Cynllunio, paratoi a hwyluso gweithgareddau dysgu gyda phobl ifanc

URN: CLD YW11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n ymwneud â datblygu gweithgareddau gyda phobl ifanc, ac ar eu cyfer, sy'n rhan allweddol o lawer o rolau gwaith ieuenctid.
Mae gweithgareddau sy’n cynnwys pobl ifanc yn cael eu cynllunio, eu paratoi a’u hwyluso drwy ymgysylltu â phroses gwaith ieuenctid a datblygu cyfleoedd dysgu gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer. Mae cynnwys pobl ifanc wrth ddylunio a datblygu gweithgareddau yn rhan o’r safon hefyd.
Yn dibynnu ar y cyd-destun, gallai gweithgareddau fod yn annibynnol, helpu i greu rhaglen a/neu fod yn rhan o brosiect.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwneud awgrymiadau i bobl ifanc ar gyfer gweithgareddau y gallent fod eisiau cymryd rhan ynddynt sy'n berthnasol i'w hanghenion ac sy'n briodol ar gyfer y lleoliad
  2. galluogi pobl ifanc i ymgymryd â rolau arwain a/neu gyflawni yn ystod gweithgareddau
  3. cynorthwyo pobl ifanc i gytuno ar y camau i'w cymryd i gyflawni gweithgareddau y cytunwyd arnynt, a chofnodi’r camau hyn
  4. cytuno â phobl ifanc ar y rheolau sylfaenol a nodau’r gweithgaredd ac unrhyw feini prawf y dylid monitro a gwerthuso llwyddiant y gweithgaredd yn eu herbyn
  5. cytuno â'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan ar sut y dylid mynd i'r afael â phryderon, cyfyngiadau neu rwystrau posibl i gyflawni nodau’r gweithgaredd
  6. canmol pobl ifanc pan fyddant yn gwneud cyfraniadau llwyddiannus ac yn cwblhau gweithgareddau
  7. cynnwys pobl ifanc wrth fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y gweithgaredd a nodi ffyrdd o wella gweithgareddau
  8. gweithio o fewn y cwricwla neu'r rhaglenni presennol lle bo hynny'n berthnasol
  9. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n berthnasol i'ch gwaith gyda phobl ifanc, gan gynnwys rhai eich hun a sefydliadau perthnasol eraill
  2. y theori, y wybodaeth a’r egwyddorion sy’n sail ar gyfer cael pobl ifanc i gymryd rhan
  3. y dulliau a’r offer sy'n addas ar gyfer cynllunio gweithgareddau gwaith ieuenctid
  4. y prosesau a’r technegau ar gyfer dylunio a datblygu gweithgareddau gyda phobl ifanc
  5. pwysigrwydd dylunio gweithgareddau sy'n ystyried y dulliau dysgu a ffefrir gan y rhai sy'n cymryd rhan, a sut i wneud hyn
  6. sut i nodi a goresgyn rhwystrau i ddysgu effeithiol, a’r gweithgareddau a’r dulliau o fynd i'r afael â'r rhain
  7. y mathau o leoliadau ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgareddau, a’r cyfleoedd, yr opsiynau a’r cyfyngiadau o ran cael y rhain o fewn gofynion cyllideb ac amser
  8. ffyrdd o annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau y cytunwyd arnynt
  9. pam mae’n bwysig monitro dynameg y grŵp o ran gwrthdaro a sut i fynd i'r afael â hyn yn brydlon ac yn deg
  10. ffyrdd effeithiol o weithio gyda phobl ifanc a'u cynnwys wrth osod meini prawf ar gyfer monitro gweithgareddau a’u gwerthuso
  11. sut i adnabod cyflawniad, a rhoi adborth cadarnhaol ac adeiladol i bobl ifanc
  12. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

LSI YW11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cynllunio; paratoi; hwyluso; gweithgareddau; rhwystrau; ymddygiad; adnoddau; asiantaethau eraill; llwyddiannau