Datblygu sgiliau pobl ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Bydd helpu pobl i wella eu sgiliau yn helpu eich busnes i gynyddu cynhyrchiant, gwella ansawdd y gwasanaeth neu'r cynnyrch yr ydych yn eu cynnig a chefnogi datblygiad parhaus eich busnes.
Gallech wneud hyn os oes angen i chi:
- wneud eich busnes neu eich menter gymdeithasol yn fwy cynhyrchiol
- gwella ansawdd cynnyrch neu wasanaeth eich busnes neu fenter gymdeithasol
- gwneud newidiadau i rolau staff er mwyn datblygu a/neu ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol
Mae datblygu sgiliau pobl yn cynnwys:
- penderfynu ar yr anghenion datblygu pobl ar gyfer eich busnes
- cynllunio a gosod targedau ar gyfer datblygu pobl
- gwneud trefniadau i ddatblygu pobl gael ei wneud y tu mewn neu'r tu allan i'ch busnes
- monitro cynnydd
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynnal adolygiad rheolaidd o anghenion datblygu pobl yn unol â nodau a blaenoriaethau busnes
casglu gwybodaeth am anghenion datblygu pobl a'i defnyddio i wneud penderfyniadau teg a phriodol
- cytuno ar anghenion datblygu pob person yn eich busnes, trwy arfarniad neu drafodaeth
- dadansoddi'r sgiliau sydd eu hangen a'r drefn y mae angen eu dysgu
- cytuno ar nodau dysgu a chynllun gweithredu gyda phob person
- dewis dull o hyfforddi a mentora sy'n bodloni anghenion dysgu unigol pob person
- nodi'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu sgiliau pobl
- hyfforddi neu fentora pobl lle y bo'n briodol, gan newid yr ymagwedd yng ngoleuni adborth neu gynnydd
- os na ellir hyfforddi pobl yn eich busnes, nodi cyfleoedd hyfforddi amgen priodol i gyd-fynd ag anghenion unigol
- rhoi cyfleoedd i bobl ymarfer eu sgiliau, cymhwyso eu gwybodaeth a chael profiad mewn ffordd wedi ei strwythuro
- cydnabod a gwobrwyo llwyddiant
- nodi unrhyw beth sydd yn atal dysgu, ac adolygu hyn gyda'r bobl gysylltiedig
- sicrhau yn rheolaidd bod pobl yn gwneud cynnydd tuag at nodau dysgu ac yn rhoi adborth cadarnhaol lle y bo'n bosibl
- cael arweiniad gan arbenigwyr lle bo angen
- cadw cofnodion cywir, cyfrinachol ac wedi eu diweddaru o anghenion a chynlluniau datblygu
- sicrhau bod canlyniadau hyfforddi a datblygu o fudd i'ch busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Datblygu staff
- pa sgiliau technegol a phrofiad sydd eu hangen ar bobl i wneud y cynnyrch neu ddarparu'r gwasanaeth
- sut i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch am anghenion datblygu unigolion (er enghraifft arfarniad ac adroddiadau adolygu perfformiad, cynlluniau busnes ac adborth gan bobl)
- sut i benderfynu pa sgiliau y mae angen i bobl eu datblygu
- sut i osod a chytuno ar dargedau ar gyfer datblygiad gyda phobl
- sut i ysgrifennu cynllun gweithredu a chytuno ar nodau dysgu
- pa hyfforddiant allwch chi ei ddarparu yn eich busnes (er enghraifft hyfforddiant mewn swydd, cyrsiau byr, mentora neu hyfforddiant)
- pa hyfforddiant all fod angen ei ddarparu trwy ddulliau eraill (er enghraifft hyfforddiant a ddarperir yn eich busnes gan arbenigwr neu gwrs byr sy'n cael ei gynnal rhywle arall)
- pa adnoddau sydd eu hangen ar gyfer datblygu pobl (er enghraifft amser, rhaglenni hyfforddiant, ffioedd a staff llanw)
- pa fathau o gyfleoedd datblygu sydd ar gael (er enghraifft dysgu mewn swydd, llyfrau, gwefannau, cyrsiau sefydlog, rhaglenni wedi eu teilwra i fodloni anghenion busnes, mentora neu hyfforddiant)
- ble i gael gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau (er enghraifft o ganolfannau cyngor busnes, cymdeithasau masnach a chydweithwyr)
- pa gymorth allai fod ar gael gan y llywodraeth ar gyfer busnesau bach (er enghraifft grantiau hyfforddiant, darpariaeth cyrsiau am ddim neu grantiau talu ffioedd)
- sut i sicrhau dealltwriaeth a chynnydd staff unigol
- sut i sicrhau bod y datblygiad staff yr ydych yn ei ddarparu yn helpu eich busnes i wella
Hyfforddiant a mentora
14. sut i adnabod cyfleoedd dysgu a'u paru ag anghenion ac amcanion unigol
15. pa fathau o ddysgu sy'n cael eu cefnogi orau naill ai trwy hyfforddiant neu fentora
16. sut i nodi'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl gymhwyso'r hyn y maent wedi ei ddysgu
17. sut i wneud dysgwyr yn gyfforddus
18. beth yw'r arddulliau dysgu gwahanol a sut maent yn effeithio ar ddysgu
19. sut i ddewis adnoddau a deunyddiau priodol a strwythur gweithgareddau dysgu
20. sut i annog pobl i adnabod eu cyflawniadau eu hunain
21. sut i adnabod pethau sydd yn debygol o atal dysgu rhag digwydd a sut i'w goresgyn
22. sut i ddadansoddi a defnyddio datblygiadau mewn addysg, yn cynnwys ffyrdd newydd o gyflwyno fel dysgu'n seiliedig ar dechnoleg
Ysgogi unigolion
23. sut i ysgogi unigolion trwy gydnabod a gwobrwyo llwyddiant (er enghraifft canmoliaeth, cydnabyddiaeth o flaen cydweithwyr, gwobrau, buddion, codiadau cyflog)
Cyfreithiau a rheoliadau
24. sut i sicrhau bod pawb yn gweithredu yn unol â deddfwriaeth ac arfer gorau iechyd, diogelwch a diogelu'r amgylchedd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- OP3 Recriwtio pobl ar gyfer eich busnes
- OP5 Sicrhau bod pobl yn eich busnes yn gallu gwneud eu gwaith
- BD4 Cynnal adolygiad o'ch busnes
- BD6 Gwneud newidiadau i wella eich busnes
Cysylltiadau â safonau eraill
Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth. - D7 Darparu cyfleoedd dysgu ar gyfer cydweithwyr