gwybodaeth
  13. eich rôl a'ch cyfrifoldebau a chan bwy y dylid gofyn am gymorth a chyngor a chymorth pan fo angen
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW18

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; hawliau; lles; hysbysrwydd; cyngor; arweiniad; cynorthwyo; ymddygiad; ffordd o fyw; myfyrio; cynnydd; her; rhyngddibyniaeth; gweithredoedd; cyflawniadau