Archwilio'r cysyniad o werthoedd a chredoau gyda phobl ifanc
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gweithio gyda phobl ifanc i allu archwilio eu gwerthoedd a'u credoau, mewn perthynas â hwy eu hunain ac eraill.
Gall archwilio gwerthoedd a chredoau ymdrin â sbectrwm eang o bynciau megis: cymuned, gwerthoedd diwylliannol, gwahaniaethu, amgylchedd, moeseg, ffydd, materion byd-eang, iechyd, credoau ideolegol, gwrthdaro rhwng ac o fewn grŵp neu gymuned, moesoldeb, credoau athronyddol, safbwyntiau gwleidyddol, perthnasoedd, credoau crefyddol ac ysbrydolrwydd, gan gynnwys argyhoeddiadau o anghrediniaeth.
Mae'r safon yn cynnwys galluogi pobl ifanc i gynyddu'r ymdeimlad o'u gwerth eu hunain trwy hunanymwybyddiaeth a meithrin eu hunan-barch. Mae'n hwyluso pobl ifanc i feddwl yn feirniadol am y gwerthoedd a'r credoau sydd ganddynt, sut maent wedi caffael y rhain ac i ddeall yr effeithiau cadarnhaol a negyddol y gall y rhain eu cael ar eu bywydau a bywydau pobl eraill.
Wrth i waith ieuenctid ymdrechu i wneud cyfraniad gweithredol at ddatblygiad cymdeithas sydd â nodweddion gwahanol a safbwyntiau amrywiol, rhaid archwilio gwerthoedd a chredoau yng nghyd-destun hyrwyddo cysylltiadau da a chyfle cyfartal i bawb.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid. Gellir ei ddehongli a'i gymhwyso fel y bo'n briodol i'r cyd-destun y mae gweithwyr ieuenctid yn gweithredu ynddo ac ni fwriedir iddi fod yn gyfyngedig nac yn unigryw.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gofyn i bobl ifanc beth yw ystyr 'gwerthoedd' a 'chredoau' a beth allai'r cysylltiadau a'r gwahaniaethau fod rhyngddynt yn eu barn nhw
- hysbysu pobl ifanc am rôl natur, meithrin, cyd-destun a chymuned wrth ddatblygu 'gwerthoedd' a 'chredoau'
- gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd lle mae'r archwiliad yn digwydd yn ddiogel ac yn briodol i chi eich hun a'r bobl ifanc, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- trafod gyda phobl ifanc y dewisiadau y gallant eu gwneud ynghylch eu gwerthoedd a'u credoau
- rhoi enghreifftiau i bobl ifanc o sut rydych yn rhannu eich dealltwriaeth o werthoedd a chredoau heb orfodi'r rhain ar eraill
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- beth yw ystyr 'gwerthoedd a chredoau', a pham mae’n bwysig annog pobl ifanc i archwilio eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain
- pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth gyda phobl ifanc er mwyn cael sgyrsiau am werthoedd a chredoau, a sut i sefydlu ymddiriedaeth
- gwerthoedd a chredoau, a ffactorau allanol eraill y gall pobl ifanc ddod ar eu traws sy’n gallu dylanwadu ar eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain
- cyd-destunau, diwylliannau a safbwyntiau gwahanol ynghylch y gwerthoedd sydd ar waith yng nghymunedau pobl ifanc, yn y gymdeithas ehangach ac yn genedlaethol
- y berthynas rhwng gwerthoedd, credoau ac ymddygiad
- technegau a gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i ddod yn fwy hunanymwybodol a chydnabod eu hunanddelwedd
- effeithiau a goblygiadau posibl hunanddelwedd gadarnhaol neu negyddol, a hunan-barch
- effeithiau a goblygiadau posibl delio â therfyniadau a marwolaethau
- pwysigrwydd parchu hawl person ifanc i gael barn ar y byd ac ef ei hun
- gweithgareddau a thechnegau sy’n gallu rhoi ymdeimlad o lwyddiant a hunan-werth i bobl ifanc
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon