Rheoli llif arian yn eich busnes
URN: CFAMN4
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Busnes,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2008
Trosolwg
Mae gallu rhagfynegi a rheoli arian sydd yn mynd i mewn ac allan o'ch busnes ar adegau gwahanol a'i effaith ar eich busnes yn hanfodol i asesu iechyd ariannol eich busnes. Gall olygu'r gwahaniaeth rhwng busnes sy'n goroesi ac un sydd yn methu.
Gallech wneud hyn os ydych:
- yn hunangyflogedig
- yn sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol
- yn adolygu cynllunio ariannol a hyfywedd eich busnes neu fenter gymdeithasol
- yn ceisio cynyddu proffidioldeb eich busnes neu fenter gymdeithasol
Mae rheoli llif arian yn cynnwys:
- gosod targedau llif arian yn unol â chynlluniau ariannol eich busnes
- cynhyrchu rhagolygon llif arian yn fisol
- nodi unrhyw fylchau rhwng incwm a gwariant a chymryd camau i reoli unrhyw ddiffyg sy'n debygol o fod
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrifo pa gostau sydd yn gysylltiedig yn eich busnes
- cyfrifo pryd, yn ystod pob cyfnod cyfrifo, y mae angen talu mathau gwahanol o gostau
- cyfrifo pryd bydd arian parod yn llifo i mewn ac allan o'ch busnes yn ystod pob cyfnod cyfrifo
- cyfrifo pa arian sydd ar gael ar unrhyw adeg
- gwirio'r effaith y gallai amseriad taliadau (i mewn ac allan) ei gael ar lif arian
- gosod targedau llif arian sydd yn unol â'ch cynlluniau ariannol ar gyfer eich busnes
- nodi o ble y daw arian parod a monitro sut caiff ei ddefnyddio yn eich busnes
- rheoli ffynonellau a'r defnydd o arian parod lle y bo'n briodol
- creu rhagolygon llif arian ar adegau penodedig sydd yn addas ar gyfer eich busnes
- rhagweld yn gywir unrhyw ddiffyg arian parod a chynllunio'r camau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â nhw
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Llif arian
- beth yw'r dulliau o ragfynegi incwm a gwariant busnes
- sut i ganfod pa gronfeydd fydd yn cael eu gwario wrth ddechrau a/neu redeg busnes
- beth yw'r gofynion ar gyfer rhagfynegi llif arian
- sut i baratoi a gwneud synnwyr o gyfriflenni llif arian sylfaenol a rhagweld cyfraddau llif arian uchel ac isel posibl (dadansoddiad sensitifrwydd sylfaenol)
- sut i fonitro llif arian (er enghraifft trwy gadw cofnodion o ddydd i ddydd a gwneud synnwyr o gyfriflenni banc)
- sut i ddewis y graddfeydd amser mwyaf defnyddiol ar gyfer rhagolygon ariannol (er enghraifft bob mis, bob tri mis neu flwyddyn)
- sut i reoli ffynonellau a defnydd o arian parod (er enghraifft trwy symud arian parod rhwng cyfrifon, prynu a gwerthu stoc, cadw niferoedd y credydwyr a dyledwyr gwael mor isel â phosibl, rheoli taliadau i gredydwyr, talu treth, prynu a gwerthu asedau, a pholisïau prisio a gwerthiannau tymor byr)
- sut mae amseriad derbynebion arian parod a gwariant yn effeithio ar lif arian
- sut gall peidio â bodloni targedau y cytunwyd arnynt effeithio ar lif arian (er enghraifft, peidio â bodloni amserau dosbarthu y cytunwyd arnynt, peidio â dilyn cyfreithiau neu reoliadau, telerau talu, cosbau am beidio â chwblhau neu dorri amodau contract ac iawndal am beidio â derbyn nwyddau)
Gwybodaeth a chyngor
10. pwy all roi cyngor ariannol ar fusnes (er enghraifft cyfrifwyr, cyfreithwyr, canolfannau cyngor, banciau a darparwyr ariannol eraill). Gall cynghorwyr fod ynghlwm wrth gwmni penodol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- MN1 Penderfynu ar anghenion ariannol eich busnes
- MN2 Gosod a monitro targedau ariannol ar gyfer eich busnes
- MN3 Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
- MN5 Cael cwsmeriaid i dalu ar amser
- MN6 Buddsoddi cyfalaf yn eich busnes
- MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
- MN8 Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
- MN9 Gwneud y bancio ar gyfer eich busnes
- MN10 Paratoi cyflogau
- MN11 Cofrestru a ffurflenni TAW
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2010
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sfedi
URN gwreiddiol
MN4
Galwedigaethau Perthnasol
Busnes, Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, Cyfarwyddwr, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
llwyddiant, busnes, syniad, cymdeithasol, menter, cwsmeriaid, cynnyrch, gwasanaeth, cymorth, creadigol, syniad, sgiliau, anghenion, cyflenwyr, arian parod, llif, deddfwriaeth, marchnata, marchnad, tueddiadau, cystadleuwyr, iechyd a diogelwch, TAW, offer,