Cael cwsmeriaid i dalu ar amser
Trosolwg
Os nad oes gan eich busnes system i wirio taliadau gan gwsmeriaid, gall gostio miloedd ar filoedd o bunnoedd. Mae gan lawer o fusnesau broblemau gyda dyledion gan gwsmeriaid. Gall dyledion gwael arwain at fethiant busnes hyd yn oed. Os byddwch yn datblygu ffordd o reoli dyledion a chasglu taliadau gan gwsmeriaid, byddwch yn lleihau effaith dyledion ar eich busnes.
Gallech wneud hyn os ydych:
1. yn paratoi dadansoddiad o lif arian ar gyfer eich busnes neu fenter gymdeithasol
2. yn ceisio gwella hyfywedd eich busnes neu fenter gymdeithasol
3. yn ymestyn eich busnes neu fenter gymdeithasol neu'n newid y cynnyrch neu'r gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig
4. yn gyfrifol am reoli cyfrifon busnes neu fenter gymdeithasol
Mae cael cwsmeriaid i dalu ar amser yn cynnwys:
1. sefydlu system i gael cwsmeriaid i dalu ar amser
2. rhoi system rheoli credyd ar waith
3. adolygu effeithiau system rheoli credyd ar eich busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cyfrifo'n gywir faint o ddyledion sy'n ddyledus i'ch busnes
P2 cadarnhau nodau a thargedau ar gyfer rheoli credyd
P3 sefydlu telerau ac amodau ar gyfer rheoli credyd sydd yn unol â'ch targedau rheoli credyd a'r gyfraith
P4 datblygu system a phroses, yn cynnwys gwaith papur, ar gyfer lleihau dyledion ac annog cwsmeriaid i dalu'n gynnar
P5 nodi ffyrdd gwahanol o gasglu dyledion ac asesu eu costau a'u buddion
P6 dewis y ffordd fwyaf effeithiol o gasglu dyledion yn unol â'ch telerau ac amodau rheoli credyd
P7 cadw mewn cysylltiad rheolaidd â dyledwyr er mwyn nodi unrhyw broblemau sydd ganddynt yn talu
P8 defnyddio opsiynau casglu dyledion addas ar gyfer cleientiaid
P9 asesu peryglon credyd ymlaen llaw ar gyfer pob cyfrif newydd, ac yn rheolaidd ar gyfer cyfrifon cyfredol
P10 monitro costau a buddion eich systemau a'ch prosesau i reoli credyd
P11 mesur effeithiau dyledion ar effeithiolrwydd busnes yn rheolaidd
P12 monitro'r systemau rheoli credyd a nodi problemau o ran rheoli credyd
P13 newid targedau rheoli credyd i fodloni unrhyw anghenion busnes newydd
P14 esbonio manylion y ffordd yr ydych yn rheoli credyd, yn cynnwys unrhyw newidiadau sy'n cael eu gwneud iddo, i bobl berthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydlu system rheoli credyd
G1 sut i gyfrifo effaith dyledion ar eich busnes o ran costau a llif arian
G2 sut i gyfrifo:
G2.1 costau opsiynau casglu dyledion (er enghraifft, colli busnes cleientiaid, costau gweinyddol a ffioedd proffesiynol)
G2.2 buddion rheoli credyd da (er enghraifft, llif arian a derbyn llog gwell yn sgil taliadau cyflymach, lleihau dyledion gwael, dileu dyledion a chostau gweinyddol hirdymor is)
G3 pa dargedau i'w gosod ar gyfer rheoli credyd (er enghraifft, casglu taliadau, gwella llif arian, lleihau nifer y dyledion gwael ac ar gyfer dileu dyledion)
G4 sut mae'r cyfreithiau canlynol yn effeithio ar eich system rheoli credyd:
G4.1 Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 (ar gyfer trefniadau credyd hyd at £15,000)
G4.2 Deddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998
G4.3 Deddf Diogelu Data
Gweithredu system rheoli credyd
G5 pa fathau o ddogfennau a dulliau sy'n addas i'w defnyddio wrth reoli credyd
G6 pa systemau rheoli credyd fydd yn lleihau dyledion gwael, yn cynnwys:
G6.1 cadw golwg ar yr amser amrywiol y mae dyledion yn ddyledus (dadansoddi hen ddyledwyr)
G6.2 cynnig gostyngiadau i gleieintiaid am dalu'n gyflym (cyfrifon setlo)
G6.3 cyfrifo a yw cleientiaid yn debygol o dalu eu dyledion (dadansoddiad risg cleientiaid unigol)
G6.4 gwiriadau a statws credyd
G6.5 dynodi terfynau credyd cyffredinol ac unigol
G7 pa opsiynau sydd ar gyfer casglu dyledion (er enghraifft siarad â'r dyledwr dros y ffôn, anfon nodyn atgoffa ysgrifenedig, camau cyfreithiol, defnyddio asiantaethau casglu debyd neu asiantaeth ffactoreiddio i roi blaenswm yn erbyn dyledion)
G8 sut i benderfynu ar gostau a buddion bodloni targedau rheoli credyd a thargedau busnes:
G8.1 costau (er enghraifft, colli cwsmeriaid, costau gweinyddol, ffioedd cyfreithiol a chomisiwn asiantaethau)
G8.2 buddion (er enghraifft, lleihau dyledion gwael, cael taliadau llog uwch, llif arian iach, cadw costau adfer yn isel a chadw teyrngarwch cwsmeriaid)
G9 beth yw'r terfynau cyfreithiol a moesol o ran rheoli credyd
G10 sut i gadw mewn cysylltiad â dyledwyr a chredydwyr a pha mor aml i gyfathrebu
Monitro rheoli credyd
G11 sut i asesu risg mewn perthynas â maint y busnes a ddisgwylir gan y cwsmer (er enghraifft trwy wiriadau credyd, statws credyd, gwiriadau banc a masnach, cyfrifon a chyfriflenni busnes a chredydwyr hysbys eraill)
G12 pa broblemau allai fod wrth roi systemau rheoli credyd ar waith (er enghraifft, cyfran gyffredinol y cwsmeriaid sydd mewn dyled i fusnes, cwsmeriaid sy'n mynd yn fethdalwyr neu'n cael eu diddymu, archebion anarferol o fawr, gwasanaeth cwsmeriaid yn torri lawr, methiant gan fusnes i gadw addewidion cyflenwi, newidiadau staff neu wneud addewidion)
G13 sut i gael adborth cywir gan gleientiaid am reoli credyd
G14 pwy y mae angen ei hysbysu am systemau rheoli credyd (er enghraifft staff a chleientiaid)
Gwybodaeth a chyngor
G15 ble i gael cymorth am reoli credyd (er enghraifft cysylltiadau busnes, canolfannau cyngor busnes, cynghorwyr busnes, mentoriaid, cwnselwyr, ymgynghorwyr arbenigol, cyfarwyddwyr anweithredol, cyfrifwyr, banciau, awdurdodau treth, asiantaethau credyd a ffactorau dyled)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Dolenni i Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol eraill
1. MN1 Penderfynu ar anghenion ariannol eich busnes
2. MN2 Sefydlu a monitro targedau ariannol ar gyfer eich busnes
3. MN3 Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
4. MN4 Rheoli llif arian yn eich busnes
5. MN6 Buddsoddi cyfalaf yn eich busnes
6. MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
7. MN8 Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
8. MN9 Gwneud y bancio ar gyfer eich busnes
9. MN10 Paratoi cyflogau
10. MN11 Cofrestru a ffurflenni TAW