Cynorthwyo pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion cyfrifol drwy chwarae rhan amlwg mewn gwaith ieuenctid
Trosolwg
Mae pwysigrwydd cael pobl ifanc i gymryd rhan a chwarae rôl amlwg yn werthoedd y disgwylir i weithwyr ieuenctid wybod amdanynt a'u cymhwyso'n ymarferol, ac maent yn sail i’r safon hon
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr ieuenctid sy'n annog pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gwybodus, ymgysylltiol a chyfrifol, gan ddatblygu dealltwriaeth o'r gymuned ehangach a'u lle ynddi.
Mae'n cynnwys annog a chynorthwyo pobl ifanc i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol ac ehangach a hyrwyddo dealltwriaeth o sut i fod yn effeithiol wrth gysylltu â’r cymunedau hyn, eu herio a gwneud cyfraniad cadarnhaol ynddynt.
Yng nghyd-destun y safon hon, gall cymunedau ehangach gynnwys grwpiau cymdeithasol, diwylliannol neu bersonol, yn ogystal â chymunedau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang a allai fod yn destun proses ddemocrataidd neu wleidyddol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- rhoi gwybodaeth i bobl ifanc sy'n ymwneud â'r cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang ehangach ac edrych ar y manteision iddynt o ganlyniad i gymryd rhan yn y rhain
- galluogi pobl ifanc i nodi eu man cychwyn o ran hunanymwybyddiaeth a hunanhyder
- cynorthwyo pobl ifanc i ystyried unrhyw risg a allai fod yn gysylltiedig wrth weithio ar nodau eu gwaith ieuenctid
- trafod gyda phobl ifanc ffyrdd o sut y gallant gymryd rhan yn y gymuned ehangach a'u hannog i herio syniadau a gwneud penderfyniadau
- cynnwys pobl ifanc wrth gytuno a threfnu gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i ddatblygu eu hymgysylltiad fel dinasyddion
- gwneud yn siŵr bod adnoddau digonol ar gyfer pobl ifanc i ddatblygu'r gweithgareddau a ddewiswyd wrth iddynt gynllunio eu hamcanion
- cynorthwyo pobl ifanc i gynnal asesiad risg yn ystod y gweithgareddau a chymryd y camau priodol i fireinio'r nodau
- ystyried y meini prawf ar gyfer asesu risg a gwerthuso gweithgareddau a chytuno arnynt gyda’r bobl ifanc, a sut y caiff cynnydd ei fonitro
- gwirio bod y gweithgareddau'n mynd rhagddynt ac yn bodloni amcanion
- cynorthwyo pobl ifanc i fyfyrio ar y pwyntiau dysgu sy'n deillio o weithgareddau a’u trafod, a defnyddio'r dysgu hwn i ddatblygu eu hunain fel dinasyddion cyfrifol
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manteision annog a chynorthwyo pobl ifanc i ehangu eu gorwelion, a chysylltu â'u hunain a'u cynnwys yn y gymuned ehangach, a bod yn ddinasyddion cyfrifol
- beth a olygir gan ddinasyddiaeth gyfrifol, gan gynnwys ei pherthynas â theuluoedd, cymunedau lleol, llywodraeth leol a chenedlaethol, a materion rhyngwladol a byd-eang
- sut mae dinasyddiaeth yn cael sylw yn yr amgylchedd dysgu, a sut y gall gweithgareddau gwaith ieuenctid ategu hyn
- y broses ddemocrataidd a rôl llywodraeth leol a chanolog, gan gynnwys y rolau a’r cyfrifoldebau pwysig sy’n gysylltiedig â gwneud penderfyniadau
- natur a nodau'r prif bleidiau gwleidyddol
- cyfleoedd a gweithgareddau i wella sut mae pobl ifanc yn cymryd rhan mewn cymunedau ehangach, gan gynnwys cyfleoedd i wirfoddoli ac arwain, a sut i gael mynediad atynt, eu creu a rhoi ar waith
- y rhwystrau a’r cyfyngiadau sydd, ym marn pobl ifanc, yn eu hatal rhag cyflawni eu potensial fel dinasyddion cyfrifol, a chamau priodol tuag at oresgyn y rhain
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n ymwneud â rheoli risgiau gyda phobl ifanc ac effaith y gofynion hyn ar eich rôl.
- mathau o risg a'r ffactorau sy'n creu gwahanol fathau o risg
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon