Cychwyn, meithrin a chynnal perthnasoedd â phobl ifanc
URN: CLD YW01
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwaith Ieuenctid
Datblygwyd gan: CLD Standards Council Scotland
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae cael perthynas bwrpasol â phobl ifanc yn elfen greiddiol o waith ieuenctid da.
Mae'n bwysig gwybod sut i gychwyn perthnasoedd o'r fath yn ogystal â’r ffyrdd y gellir eu cynnal er mwyn i bobl ifanc ddysgu a datblygu.
Mae'r safon hon yn ymwneud â chychwyn, meithrin a chynnal perthnasoedd personol â phobl ifanc.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer pob ymarferydd gwaith ieuenctid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu cysylltiad â phobl ifanc drwy ddefnyddio lleoliadau addas
- cychwyn a chynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc ar amser ac mewn mannau priodol
- rhoi gwybodaeth i bobl ifanc am eich rôl a'ch cyfrifoldebau a sut y gallwch weithio gyda'ch gilydd
- cytuno â phobl ifanc ar eu rôl a'u cyfrifoldebau
- ymateb i unrhyw gwestiynau neu faterion a godir gan bobl ifanc pan maent yn datblygu cynigion a chynlluniau
- cynnal gofynion moesegol, cyfreithiol a chytundebol priodol bob amser wrth ymdrin â phobl ifanc
- bodloni'r gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- codau cyfreithiol, sefydliadol a chodau ymarfer sy'n berthnasol i weithio gyda phobl ifanc, a'u heffaith ar gyfathrebu â phobl ifanc
- lleoliadau yn y gymuned lle mae pobl ifanc yn cwrdd
- pwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth a pherthynas â phobl ifanc, a'r ffyrdd o wneud hyn ar gyfer ystod o bobl ifanc
- gwahanol arddulliau a dulliau cyfathrebu a allai fod yn briodol ar gyfer cyfathrebu â phobl ifanc, gan gynnwys sianeli electronig
- pwysigrwydd cyfathrebu di-eiriau, fel iaith y corff, a sut mae eraill yn defnyddio ac yn dehongli iaith y corff mewn gwahanol ffyrdd
- rhwystrau posibl i gyfathrebu, eu hachosion, a ffyrdd o'u goresgyn
- pwysigrwydd egluro beth yw eich disgwyliadau
- y risgiau posibl i'ch diogelwch personol, a ffyrdd o fynd i'r afael â'r rhain
- gofynion o ran cyfrinachedd, a phwysigrwydd bodloni'r rhain
- ffiniau eich cymhwysedd a'ch cyfrifoldeb personol, pryd i gynnwys eraill, a sut i gael cyngor a chymorth
- y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid mewn perthynas â gofynion y safon hon
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
1
Dyddiad Adolygu Dangosol
2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CLD Standards Council Scotland
URN gwreiddiol
LSI YW01
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ieuenctid
Cod SOC
3221
Geiriau Allweddol
Ieuenctid; pobl ifanc; cychwyn; meithrin; cynnal; perthnasoedd; cysylltiad; cyfathrebu; parchu; gwerthfawrogi; cynorthwyo; annog