Helpu pobl ifanc i gydnabod, gwireddu ac amddiffyn eu hawliau
Trosolwg
Hwyluso a grymuso llais pobl ifanc yw un o'r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a'u cymhwyso yn eu hymarfer.
Mae'r safon hon yn cyflwyno pobl ifanc i gytundebau hawliau a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer plant a phobl ifanc ac mae'n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc i hyrwyddo ac ymgorffori eu hawliau o fewn gweithgareddau gwaith ieuenctid, a meysydd eraill yn eu bywydau. Byddwch yn defnyddio modelau a thechnegau eirioli i gynorthwyo pobl ifanc i wneud hyn. Mae'r safon yn cyfeirio at grwpiau penodol o bobl ifanc a allai fod â hawliau ac amddiffyniadau ychwanegol, fel ffoaduriaid, pobl ifanc â phrofiad o ofal, a phobl ifanc ag anableddau.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- defnyddio dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth weithio gyda phobl ifanc
- cynorthwyo pobl ifanc i fabwysiadu technegau a fydd yn eu helpu i fynegi eu safbwyntiau a'u barn
- rhoi awgrymiadau i bobl ifanc ynghylch sut i gyflwyno eu syniadau i eraill gan ystyried eu hawliau a rhai pobl eraill
- eirioli gyda, ac ar ran, pobl ifanc gyda chyfoedion, cydweithwyr a rhanddeiliaid eraill
- cymryd camau i herio achosion o ormes a gwahaniaethu ymhlith ac yn erbyn pobl ifanc o fewn ffiniau eich rôl
- cyflawni eich rôl yn unol â'r canllawiau a'r codau ymarfer perthnasol mewn perthynas â hawliau pobl ifanc
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a chodau ymarfer sy'n ymdrin â hawliau plant a phobl ifanc gan gynnwys eu cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
- pwerau a dyletswyddau Comisiynwyr Plant a Phobl Ifanc ym mhob un o'u gwledydd datganoledig perthnasol
- y sefydliadau cenedlaethol pwysig a’r asiantaethau lleol sy'n gyfrifol am nodi a monitro hawliau plant a phobl ifanc
- pwysigrwydd ystyried barn pobl eraill mewn perthynas â chynnal hawliau pobl ifanc
- gweithdrefnau eich sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi fod yn ymwybodol o ormes a gwahaniaethu a'u herio
- modelau a thechnegau eirioli
- egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i gymhwyso'r rhain i gyfathrebu'n effeithiol â phobl ifanc, asiantaethau eraill a rhanddeiliaid
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon