Buddsoddi cyfalaf yn eich busnes
Trosolwg
Gall gwneud y buddsoddiad cywir yn eich busnes eich helpu i gynyddu proffidioldeb, gwella cynhyrchiant a chefnogi datblygiad cynnyrch a gwasanaethau. Bydd dewis yr opsiwn buddsoddi cywir yn helpu i gynnal busnes hyfyw a chynaliadwy.
Gallech wneud hyn os ydych:
- yn paratoi cynllun ariannol ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol newydd
- yn adolygu hyfywedd ariannol busnes neu fenter gymdeithasol sydd wedi ei sefydlu
- yn cymryd busnes neu fenter gymdeithasol arall drosodd yn ystod ei flynyddoedd cynnar
- yn datblygu eich busnes neu fenter gymdeithasol trwy newid y cynnyrch neu'r gwasanaethau
Mae buddsoddi cyfalaf yn cynnwys:
- gosod targedau ar gyfer gwneud buddsoddiadau
- asesu'r elw a'r buddion fydd yn deillio o wneud buddsoddiadau
- nodi problemau posibl yn eich cynllun i wneud buddsoddiadau
- monitro'r ffordd y mae buddsoddiadau yn effeithio ar eich busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
gosod targedau clir ar gyfer gwneud buddsoddiadau
nodi a defnyddio ffynonellau cyngor i'ch helpu i wneud buddsoddiadau
cymharu ffyrdd gwahanol o wneud buddsoddiadau a chyfrifo costau a buddion pob buddsoddiad yn gywir
asesu'r elw y mae eich busnes yn debygol o'i gael ar gyfer buddsoddiadau gwahanol
nodi a chyfrifo cost ariannu ar gyfer y buddsoddiadau
cyfrifo effaith trethiant, grantiau a lwfansau yn gywir
- asesu sut bydd y buddsoddiad yn effeithio ar refeniw, costau a llif arian dros gyfnod priodol
- cynnwys unrhyw broblemau posibl a allai godi yn ystod y cyfnod buddsoddi
- monitro'r ffordd y mae'r buddsoddiad yn effeithio ar eich busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Buddsoddi cyfalaf
- pa dargedau buddsoddi y gellid eu cyflawni (er enghraifft elw ar gyfalaf, proffidioldeb gwell, cynhyrchiant gwell, datblygiad cynnyrch neu wasanaeth)
- beth yw cost buddsoddi (er enghraifft costau cyfalaf, cyfraddau llog ar fenthyciadau a'u heffaith ar eich busnes yn ystod y cyfnodau ad-dalu, costau rhedeg a dibrisiant)
- pa broblemau allai fod yn dibynnu a ydych yn buddsoddi cyfalaf yn eich busnes neu beidio
- pa fuddion buddsoddi sydd (er enghraifft darparu refeniw, mwy o elw, cynnydd mewn cynhyrchiant, safle a phroffil yn y farchnad)
- pa ansicrwydd allai fod mewn buddsoddiadau gwahanol (er enghraifft gostyngiad mewn gwerthiant neu gostau cynyddol, ac effeithiau'r newidiadau mewn costau neu refeniw ar faint eich elw)
- pa ffynonellau cyllid sydd yn bosibl (er enghraifft gwella llif arian, cael gorddrafft, cynilion eich hun, benthyciadau gan ffrindiau a theulu, benthyciadau o'r banc, grant y llywodraeth neu fuddsoddiad allanol arall)
- sut i asesu elw ar gyfalaf ar gyfer buddsoddiadau gwahanol (er enghraifft trwy ragweld perfformiad uchel ac isel posibl y buddsoddiad)
Gwybodaeth a chyngor
8. ble i gael gwybodaeth ddibynadwy i'ch helpu i nodi targedau a chostau buddsoddi (er enghraifft partneriaid cyswllt busnes, banciau, cynghorwyr ariannol, cynghorwyr busnes a chanolfannau cyngor busnes)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- MN1 Penderfynu ar anghenion ariannol eich busnes
- MN2 Gosod a monitro targedau ariannol ar gyfer eich busnes
- MN3 Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
- MN4 Rheoli llif arian yn eich busnes
- MN5 Cael cwsmeriaid i dalu ar amser
- MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
- MN8 Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
- MN9 Gwneud y bancio ar gyfer eich busnes
- MN10 Paratoi cyflogau
- MN11 Cofrestru a ffurflenni TAW