Ymgysylltu â phobl ifanc a'u galluogi i ddefnyddio'r cyfryngau digidol yn eu bywydau bob dydd

URN: CLD YW08
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae pwysigrwydd deall y byd digidol y mae pobl ifanc yn byw ynddo, a chael yr hyder i helpu pobl ifanc i lywio a chael eu galluogi mewn agweddau ar-lein a thechnolegol eu bywydau, yn hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid mewn oes ddigidol.
Nid yw'n hanfodol i bob gweithiwr ieuenctid ddangos lefelau uchel o arbenigedd technegol, ond mae'n bwysig bod gweithwyr ieuenctid yn gwerthfawrogi'r rôl y mae digideiddio a'r rhyngrwyd yn ei chwarae ym mywydau pobl ifanc ac yn gallu ymgysylltu â nhw.
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r sgiliau, dulliau a'r mathau o wybodaeth sydd eu hangen ar weithwyr ieuenctid i ddatblygu eu gallu i gefnogi pobl ifanc i fod yn fwy ymwybodol o'u perthnasoedd a'u hymddygiad ar-lein, meddwl yn feirniadol am y cyfryngau a'r cynhyrchion maen nhw'n eu defnyddio ar-lein, creu cynnwys, defnyddio platfformau ar-lein i rannu eu lleisiau, amddiffyn eu hawliau a dylanwadu ar gymdeithas.
Mae'r safon hon ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ymchwilio i gyfleoedd posibl i gydweithio ag asiantaethau eraill a gwella ymarfer
  2. datblygu gweithgareddau ymgysylltu, eu rhoi ar waith, myfyrio arnynt a’u hailddylunio ar gyfer unigolion a grwpiau mewn perthynas â defnyddio cyfryngau digidol a thechnoleg
  3. cynllunio gwaith ieuenctid digidol ochr yn ochr ac yn unol ag anghenion pobl ifanc
  4. asesu lefel llythrennedd digidol pob person ifanc ac addasu gweithgareddau gwaith ieuenctid digidol yn unol â hynny
  5. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith ieuenctid digidol a'u lliniaru drwy gymhwyso camau priodol
  6. cynorthwyo pobl ifanc i ddefnyddio'r cyfryngau digidol i hyrwyddo eu syniadau a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwaith ieuenctid a chael eu barn arnynt 
  7. herio pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am gynnwys a gwasanaethau digidol
  8. cynorthwyo pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am yr offer digidol priodol i ryngweithio, cydweithio a rhannu â grwpiau targed gwahanol
  9. helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am sut maent am greu presenoldeb ar-lein, sut maent am amddiffyn eu gwybodaeth, â phwy maent am rannu eu cynnwys a sut i reoli hyn drwy ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd a chyfrineiriau cryf.
  10. helpu pobl ifanc i benderfynu a ddylent dderbyn telerau ac amodau gwasanaethau digidol 
  11. helpu pobl ifanc i ddelio â phroblemau y gallent eu hwynebu mewn lleoliadau digidol
  12. rhoi cyfleoedd i bobl ifanc archwilio codio neu greu cynnwys digidol 
  13. sefydlu a chynnal ffiniau proffesiynol priodol mewn perthnasoedd ar-lein â phobl ifanc
  14. myfyrio ar eich hunaniaeth ddigidol mewn lleoliad gwaith ieuenctid
  15. defnyddio technegau gwerthuso i fyfyrio ar effeithiolrwydd ymgymryd â gwaith ieuenctid digidol a gwella ymarfer
  16. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut mae digideiddio yn llywio cymdeithas, gan gynnwys ei effaith ar waith ieuenctid ac ar bobl ifanc ac ar eu cyfleoedd yn y dyfodol
  2. anghenion nodweddiadol pobl ifanc, gan gynnwys eu diddordebau, dewisiadau, dyheadau, hobïau, arddulliau ac arferion ar-lein
  3. diwylliannau digidol pobl ifanc, gan gynnwys sut mae pobl ifanc yn cyfathrebu mewn amgylcheddau digidol
  4. sut i ategu nodau gwaith ieuenctid presennol gyda chymorth y cyfryngau digidol a thechnoleg
  5. dulliau cynnwys pobl ifanc ym mhob cam o waith ieuenctid digidol, gan gynnwys gweithgareddau cymheiriaid, rhoi rolau cyfrifol i bobl ifanc, gwirfoddoli
  6. y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid digidol a sut i'w goresgyn
  7. y dyfeisiau a'r rhaglenni digidol sydd ar gael a sut i ddewis yr un mwyaf priodol ar gyfer eich gofynion
  8. y cyfarpar sydd ar gael ar gyfer creadigrwydd digidol, gan gynnwys cyfarpar ffynhonnell agored a rhad ac am ddim
  9. y mathau o broblemau y gall pobl ifanc eu hwynebu ar-lein, gan gynnwys sut i ymateb i iaith casineb, seiberfwlio a mathau eraill o ymddygiad digroeso ar-lein a rhoi gwybod i blatfformau ac i'r heddlu neu asiantaethau eraill
  10. sut mae hawlfraint a thrwyddedau yn berthnasol i ddata, gwybodaeth a chynnwys digidol
  11. y materion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â lanlwytho cynnwys digidol, gan gynnwys perchnogaeth data
  12. lle mae angen gwella eich cymhwysedd digidol neu ei ddiweddaru
  13. lle i ddod o hyd i gyfleoedd rhannu ymarfer a dysgu yn y maes hwn
  14. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council Scotland

URN gwreiddiol

AMH

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; perthnasoedd; digidol; cynnwys digidol ar-lein; ffiniau