Datblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cynhyrchiol mewn cydweithrediad â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid ar gyfer gwaith ieuenctid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol ag eraill sydd â diddordeb mewn gweithgareddau sefydliadol sy'n gysylltiedig â gwaith ieuenctid neu sy'n cymryd rhan ynddynt. Mae'n ymwneud â chydweithio ag eraill er mwyn rhannu adnoddau i wella'r gwaith ieuenctid a ddarperir a rhoi'r cyfleoedd gorau posibl i bobl ifanc yn y gymuned.
Mae'n cynnwys bod yn ymwybodol o rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw a'u cynorthwyo mewn gwahanol ffyrdd. Mae'r angen i fonitro ac adolygu cynhyrchedd perthnasoedd gwaith gyda chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid yn rhan allweddol o'r safon hon.
Yng nghyd-destun y safon hon, yn ogystal â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid, gall 'eraill' gynnwys partneriaid allanol yn ogystal â chymunedau lleol, cenedlaethol neu fyd-eang o ddiddordeb neu ymarfer.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu perthynas waith gyda chydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
- sefydlu nodau a rennir sy’n ceisio bod o fudd i bobl ifanc a chytuno arnynt gyda sefydliadau eraill, yn ogystal â datblygu dulliau cydlynol o wella cyfleoedd i bobl ifanc tuag at gyflawni’r rhain
- cytuno â chydweithwyr, asiantaethau a rhanddeiliaid, ar y camau gweithredu y gall pawb eu cymryd i wella'r berthynas waith
- cytuno ar y trefniadau gwaith, yr amserlen a'r cyfrifoldebau ar gyfer cyflawni'r camau gweithredu a rennir
- rhoi gwybodaeth i eraill yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- ymgynghori ag eraill wrth wneud penderfyniadau pwysig ac wrth ymgymryd â gweithgareddau gwaith ieuenctid
- cyflawni cytundebau a wnaed gydag eraill a diwygio'r cytundebau hyn fel eu bod yn parhau i fod yn gyfredol
- cytuno ar fesurau a dulliau perfformiad allweddol ar gyfer monitro a gwerthuso'r camau y cytunwyd arnynt
- monitro ac adolygu cynhyrchedd perthnasoedd gwaith gydag eraill, gan ofyn am adborth a’i roi, er mwyn nodi meysydd i'w gwella
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwerth a budd datblygu perthnasoedd gwaith cynhyrchiol gydag eraill
- egwyddorion a chyfarpar cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso gyda sefydliadau, cymunedau ac unigolion eraill
- pam mae’n bwysig cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau a buddiannau cydweithwyr a rhanddeiliaid
- yr asiantaethau, y partneriaid a’r rhanddeiliaid perthnasol a natur eu diddordeb ym mherfformiad neu weithgareddau eich sefydliad
- pwy o'r asiantaethau, y partneriaid a’r rhanddeiliaid perthnasol sy'n gallu rhoi gwybodaeth a chymryd camau tuag at wella cyfleoedd i bobl ifanc, eu strwythurau a phwy i gysylltu â nhw wrth ystyried materion strategol a gweithredol
- datblygiadau, materion a phryderon sy'n bwysig i randdeiliaid ym maes gwaith ieuenctid a sut i adnabod y rhain
- pam mae'n rhaid i chi ystyried diwylliant a gwerthoedd sefydliadau eraill, yn enwedig mewn perthynas â'u blaenoriaethau wrth weithio gyda phobl ifanc
- materion, anghenion a dyheadau pobl ifanc yn y gymuned sy'n berthnasol i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc, gan gynnwys gwella darpariaeth gwaith ieuenctid
- pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid a sut i wneud hynny'n effeithiol
- datblygiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, amgylcheddol a chyfreithiol presennol a datblygol ym maes gwaith ieuenctid
- sut i nodi a chytuno pa wybodaeth sy'n briodol ac yn gyfreithlon i'w rhoi i eraill, a’r gofynion sefydliadol ar gyfer rhannu gwybodaeth
- gweithdrefnau eich sefydliad a gweithdrefnau cyfreithiol mewn perthynas â chyfrinachedd, diogelu data a datgeliadau adroddadwy
- sut i nodi gwrthdaro mewn buddiannau ac anghytundebau, a thechnegau i'w mabwysiadu i'w rheoli neu gael gwared ohonynt
- pwysigrwydd rhwydweithiau effeithiol, a chynllunio tymor hir a chanolig wrth gynnal cysylltiadau effeithiol mewn sefydliadau eraill
- sut i ddirprwyo cyfrifoldebau a dyrannu adnoddau wrth adeiladu rhwydweithiau
- pam mae cyfathrebu’n bwysig ynghylch cyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar gyflawni neu atal cyflawni
- mecanweithiau ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith ag eraill
- sut i gael adborth ar effeithiolrwydd perthnasoedd gwaith, ei rannu a’i ddefnyddio
- y gofynion cyfreithiol, sefydliadol, moesegol a chodau ymarfer eraill sy'n berthnasol i weithio gydag eraill a phobl ifanc gan gynnwys y cyd-destun lleol, cymdeithasol a gwleidyddol
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon