Cynllunio sut byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu eich gwasanaethau
Trosolwg
Mae'n rhaid i chi werthu digon o'ch cynnyrch neu wasanaethau i gadw eich busnes i fynd. Bydd angen i chi ddeall eich marchnad er mwyn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau am elw. Bydd angen i chi ymchwilio i'r ffordd y byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau i wella eich gwerthiannau. Bydd y wybodaeth yma o gymorth i chi baratoi cynlluniau fydd yn ceisio gwella eich elw. Bydd manylion yr hyn fydd ei angen arnoch yn dibynnu ar eich math o fusnes a'r math o gwsmeriaid y byddwch yn gwerthu iddynt. Bydd angen i chi hefyd edrych ar yr hyn y mae eich cystadleuwyr yn ei wneud a meddwl am ffyrdd o ennill mwy o fusnes.
Gallech wneud hyn os ydych:
1. yn sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol newydd
2. yn ymestyn eich busnes neu fenter gymdeithasol
3. yn newid neu'n addasu'r cynnyrch neu'r gwasanaethau y mae eich busnes neu fenter gymdeithasol yn eu cynnig
4. adolygu'r ffordd yr ydych yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau
Mae cynllunio'r ffordd y byddwch yn gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau yn cynnwys:
1. cael gwybodaeth am ddulliau gwerthu gwahanol a'u cymharu
2. gosod targedau ar gyfer gwerthiannau
3. ysgrifennu cynllun gwerthu
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 ymchwilio’r ffyrdd gwahanol o werthu cynnyrch neu wasanaethau
P2 canfod sut y gallai dulliau gwerthu gwahanol effeithio ar nifer y gwerthiannau
P3 cyfrifo faint o werthiannau y gellir eu gwneud
P4 cyfrifo pryd, sut a ble y gellir gwneud gwerthiannau
P5 sicrhau bod eich targedau gwerthu yn cyd-fynd â'r targedau yr ydych wedi eu gosod ar gyfer eich busnes
P6 ysgrifennu cynllun gwerthu'n seiliedig ar eich ymchwiliad o'r farchnad ac yn cynnwys y dulliau gwerthu y byddwch yn eu defnyddio
P7 penderfynu ar amser rhesymol i gyrraedd y targedau gwerthu
P8 paratoi cyllideb fanwl ar gyfer gwerthu a gweld pa effaith y bydd cyflawni'r targedau gwerthu'n ei gael ar eich busnes
P9 creu cynllun gwerthu cyflawn a chynnwys yr holl wybodaeth i ddangos sut y gwnaethoch eich penderfyniadau
P10 penderfynu pa bethau y byddech yn edrych amdanynt er mwyn gweld a oedd eich cynllun gwerthu yn llwyddiannus
P11 penderfynu pa wybodaeth y byddwch yn ei defnyddio i farnu eich perfformiad gwerthu
P12 penderfynu pa mor aml y byddwch yn adolygu perfformiad gwerthu i weld a oes angen i chi newid unrhyw un o'ch targedau
P13 meddwl ble y gallai pethau fod yn wahanol i'r cynllun, a meddwl sut y byddech yn ymdrin â hyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth am y farchnad
G1 ffyrdd o ganfod y wybodaeth sydd ei hangen arnoch a ble i ddod o hyd iddi
G2 beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol mewn sector
G3 y dulliau sydd ar gael o werthu neu ddarparu cynnyrch neu wasanaeth
G4 ble i fynd i gael cyngor a chymorth
Targedau gwerthu
G5 pam fod gosod targedau ar gyfer gwerthiannau yn bwysig
G6 sut i osod targedau ar gyfer gwerthiannau fydd yn cynnwys:
G6.1 maint gwerthiannau
G6.2 maint yr elw
G6.3 llif arian
G6.4 darparu gwasanaeth cwsmeriaid
G6.5 cael busnes dro ar ôl tro
G6.6 ansawdd cynnyrch neu wasanaeth
G6.7 a yw credyd cleientiaid yn ddibynadwy
Cynlluniau gwerthu
G7 pam y mae cynllunio gwerthiannau yn bwysig
G8 ffyrdd o ddatblygu a chyflwyno cynllun
G9 beth y dylech ei gynnwys mewn cynllun gwerthu
G9.1 beth yw'r farchnad
G9.2 beth mae cwsmeriaid ei angen a'i eisiau
G9.3 nifer y gwerthiannau yr ydych yn ceisio eu cyflawni a beth yw targed yr elw
G9.4 pwy fydd yn gysylltiedig â gwerthu (er enghraifft staff presennol neu staff newydd)
G9.5 rhagweld gwerthiannau yn ôl cynnyrch neu wasanaeth a chan bob person sy'n gwerthu
G9.6 sut a ble bydd y cynnyrch neu'r gwasanaeth yn cael ei werthu (er enghraifft cyfanwerthu, mewn siopau, archebu drwy'r post neu dros y rhyngrwyd)
G9.7 beth yw cost gwerthu.
G9.8 sut bydd y gwerthiannau'n cyfrannu at lwyddiant busnes
Perfformiad gwerthu
G10 sut i farnu a ydych yn bodloni'r targedau gwerthu neu beidio
G11 sut i gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd wrth farnu llwyddiant, gan ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd
G12 sut i sefydlu eich busnes er mwyn sicrhau y gallwch gael gwybodaeth am werthiannau yn hawdd
G13 sut i adnabod y mannau lle mae'r busnes yn wahanol i'r cynllun (er enghraifft ffigurau gwerthu uwch neu is, mwy neu lai o alw gangwsmeriaid)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
1. WB1 Gwirio'r hyn y mae cwsmeriaid ei angen gan eich busnes
2. WB2 Cynllunio sut i hysbysu eich cwsmeriaid am eich cynnyrch neu wasanaethau
3. WB5 Gwerthu eich cynnyrch neu wasanaethau
Dolenni i safonau eraill
Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
4. B3 Datblygu cynllun busnes strategol
5. F4 Datblygu ac adolygu fframwaith ar gyfer marchnata