Rheoli adnoddau gyda phobl ifanc ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid

URN: CLD YW12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n cynorthwyo pobl ifanc i reoli adnoddau, gan gynnwys cyllid, ar gyfer digwyddiad, gweithgaredd a/neu brosiect. Mae hefyd yn addas ar gyfer y rhai sy'n rheoli adnoddau a chyllid prosiect o'r fath eu hunain.
Mae'r safon hon yn cynnwys gweithio gyda phobl ifanc i lunio cynllun ariannol a phrosiect ar gyfer digwyddiad, gweithgaredd a/neu brosiect, rheoli'r adnoddau sydd eu hangen, monitro'r incwm a'r gwariant, a chadw cofnodion cywir.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, gallai gweithgareddau fod yn annibynnol, helpu i greu rhaglen a/neu fod yn rhan o brosiect.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig
  2. cytuno â phobl ifanc ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig, gan gynnwys y sgiliau angenrheidiol, amser pobl, cyfarpar a deunyddiau
  3. cynorthwyo pobl ifanc i nodi unrhyw fylchau yn yr adnoddau gofynnol sydd ar gael, i archwilio opsiynau ar gyfer llenwi'r bylchau, a'r effaith ar gyllidebau
  4. cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu cynlluniau realistig ar gyfer codi arian a chael adnoddau pellach, a’u rhoi ar waith
  5. cynorthwyo pobl ifanc i baratoi ceisiadau am gyllid
  6. cynnwys pobl ifanc wrth baratoi cynllun prosiect cywir ar gyfer y gweithgaredd gofynnol sy'n nodi amserlen o gamau gweithredu
  7. cytuno ar gynllun a chyllideb y prosiect gyda'r bobl ifanc dan sylw ac unrhyw bartïon perthnasol eraill
  8. gweithio gyda phobl ifanc i sefydlu system ar gyfer monitro cynnydd yn erbyn yr amserlen a'r gyllideb
  9. monitro'r gwariant ac unrhyw incwm wrth i’r gweithgaredd fynd rhagddo, gan nodi unrhyw amrywiadau sylweddol o ran y gyllideb, y rhesymau dros y rhain, a chymryd camau priodol
  10. cynorthwyo pobl ifanc i adolygu deilliannau'r gweithgaredd, gan gynnwys sut y rheolir adnoddau, a defnyddio'r canfyddiadau i wneud argymhellion i lywio gwaith yn y dyfodol
  11. cadw cofnodion clir, cywir a chynhwysfawr gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer cadw cofnodion
  12. rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith sy'n lliniaru yn erbyn y risg i adnoddau
  13. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid, a'u heffaith ar faes eich gweithrediadau
  2. deddfwriaeth a chanllawiau sefydliadol sy'n ymwneud â chodi arian neu adnoddau eraill ar gyfer gweithgareddau gwaith ieuenctid
  3. y wybodaeth sydd ei hangen a ble i ddod o hyd iddi, ar gyfer paratoi amcangyfrif realistig o'r gyllideb a'r adnoddau angenrheidiol ar gyfer y gweithgareddau
  4. pam mae’n bwysig bod pobl ifanc yn helpu i amcangyfrif, cynllunio a rheoli adnoddau
  5. pwysigrwydd treulio amser yn ymgynghori â phartïon perthnasol wrth amcangyfrif yr adnoddau sydd eu hangen a sefydlu cyllideb ar gyfer gweithgareddau
  6. sut i baratoi cyllideb gyda phobl ifanc, cytuno arni a’i monitro
  7. atebolrwydd ariannol ac i ba raddau y mae pobl yn gyfrifol yn ariannol yn eich sefydliad
  8. sut i werthuso gofynion o ran adnoddau a nodi bylchau
  9. pam mae’n bwysig cynorthwyo pobl ifanc i gael eu hadnoddau eu hunain ar gyfer gweithgareddau
  10. yr ystod o adnoddau sydd ar gael, o fewn a thu allan i'r sefydliad ei hun
  11. sut i osod, monitro a dogfennu cynlluniau gweithredu gyda phobl ifanc
  12. systemau olrhain incwm a gwariant wrth gynnal digwyddiad, gweithgaredd neu brosiect
  13. pam mae’n bwysig monitro gwariant yn ofalus a chynnwys pobl ifanc yn y gwaith monitro
  14. pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gywir a rheolaidd am berfformiad yn erbyn y gyllideb i bobl berthnasol
  15. terfynau eich awdurdod, ac at bwy y dylech chi gyfeirio pan fo angen
  16. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; adnoddau, gweithgareddau, digwyddiadau; prosiectau; gweithredoedd; cynlluniau; cyllidebau; monitro; cynlluniau prosiect; gwariant