Cynllunio ar gyfer hyrwyddo eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau

URN: CFAMSSNS10
Sectorau Busnes (Cyfresi): Safonau cyffredin ar draws y sector Cyfiawnder
Datblygwyd gan: CFA Business Skills
Wedi'i gymeradwyo: 2007

Trosolwg

Mae hyn yn ymwneud â chynllunio ar gyfer hyrwyddo eich cynhyrchion/gwasanaethau yn effeithiol a chyfathrebu’n effeithiol amdanynt. Mae’n cynnwys cadarnhau’r gynulleidfa darged a’r amcanion, y neges a’r dull cyfathrebu a/neu hyrwyddo i’r gynulleidfa honno. Gallai dulliau cyfathrebu gynnwys defnyddio hysbysebu, marchnata uniongyrchol, marchnata maes a/neu gysylltiadau cyhoeddus, ynghyd ag amrywiaeth o hyrwyddiadau cynhyrchion/gwasanaethau cysylltiedig, gan gynnwys hyrwyddiadau pris a/neu hyrwyddiadau gwerthiannau.

 

I bwy mae’r uned hon 

Argymhellir yr uned hon i’r bobl sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod cwsmeriaid targed cynhyrchion/gwasanaethau sefydliad yn gwbl ymwybodol o nodweddion a buddion allweddol perthnasol y cynhyrchion/gwasanaethau trwy ddefnyddio cyfathrebiadau effeithiol, ond nad ydynt o reidrwydd yn arbenigwyr marchnata neu werthiannau. Er enghraifft, gallai unigolion o’r fath fod yn rheolwyr ‘cyffredinol’ mewn sefydliadau mwy, neu’n rheolwyr a/neu’n berchnogion o fewn sefydliadau bach i ganolig eu maint.

 

Unedau arbenigol cysylltiedig 

Cyfeirir pobl sy’n chwilio am safonau arbenigol sy’n cynnig mwy o ddyfnder ynghylch y maes hwn at yr unedau MSSSB cysylltiedig canlynol:

 

Uned farchnata

 

  1. Datblygu strategaeth cyfathrebiadau marchnata a chynlluniau ar gyfer cynhyrchion/gwasanaethau 

 

Unedau gwerthiannau 

 

  1. Prisio i hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau
  2. Datblygu a gweithredu hyrwyddiadau gwerthiannau 

Gellir cael at fanylion yr unedau hyn ar <www.msssb.org>


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1     nodi a blaenoriaethu’r amcanion y dylai’r hyrwyddiadau arfaethedig eu cyflawni, gan sicrhau bod y rhain yn cyd-fynd â’r cynllun ar gyfer y cynhyrchion/gwasanaethau perthnasol 

P2     nodi a blaenoriaethu’r grwpiau a’r mathau o gwsmeriaid y bydd yr hyrwyddiadau’n cael eu targedu atynt 

P3     monitro ymatebion cwsmeriaid a chystadleuwyr i strategaethau prisio er mwyn amlygu cyfleoedd am hyrwyddiadau effeithiol sy’n seiliedig ar brisiau 

P4     gwerthuso’r opsiynau hyrwyddo, a nodi, cyfiawnhau a chytuno ar yr opsiwn priodol ar gyfer y cynhyrchion/gwasanaethau  

P5     asesu fforddiadwyedd unrhyw hyrwyddiadau arfaethedig sy’n seiliedig ar brisiau a’u heffaith debygol o ran cyflawni targedau nifer gwerthiannau a phroffidioldeb 

P6     nodi risgiau mewn hyrwyddiad sy’n seiliedig ar brisiau a chytuno ar gamau perthnasol wrth gefn

P7     ceisio cyngor arbenigol ar yr opsiynau priodol, lle bo angen

P8     datblygu a chytuno ar gynllun hyrwyddiadau a chyllideb ar gyfer cyflawni’r amcanion, gan amlinellu mesurau perfformiad clir ac amserlenni ar gyfer eu cyflawni 

P9     nodi’r adnoddau a’r galluoedd sy’n ofynnol i gyflawni’r cynllun cytunedig a sefydlu p’un a yw’r rhain ar gael yn fewnol neu a oes angen gwasanaethau allanol 

P10 cyfathrebu’r cynllun cytunedig, ac ennill ymrwymiad gan bobl berthnasol y sefydliad i’w gyflawni 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol 

K1     pwysigrwydd cyfathrebiadau a hyrwyddiadau effeithiol, a’u rôl mewn adeiladu ymwybyddiaeth a defnydd o gynhyrchion/gwasanaethau eich sefydliad 

K2     pwysigrwydd nodi’r partïon gwahanol y mae’n rhaid i sefydliad gyfathrebu â nhw, gan gynnwys ei ddefnyddwyr, canolwyr a chyhoedd eraill amrywiol 

K3     y prif ddulliau cyfathrebu a’u rolau, gan gynnwys hysbysebu, marchnata uniongyrchol, gwerthu personol, cysylltiadau cyhoeddus a hyrwyddo gwerthiannau 

K4     y gwahanol fathau o hyrwyddiadau sy’n seiliedig ar brisiau y gellir eu cynnig i’ch cwsmeriaid, a’u manteision/eu hanfanteision cymharol 

K5     sut i asesu fforddiadwyedd hyrwyddiadau sy’n seiliedig ar brisiau, a hefyd unrhyw risgiau cysylltiedig 

K6     sut i ddatblygu amcanion, gweithredoedd ac atebolrwydd hyrwyddo, a chyllidebau cysylltiedig, ac elfennau cyllideb effeithiol 

K7    sut i nodi risgiau posibl yn gysylltiedig â chyflawni’r amcanion 

K8    pwysigrwydd amlinellu mesurau perfformiad clir ar gyfer cynlluniau i gyfathrebu/hyrwyddo eich cynhyrchion/gwasanaethau, sy’n dangos adenillion ariannol i’r sefydliad 

K9    pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a phobl berthnasol eraill yn ystod datblygiad y cynllun, a sut i wneud hyn yn effeithiol 

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol i ddiwydiant/sector

K10 gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol a moesegol sy’n effeithio ar gyfathrebiadau a hyrwyddiadau yn sector eich sefydliad, gan gynnwys eu heffaith o ran cyfrifoldeb cymdeithasol/corfforaethol 

K11 datblygiadau’r farchnad a datblygiadau gwerthiannau yn sector eich sefydliad

Gwybodaeth a dealltwriaeth benodol i gyd-destun

K12 y farchnad y mae eich sefydliad yn gweithio ynddi 

K13 amcanion hyrwyddo eich sefydliad, sy’n deillio o’r strategaeth gyffredinol

K14 anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid gwirioneddol a darpar gwsmeriaid eich sefydliad, a’r ymateb y mae eich sefydliad yn dymuno’i gael o’i gyfathrebiadau/hyrwyddiadau 

K15 cystadleuwyr a phartneriaid gwirioneddol eich sefydliad a’i ddarpar gystadleuwyr a phartneriaid, a nodweddion allweddol eu cynlluniau cyfathrebu/hyrwyddo 

K16 galluoedd, adnoddau a chapasiti eich sefydliad i gefnogi cynllun cyfathrebiadau/hyrwyddo 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Rydych chi’n rhagweld senarios tebygol yn y dyfodol ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiad
  2. Rydych chi’n cyflwyno syniadau a dadleuon yn glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol
  3. Rydych chi’n mynegi’r rhagdybiaethau a wnaed a’r risgiau sy’n gysylltiedig â deall sefyllfa 

Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif

1

Dyddiad Adolygu Dangosol

2009

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

MSSSB

URN gwreiddiol

CFAMSSNS10

Galwedigaethau Perthnasol

Addysg a hyfforddiant, Cofnodion, Cyffredinol, Cyfrifeg a chyllid, Cyllid, Galwedigaethau Proffesiynol, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gweinyddu, Gweinyddu Cronfa ddata, Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol, Rheoli busnes, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, TGCh i ddefnyddwyr, TGCh i ymarferwyr, Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol, Mentrau Gwasanaeth, Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd, Gweithwyr Ymchwil Proffesiynol, Gweithwyr iechyd proffesiynol, Gweithredwyr Adeiladu, Paratoi ar gyfer Gwaith, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau Gwasanaethau Hamdden a Theithio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Gweithwyr proffesiynol cysylltiol a galwedigaethau technegol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lletygarwch ac arlwyo, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Teithio a thwristiaeth, Garddwriaeth a choedwigaeth, Ieithyddiaeth, Gweithwyr Proffesiynol Gwasanaethau Cyhoeddus, Rheolwyr Gweithredol, Crefftau Adeiladu, Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid, Y Gyfraith a gwasanaethau cyfreithiol, Amaethyddiaeth, Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth mathemateg, Gwyddoniaeth, Technolegau gweithgynhyrchu, Gweithwyr Gwyddonol Proffesiynol, Busnes, Gweinyddu a’r Gyfraith, Rheolwyr Cynhyrchu, Gyrwyr a Gweithredwyr Peiriannau Symudol, Gwasanaethau Gofal Anifeiliaid, Cadwraeth Amgylcheddol, Cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, Llywodraeth a Sefydliadau Cysylltiedig, Gweithwyr Addysgu Proffesiynol, Galwedigaethau Glanhau Elfennol, Rheolwr Gwasanaethau Meddal, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Adeiladu, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig, Peirianneg a thechnolegau gweithgynhyrchu, Galwedigaethau Adeiladu Elfennol, Nyrsio a Phynciau a Galwedigaethau Perthynol, Addysgu a darlithio, Cymorth dysgu uniongyrchol, Gweithredwyr Proses, Gweithrediadau cludiant a chynnal a chadw, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Cyhoeddi a gwasanaethau gwybodaeth, Pensaernïaeth, ‘Wrangler’ Cyfryngau, Peirianneg, Crefftau Trydanol, Datblygiad a Lles Plant, y Celfyddydau, y Cyfryngau a Chyhoeddi, Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, Gweithwyr Peirianneg Proffesiynol, Cymorth Systemau, Rheolwyr Corfforaethol ac Uwch-swyddogion, Rheolwyr a Pherchnogion Lletygarwch, Adwerthu a chyfanwerthu, Iaith, llenyddiaeth a diwylliant, Sefydliad Ariannol a Rheolwr Swyddfa, Galwedigaethau Ysgrifenyddol a Chysylltiedig, Galwedigaethau Crefftau Medrus, Galwedigaethau Cadw Tŷ, NEC Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol Elfennol, Galwedigaethau Gwerthu Elfennol, Gofal anifeiliaid a milfeddygaeth, Archifdai Ardal Leol, Technegydd Microffilm a Microfiche, Gweithiwr Proffesiynol Ardystiedig Microsoft, Cymorth Cymwysiadau, Dadansoddwr Busnes, Mathemateg ac ystadegau, Adeiladu a saernïaeth

Cod SOC

2432

Geiriau Allweddol

Cynllunio ar gyfer hyrwyddo eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau