Recriwtio pobl ar gyfer eich busnes

URN: CFAOP3
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2007

Trosolwg

Efallai eich bod ar fin recriwtio eich aelod cyntaf o staff neu eich bod wedi cael problemau yn recriwtio staff yn y gorffennol. Efallai eich bod eisiau archwilio sut mae recriwtio staff sydd yn addas ar gyfer eich busnes. Beth bynnag fo maint eich busnes, gall recriwtio staff fod yn ddrud a chymryd amser. Mae'n bwysig eich bod, ar ddiwedd y broses, wedi recriwtio aelod o staff a all wneud yr hyn sydd angen ei wneud.

Efallai fod angen i chi wneud hyn os ydych:

  1. yn ystyried recriwtio staff
  2. eisiau adolygu eich proses recriwtio bresennol

     Mae recriwtio pobl yn cynnwys:

  3. gweld yn union beth mae angen i'r aelod newydd o staff ei wneud

  4. nodi sut byddwch yn barnu galluoedd yr holl ymgeiswyr
  5. penderfynu sut byddwch yn ennyn diddordeb y math cywir o ymgeisydd
  6. dewis y person cywir ar gyfer y swydd
  7. sicrhau eich bod yn gallu gwella'r ffordd yr ydych yn recriwtio staff yn y dyfodol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r prif dasgau y bydd angen i'r recriwt newydd eu gwneud
  2. nodi'r sgiliau, y wybodaeth, y galluoedd a'r profiad y mae'n rhaid i'r recriwt newydd eu cael a sut i farnu'r rhain
  3. penderfynu pa gamau fydd gennych yn y broses recriwtio ac amseriad y rhain
  4. penderfynu pwy fydd yn eich helpu gyda'r broses recriwtio 
  5. gwneud yn siŵr bod y broses recriwtio y byddwch yn ei dilyn yn gyfreithlon ac yn deg i bawb 
  6. penderfynu pa delerau ac amodau cyflogaeth y byddwch yn eu cynnig i'r recriwt newydd
  7. gwneud yn siŵr bod pawb sydd angen gwybod yn gwybod eich bod yn recriwtio staff
  8. hysbysebu am staff mewn ffyrdd fydd yn rhoi'r dewis ehangaf i chi o ymgeiswyr addas
  9. sicrhau bod yr hysbyseb ac unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ymgeiswyr, yn glir ac yn gywir
  10. gwneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn deall yn iawn yr hyn y mae'r swydd yn ei olygu

  11. cynnal pob cyfweliad yn yr un ffordd a pheidio â gofyn cwestiynau nad oes gennych hawl cyfreithiol i'w gofyn

  12. sicrhau eich bod yn teimlo'n hyderus y bydd yr ymgeisydd y byddwch yn ei ddewis yn gallu gwneud y swydd
  13. cofnodi yn gywir ac yn gyson y ffordd y mae sgiliau, galluoedd, gwybodaeth a phrofiad pob ymgeisydd yn cyd-fynd â'r rhai yr ydych yn chwilio amdanynt
  14. sicrhau eich bod yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol am ymgeiswyr yn gyfrinachol
  15. sicrhau eich bod yn dewis ymgeisydd penodol oherwydd eu sgiliau, eu galluoedd, eu gwybodaeth a'u profiad ac nid am unrhyw resymau eraill
  16. sicrhau eich bod yn gofyn am eirdaon ac yn eu gwirio
  17. penderfynu sut byddwch yn barnu a yw'r broses recriwtio wedi bod yn llwyddiannus neu beidio

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Recriwtio

  1. sut i nodi pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen i wneud prif dasgau'r swydd a'r rheiny nad ydynt yn hanfodol ond y byddwch yn dymuno iddynt feddu arnynt
  2. sut i farnu gwybodaeth, sgiliau, galluoedd a phrofiad yr ymgeiswyr yn erbyn y rheiny sydd eu hangen ar gyfer y swydd
  3. pa bobl ddylai fod yn gysylltiedig â'r broses recriwtio
  4. sut i ganfod cyfreithiau sydd yn berthnasol ar gyfer recriwtio staff (er enghraifft cyfraith cyflogaeth, cyfraith contract, cyfraith iechyd a diogelwch a chyfraith cyfle cyfartal)
  5. pa delerau ac amodau cyflogaeth y dylech eu cynnig i recriwtiaid (er enghraifft yr hawliau a'r cyfrifoldebau y bydd gennych chi a nhw yn unol â'u contract cyflogaeth, graddfeydd cyflog neu weithdrefnau disgyblu neu gwyno)
  6. pa wybodaeth allai fod angen i chi ei pharatoi i esbonio'r swydd i ymgeiswyr
  7. pa gofnodion i'w cadw
  8. pa wybodaeth y mae angen i chi ei chadw'n gyfrinachol
  9. sut i wirio geirdaon
  10. sut i farnu a yw'r broses y gwnaethoch ei dilyn i ddewis recriwt wedi bod yn llwyddiannus ac a fyddech yn ei newid y tro nesaf y byddwch yn recriwtio

Hysbysebu
11. costau a manteision y ffyrdd gwahanol o hysbysebu swyddi gwag (er enghraifft rhoi hysbyseb yn adran 'swyddi gwag' papurau newydd a chylchgronau lleol a chenedlaethol, llogi cwmni ymgynghori neu asiantaeth gyflogi, hysbysebu'r swydd i staff presennol a thrwy gysylltiadau ag ysgolion, colegau a phrifysgolion)
12. sut i ddewis ffordd briodol o hysbysebu'r swydd
13. sut i drafod telerau gyda darparwr hysbysebu dewisol
14. sut i gyflwyno gwybodaeth am y swydd a sicrhau bod eich hysbysebion yn gywir
15. beth yw telerau ac amodau'r swydd a sut i gyflwyno'r rhain

Cyfweld
16. sut i benderfynu pwy ddylai gael eu cyfweld
17. sut i farnu sgiliau, galluoedd, gwybodaeth a phrofiad yr ymgeiswyr y byddwch yn cyfweld â nhw
18. sut i gyfweld ymgeiswyr
19. yr hyn y mae gennych hawl cyfreithiol i'w ofyn i ymgeiswyr a'r hyn nad oes gennych hawl i'w ofyn
20. sut i brofi ymgeiswyr, a buddion ac anfanteision hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

  1. OP1 Adolygu'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnes
  2. OP2 Cynllunio pa bobl sydd eu hangen ar eich busnes
  3. OP5 Sicrhau y gall pobl yn eich busnes wneud eu gwaith

     Cysylltiadau â safonau eraill

    Os bydd eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
  4. D3     Recriwtio, dewis a chadw cydweithwyr


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Mai 2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Sfedi

URN gwreiddiol

OP3

Galwedigaethau Perthnasol

Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Cyfarwyddwr, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynnyrch, gwasanaeth, cymorth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW, offer,