Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol wrth ymgymryd â gwaith ieuenctid

URN: CLD YW03
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chyflawni'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar weithgareddau gwaith ieuenctid.
Mae hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr bod eich gweithgareddau gwaith ieuenctid sefydliadol yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol ac yn cyd-fynd â'r gwerthoedd a'r egwyddorion. Byddwch yn datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer eich sefydliad, yn monitro unrhyw achosion o dorri'r rhain, ac yn cymryd camau priodol pan fo angen.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid. Mae hefyd yn berthnasol i'r rhai sy'n gysylltiedig â rheoli gweithgareddau gwaith ieuenctid yn eu sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadw golwg ar y gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, sefydliadol a moesegol perthnasol diweddaraf sy'n effeithio ar waith ieuenctid, a'r effaith ar eich cyfrifoldebau a'ch gweithgareddau gwaith ieuenctid chi neu rai eich sefydliad
  2. datblygu polisïau a gweithdrefnau effeithiol i wneud yn siŵr bod eich sefydliad yn bodloni'r gofynion angenrheidiol
  3. cadarnhau bod pobl berthnasol yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflawni eu rôl a'u bod yn eu dilyn
  4. monitro eich gweithgarwch eich hun neu eich sefydliad ar gyfer unrhyw achosion o fethu â chydymffurfio ac effaith peidio â bodloni gofynion
  5. cymryd camau i wneud yn siŵr bod gweithgarwch gwaith ieuenctid yn bodloni'r holl ofynion perthnasol gan gynnwys nodi unrhyw achosion o fethu â bodloni’r gofynion, rhoi gwybod amdanynt a’u cywiro
  6. rhoi adroddiadau llawn am unrhyw achosion o fethu â bodloni'r gofynion i'r bobl berthnasol
  7. bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy'n effeithio ar weithgareddau eich gwaith ieuenctid chi neu eich sefydliad
  2. pwysigrwydd cyflawni gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol, ac effaith methu â gwneud hynny
  3. gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad a'u heffaith ar ei lywodraethu
  4. pryderon a disgwyliadau amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol ar hyn o bryd ac sy’n dod i’r amlwg sy'n berthnasol i waith ieuenctid
  5. ffyrdd y mae sefydliadau eraill sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid yn mynd i'r afael â'r pryderon a'r disgwyliadau amgylcheddol, cymdeithasol a moesegol presennol a datblygol
  6. polisïau a gweithdrefnau yn eich sefydliad a maes y gwaith ieuenctid y bwriedir iddynt wneud yn siŵr bod y gofynion yn cael eu bodloni
  7. y fframwaith cyfreithiol sy'n amddiffyn eich hun ac eraill rhag camdriniaeth neu ymosodiad yn y gwaith
  8. ffyrdd na ellir bodloni'r gofynion, a'r risgiau y bydd hyn yn digwydd
  9. gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod am unrhyw achosion o dorri gofynion
  10. gweithdrefnau ar gyfer mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio, gan gynnwys y gofynion angenrheidiol ar gyfer rhoi gwybod
  11. y prosesau ar gyfer cynnal polisïau a gweithdrefnau perthnasol, ac er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn effeithiol o hyd
  12. y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CLD Standards Council

URN gwreiddiol

LSI YW22

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ieuenctid

Cod SOC

3221

Geiriau Allweddol

Ieuenctid; pobl ifanc; cyfreithiol; rheoliadol; moesegol; gofynion; cydymffurfiaeth; gweithgareddau; polisïau; gweithdrefnau; ymarfer; cynorthwyo; rhoi ar waith; atal; adrodd