Cael gafael ar wybodaeth gyda phobl ifanc, ac ar eu cyfer, er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus
URN: CLD YW13
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo pobl ifanc i nodi a chael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae hefyd yn cynnwys rhoi gwybodaeth briodol a ffeithiol, gwerthuso effeithiolrwydd gwybodaeth a meddwl yn feirniadol i wneud penderfyniadau.
Mae rhoi cymorth yn rhan o rôl y gweithiwr ieuenctid ac nid yw'n dileu hawl y person ifanc i rymuso. Ni fwriedir iddo gwmpasu proses fwy ffurfiol cwnsela.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu ac asesu natur y wybodaeth a'r cymorth y mae pobl ifanc yn chwilio amdanynt
- dod o hyd i wybodaeth gyfredol a ffeithiol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cynorthwyo pobl ifanc i ddod o hyd i wybodaeth, ei chasglu, ei chyflwyno i eraill a chadw'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt mewn cyfryngau perthnasol
- meddwl yn feirniadol a defnyddio dulliau dadansoddi i adolygu’r wybodaeth a gafwyd gyda phobl ifanc
- helpu pobl ifanc i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ychwanegol a chymryd camau priodol lle gallai’r wybodaeth fod wedi dyddio neu'n gamarweiniol
- cynorthwyo pobl ifanc i drefnu gwybodaeth i greu opsiynau ar gyfer gwneud penderfyniadau
- cadarnhau gyda phobl ifanc sut maent yn bwriadu defnyddio'r wybodaeth y maent wedi cael gafael arni
- cynllunio a chytuno gyda phobl ifanc pa gymorth a ddarperir ar eu cyfer
- rhoi cymorth i bobl ifanc pan fyddant yn defnyddio mathau newydd o gyfryngau i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn dioddef bwlio ac aflonyddu
- gwerthuso effeithiolrwydd y wybodaeth a’r cymorth a roddir, a’u defnyddio i lywio gofynion cymorth yn y dyfodol
- monitro a chymryd camau i wneud yn siŵr bod y wybodaeth y ceir gafael arni yn gyfredol
- gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i storio yn unol â gofynion ac arferion deddfwriaethol a sefydliadol
- rhoi cymorth yn unol â lefelau eich cyfrifoldeb
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam mae’n bwysig i bobl ifanc allu cael gafael ar wybodaeth drostynt eu hunain o amrywiaeth eang o ffynonellau
- anghenion gwybodaeth nodweddiadol pobl ifanc
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cynorthwyo pobl ifanc wrth ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy
- ffynonellau gwybodaeth sy'n berthnasol i bobl ifanc
- hawliau unigolyn i wybodaeth
- y prif fathau o gyfryngau a ddefnyddir gan bobl ifanc i gael gafael ar wybodaeth, ei storio, ei chreu a’i harddangos
- ffactorau sy'n effeithio ar hygyrchedd gwybodaeth
- ffyrdd o gyflwyno a chael gafael ar wybodaeth i allu gwneud penderfyniadau effeithiol ac sy'n galluogi cynlluniau gweithredu tuag at ddeilliannau
- sut i gadw pobl ifanc yn ddiogel wrth ddefnyddio ffurfiau newydd o gyfryngau
- pwysigrwydd cynnal hawliau pobl ifanc i wneud eu penderfyniadau a'u technegau eu hunain i'w helpu i wneud hynny
- y cymorth a allai fod ei angen ar bobl ifanc i ddeall gwybodaeth, gwneud penderfyniadau a chynllunio camau gweithredu a deilliannau
- ffyrdd o wneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei diweddaru
- gofynion deddfwriaethol a sefydliadol sy'n ymwneud â diogelu data, hawlfraint, eiddo deallusol a rhyddid gwybodaeth
- pwysigrwydd gwneud yn siŵr bod gwybodaeth yn cael ei chasglu a'i storio yn unol â pholisi ac ymarfer eich sefydliad
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council Scotland
URN gwreiddiol
LSI YW16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
3221
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; gwybodaeth; penderfyniadau; cynorthwyo; camau; nodau; deilliannau; nodau; cyfryngau; gwerthoedd; cynllun gweithredu; asiantaethau