Eirioli gyda phobl ifanc, ac ar eu rhan, fel bod eu buddiannau'n cael eu cynrychioli
Trosolwg
Pwysigrwydd bod pobl ifanc yn cymryd rhan ac yn cael eu cynnwys yw un o'r gwerthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdano a'i gymhwyso'n ymarferol. Mae annog pobl ifanc i gymryd rhan ac eirioli yn helpu i roi hwb i sgiliau a hyder pobl ifanc.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu i gynrychioli eu barn a'u gwerthoedd nhw a rhai eu cyfoedion, i eraill. Mae hefyd yn cynnwys nodi beth yw anghenion a diddordebau unigolion neu grwpiau o bobl ifanc a chyflwyno eu hanghenion a'u diddordebau yn gywir ac yn deg.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n cyfathrebu ac yn gweithredu ar ran pobl ifanc, a/neu sy'n annog pobl ifanc i gynrychioli eu hunain.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dewis modelau eirioli i'w defnyddio gyda phobl ifanc
- cytuno â phobl ifanc ar y materion allweddol y maent am fynd i'r afael â nhw drwy eirioli, y deilliannau a ddymunir, a'r gofynion gwybodaeth
- cynorthwyo pobl ifanc i ymgysylltu â phobl briodol, gan gynnwys y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- trafod cyfleoedd, a chytuno arnynt, i bobl ifanc gymryd rhan a chynrychioli eu hunain
- cynorthwyo pobl ifanc i gasglu gwybodaeth ddigonol a dilys i'w galluogi i ategu a chyflwyno eu barn a'u diddordebau
- cytuno â phobl ifanc ar sut i deilwra sut y cyflwynir eu barn a'u diddordebau i wahanol gynulleidfaoedd
- helpu pobl ifanc i gynllunio'r hyn y maent am ei gyfathrebu
- annog pobl ifanc i gynrychioli eu hunain a'u helpu i ddatblygu strategaethau i ymdopi ag unrhyw gyfyngiadau neu rwystrau y maent yn eu hwynebu wrth wneud hyn
- adolygu'r wybodaeth sydd ar gael am anghenion pobl ifanc a chasglu gwybodaeth ychwanegol fel y gallwch chi eirioli ar eu rhan lle bo angen
- cyflwyno diddordebau pobl ifanc i'r gynulleidfa, gwrando ar ymateb eraill a chynnig adborth adeiladol
- cofnodi a chynnal cofnodion o'r wybodaeth a gyflwynir a'r camau a gymerir
- adolygu deilliannau'r sylwadau gyda phobl ifanc, a chytuno ar gamau gweithredu priodol yn dilyn hynny
- cydymffurfio â chodau ymarfer perthnasol, canllawiau a gofynion moesegol a gweithio yn unol â gwerthoedd gwaith ieuenctid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich rôl a'ch cyfrifoldebau mewn perthynas ag eirioli barn a diddordebau pobl ifanc
- modelau, dulliau a thechnegau eirioli
- amgylchiadau nodweddiadol lle gall fod angen eirioli pobl ifanc
- ffactorau sy'n effeithio ar allu pobl ifanc i gymryd rhan a chynrychioli eu hunain
- dulliau asesu aeddfedrwydd, sgiliau a hyder pobl ifanc sy'n berthnasol i gyflwyno eu barn a'u diddordebau
- pwysigrwydd pennu nodau realistig ar gyfer deilliannau camau cynrychioli
- sut i gytuno ar yr eiriolaeth sydd ei hangen gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer, gan gynnwys y nodau, y wybodaeth sydd ei hangen a sut i gyflwyno'r achos
- yr ystod o sefyllfaoedd lle gallai fod angen cynrychioli, a'r ffactorau i'w hystyried wrth baratoi ar gyfer y rhain
- â phwy i gysylltu er mwyn fynd ar drywydd diddordebau pobl ifanc
- y math o wybodaeth sydd ei hangen a sut i gael gwybodaeth ychwanegol er mwyn eirioli’n gywir ac yn deg
- pwysigrwydd paratoi wrth gyflwyno barn a dadleuon, anghenion a disgwyliadau'r gynulleidfa, a ffyrdd o gyflawni hyn
- y gwahaniaeth rhwng y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a'r rhai sy'n dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau, a phwysigrwydd y naill fel y llall
- y sgiliau cyfathrebu priodol i gyflwyno safbwyntiau a diddordebau
- materion nodweddiadol a meysydd pryder a godwyd wrth eirioli a ffyrdd o'u datrys
- sut i roi adborth ac adolygu deilliannau eirioli gyda phobl ifanc
- sut i gymryd unrhyw gamau gofynnol yn dilyn y gynrychiolaeth eirioli
- codau ymarfer cyfreithiol, sefydliadol a moesegol, canllawiau a gofynion sy'n berthnasol i waith ieuenctid a'ch rôl eich hun
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon