Is-gontractio gwaith ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau bach yn defnyddio busnesau eraill i gynnal gwasanaethau fel paratoi cyfrifon, dylunio delwedd ar gyfer eich busnes, gosod a chynnal technoleg ac offer arall, mynd â gwastraff i ffwrdd neu gyflenwi cydrannau, deunyddiau, offer neu gyfarpar. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y math o wasanaethau neu gyflenwadau sydd eu hangen arnoch gan is-gontractwr.
Gallech wneud hyn os oes angen i chi:
- gael sgiliau arbenigol o'r tu allan i'ch busnes neu fenter gymdeithasol ar gyfer gwaith sydd angen ei wneud
- cyflogi rhywun i gwblhau gwaith am gyfnod cyfyngedig oherwydd cynnydd mewn gwaith
dod o hyd i rywun all wneud y gwaith yn gyflymach neu'n rhatach nag y gallwch chi ei wneud
Mae is-gontractio gwaith yn cynnwys:
cytuno ar gontractau ar gyfer y gwasanaethau a'r cyflenwadau sydd eu hangen ar gyfer eich busnes
- ymdrin â methiannau i fodloni contractau
- trafod gyda chyflenwyr i wella contractau yn y dyfodol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sicrhau y bydd gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol yn bodloni eich gofynion
sicrhau eich bod chi a'r is-gontractwr yn deall yr hyn a gyflawnir ganddynt ac ar ba delerau
sicrhau bod ffyrdd priodol o gyfathrebu rhwng eich busnes a'r is-gontractwr
cadarnhau gyda'r is-gontractwr sut byddwch yn sicrhau bod eu perfformiad yn bodloni'r gofynion
nodi, cofnodi a chydnabod y rhesymau dros unrhyw fethiannau i fodloni gofynion
trefnu bod taliad yn cael ei wneud yn unol â pherfformiad y contract a chofnodi'r rhesymau dros unrhyw daliad sy'n wahanol i delerau'r contract gwreiddiol
datrys unrhyw fethiannau, cofnodi sut maent wedi cael eu datrys a hysbysu contractwyr
cael cyngor cyfreithiol lle bo angen
- sicrhau bod ceisiadau i amrywio telerau'r contract yn rhesymol, wedi eu cyfiawnhau gan y ffeithiau a'u cofnodi
- cytuno ar unrhyw newidiadau gyda'r contractwr a'u hysbysu ynghylch y goblygiadau
- hysbysu'r bobl berthnasol am y gofynion, manylion y contract rhwng eich busnes a'r contractwr, unrhyw fethiannau ac unrhyw newidiadau i'r trefniadau gyda'r contractwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Is-gontractio gwaith
- beth yw'r telerau ac amodau a gytunwyd ar gyfer pob contract
- beth yw'r safonau perfformiad o ran gwasanaeth neu gyflenwi ar gyfer pob contract
- sut i asesu a yw perfformiad y contract yn bodloni gofynion eich busnes
- sut i nodi achosion o fethiant i fodloni'r perfformiad gofynnol a sicrhau nad ydynt yn cael eu hailadrodd
- sut i ddatrys methiant i fodloni gofynion (er enghraifft cael iawndal, amrywio'r contract, dechrau trafodaethau rhwng cwsmeriaid ac is-gontractwyr a chael is-gontractwyr amgen)
- sut i gael cyngor am geisio iawndal am berfformiad anfoddhaol, yn cynnwys cymryd camau cyfreithiol
- pa systemau sydd ar gyfer cofnodi amrywiadau mewn perfformiad a chamau cywiro y cytunwyd arnynt
Cyfreithiau a rheoliadau
8. beth yw'r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwasanaethau contract, yn cynnwys:
8.1 Cyfraith contract;
8.2 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
8.3 Deddf Diogelu'r Amgylchedd
Cyfathrebu
9. sut i gyfathrebu gydag is-gontractwyr a phobl berthnasol arall
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- OP1 Adolygu sgiliau eich anghenion busnes
- BS1 Nodi anghenion a chyflenwyr ar gyfer eich busnes
- BS2 Monitro ansawdd a'r defnydd o gyflenwadau ac offer yn eich busnes
Cysylltiadau â safonau eraill - Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
- D4 Cynllunio'r gweithlu