Rheoli amser yn eich busnes
Trosolwg
Efallai eich bod yn teimlo bod gormod o bethau i'w gwneud a dim digon o amser i'w gwneud nhw. Efallai fod angen i chi edrych ar y ffordd yr ydych yn rheoli eich amser eich hun a chanfod sut i wneud pethau yn fwy effeithlon. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu dull o adolygu eich rheolaeth o amser er mwyn i chi allu gosod nodau newydd a chydnabod eich cyflawniadau.
Gallwch wneud hyn os ydych:
- yn canfod nad oes gennych ddigon o amser i wneud yr holl bethau y mae angen i chi eu gwneud
- yn cael anhawster yn gwneud cynlluniau ar gyfer eich gwaith a chadw atynt
eisiau teimlad o gyflawniad o'r hyn yr ydych yn ei wneud
Mae rheoli eich amser yn cynnwys:
edrych ar yr hyn yr ydych yn ei wneud a sut rydych yn ei wneud
- canfod pa mor hir y mae gweithgareddau'n cymryd
- gwneud cynlluniau ar gyfer eich gwaith o ddydd i ddydd
- monitro eich rheolaeth o amser
- ceisio dod o hyd i ffyrdd gwell, mwy effeithion o weithio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- meddwl am yr hyn yr ydych yn ei wneud ar ddiwrnod gwaith arferol
- lle y bo'n briodol, canfod yr hyn y mae cydweithwyr neu staff yn ei wneud ar ddiwrnodau arferol
- penderfynu pa rannau o'ch swydd yr ydych yn dda yn eu gwneud a pa rai nad ydych yn dda yn eu gwneud
- penderfynu a ydych yn gyffredinol yn gwneud y gwaith yr ydych yn bwriadu ei wneud
- nodi pethau sy'n eich rhwystro rhag cyflawni'r hyn yr ydych wedi disgwyl ei wneud
- nodi pethau sydd yn gwneud i chi deimlo'n dda am eich gwaith
- nodi a yw'r pethau yr ydych yn eu gwneud yn gost-effeithiol
- penderfynu sut gallwch ddefnyddio eich cryfderau a'ch gwendidau er mantais i chi
- nodi sut gallwch wella eich effeithiolrwydd a'ch effeithlonrwydd
- blaenoriaethu'r gwelliannau yr ydych wedi eu nodi
- penderfynu a oes unrhyw bethau yr ydych yn eu gwneud y gellid eu gwneud gan bobl eraill
- cynllunio sut byddwch yn newid y ffordd yr ydych yn cyflawni eich gwaith
- monitro eich gwaith i wirio gwelliannau yn eich effeithiolrwydd a'ch effeithlonrwydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Eich perfformiad
- pam y mae'n bwysig bod yn effeithiol ac yn effeithlon
- sut i ganfod yn union beth rydych yn ei wneud (er enghraifft defnyddio cofnod gwaith neu ddyddiadur a chadw cofnod o'r ffordd yr ydych yn treulio bob awr)
- sut i gymharu'r hyn yr ydych eisiau ei wneud gyda'r hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd (er enghraifft defnyddiwch gofnod gwaith i ysgrifennu'r hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud i lawr, yna cymharwch hwn â'r hyn a wnaethoch, adolygwch eich amser rai diwrnodau bob mis a nodwch eich nodau a'ch cynnydd)
Chi eich hun
4. beth sydd yn rhoi teimlad o gyflawniad i chi (er enghraifft bodloni terfyn amser, gorffen darn o waith, cyflawni gwerthiant, cael canmoliaeth gan gwsmer)
5. eich cryfderau a'ch gwendidau yn rheoli amser
6. beth sydd yn rhwystro eich gwaith (er enghraifft, amhariadau, straen, poen meddwl a blinder)
Rheoli amser
7. sut i gynllunio gwaith (er enghraifft trwy osod targedau tymor byr a hirdymor, rhannu'r targedau yn weithgareddau llai, roi'r gweithgareddau yn nhrefn pwysigrwydd a brys ac amcangyfrif yr amser sydd ei angen.)
8. sut gallwch arbed amser (er enghraifft gwneud defnydd effeithlon o gyfarfodydd a chyfathrebiadau, lleihau amhariadau, dirprwyo tasgau i bobl eraill)
9. pa wybodaeth y gellir ei defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau am reoli amser (er enghraifft yr hyn yr ydych yn ei wybod ac yn ei ddeall am yr hyn y mae pobl eraill yn ei awgrymu)
10. pa bethau y gellir eu defnyddio i ddangos gwelliannau (er enghraifft pethau y gellir eu mesur fel amser a gymerir, pethau sydd yn anodd eu mesur fel bodlonrwydd cwsmeriaid neu berthynas waith well)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- YS6 Dirprwyo gwaith i bobl eraill yn eich busnes
- OP3 Recriwtio pobl ar gyfer eich busnes
- OP4 Is-gontractio gwaith ar gyfer eich busnes
Cysylltiadau â safonau eraill
Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth. - A1 Rheoli eich adnoddau eich hun
- A2 Rheoli eich adnoddau a'ch datblygiad proffesiynol eich hun