Defnyddio TG i gefnogi eich rôl
Trosolwg
Ymdrin â ffeiliau, golygu, fformatio a gwirio gwybodaeth, defnyddio a chwilio negeseuon e-bost. Mae hyn yn seiliedig ar unedau allforio e-sgiliau Meysydd Cymhwysedd y DU: Defnydd Cyffredinol TG a Defnyddio TG i gyfnewid gwybodaeth.
Dolenni: Hunanweinyddu
Sgiliau penodol:
1. cyfathrebu
2. trefnu
3. cynllunio
4. datrys problemau
5. gwirio ansawdd
6. cofnodi
7. ymchwilio
8. defnyddio technoleg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Ymdrin â ffeiliau
P1 defnyddio technegau sylfaenol ymdrin â ffeiliau ar gyfer y feddalwedd
P2 defnyddio technegau priodol i drefnu, arbed ac ymdrin â ffeiliau
Golygu, fformatio a gwirio gwybodaeth
P3 defnyddio technegau golygu sylfaenol
P4 gwirio cywirdeb dogfennau
P5 defnyddio offer a thechnegau golygu a fformatio priodol ar gyfer dogfennau mwy cymhleth
P6 defnyddio technegau prawfddarllen i sicrhau bod y dogfennau'n edrych yn broffesiynol
Chwilio am wybodaeth ar y rhyngrwyd neu fewnrwyd
P7 defnyddio chwilotwr i ganfod a dewis gwybodaeth briodol
P8 defnyddio technegau addas i'w wneud yn haws dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol eto (e.e. marc llyfr neu hoff bethau) a'i throsglwyddo i bobl eraill (e.e. anfon tudalennau gwe a dolenni gwe ar e-bost)
P9 cadw cofnodion o leoliad y wybodaeth ddefnyddiol
P10 arbed canlyniadau chwiliadau fel y gellir dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol eto
P11 dewis chwilotwr sy'n briodol ar gyfer y wybodaeth sydd ei hangen
P12 cynnal chwiliadau
Anfon a derbyn negeseuon e-bost
P13 defnyddio gorchmynion anfon sylfaenol
P14 defnyddio gorchmynion ateb sylfaenol
P15 dileu negeseuon e-bost
P16 anfon ac agor negeseuon e-bost gydag atodiad
P17 arbed atodiadau mewn mannau priodol
P18 dod o hyd i negeseuon e-bost
P19 dilyn unrhyw reolau a chanllawiau ar gyfer anfon ac ateb negeseuon e-bost
P20 defnyddio cyfleusterau uwch
P21 anfon negeseuon i grwpiau o bobl gan ddefnyddio grwpiau sydd wedi eu sefydlu mewn llyfr cyfeiriadau
P22 anfon a derbyn negeseuon ar unwaith gydag atodiadau a hebddynt
P23 cywasgu negeseuon wrth eu hanfon a datgywasgu negeseuon a dderbyniwyd
P24 archifo negeseuon e-bost lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dibenion defnyddio TG
G1 pam oedd y system TG a'r feddalwedd a ddefnyddiwyd yn briodol ar gyfer y dasg
G2 pam a sut oedd defnyddio'r system TG a'r feddalwedd yn ffordd briodol o wneud y dasg
Cynhyrchu gwybodaeth
G3 ar gyfer pwy a beth y mae'r wybodaeth, ble y caiff ei defnyddio (e.e. ar sgrin neu gopi caled) a phryd mae ei hangen
G4 sut i gynhyrchu gwybodaeth sy'n cyfathrebu'n glir ac yn gywir gyda'r gynulleidfa, ble a phryd mae ei hangen
Materion iechyd a diogelwch
G5 peryglon iechyd a diogelwch i chi eich hun wrth ddefnyddio
G6 peryglon iechyd a diogelwch i bobl eraill o galedwedd cyffredin
G7 pa gyfreithiau a chanllawiau iechyd a diogelwch sy'n effeithio ar y defnydd o TG
G8 ffyrdd o leihau'r perygl i bobl
G9 ffyrdd o leihau'r peryglon i galedwedd
Cyfleusterau e-bost
G10 beth yw negeseuon e-bost
G11 sut i ddefnyddio opsiynau sylfaenol i anfon, derbyn ac ateb negeseuon e-bost
G12 sut i anfon a derbyn atodiadau
G13 sut i ddefnyddio llyfr cyfeiriadau
G14 sut i anfon negeseuon e-bost i grwpiau gan ddefnyddio rhestr grwpiau mewn llyfr cyfeiriadau
G15 sut i archifo a chywasgu negeseuon e-bost
G16 pa adnoddau eraill y gellid eu darparu gan feddalwedd e-bost a sut i ddefnyddio'r rhain
Problemau yn Cyfnewid Gwybodaeth
G17 pam y gall rhai defnyddwyr cyfrifiaduron gael anhawster yn anfon a derbyn negeseuon e-bost gydag atodiadau
G18 beth i'w wneud am negeseuon e-bost gan ddefnyddwyr anhysbys
G19 beth yw feirysau a'r problemau y gallant eu hachosi
G20 sut y gall defnyddio meddalwedd gwrth-feirws helpu i leihau'r peryglon
G21 pa beryglon allai fod yn lawrlwytho dogfennau a meddalwedd
G22 peryglon yn rhannu gwybodaeth fel manylion personol
G23 ble a phryd i ofyn am gyngor
G24 beth i'w wneud am negeseuon e-bost sydd wedi eu bwriadu i achosi problemau, fel SPAM neu bost cadwyn
G25 sut i leihau anawsterau yn anfon neu dderbyn negeseuon e-bost mawr
G26 pa derfynau allai fod i nifer neu faint negeseuon e-bost y gellir eu derbyn neu eu storio
G27 sut i osgoi feirysau
Cyfreithiau a Chanllawiau
G28 pa gyfreithiau a chanllawiau sy'n effeithio ar y defnydd o TG o ddydd i ddydd, fel rhai'n ymwneud â Diogelu Data, Cyfle Cyfartal, Anabledd, Iechyd a Diogelwch, hawlfraint a chanllawiau a osodir gan eich cyflogwr neu sefydliad
G29 sut a pha weithgareddau TG gwahanol sy'n cael eu heffeithio gan gyfreithiau a chanllawiau, fel storio enwau a chyfeiriadau, lawrlwytho delweddau o'r rhyngrwyd neu anfon negeseuon ebost amhriodol