Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
Trosolwg
Bydd angen i chi gadw cofnodion ariannol am amrywiaeth o ddibenion. Maent yn bwysig i'ch helpu i reoli eich cyllid a pharhau i gynllunio eich busnes. Mae eu hangen hefyd i fodloni gofynion cyfreithiol a rheoliadol mewn cyfraith cwmnïau ac at ddibenion treth.
Gallech wneud hyn os ydych:
1. yn hunangyflogedig
2. yn dechrau busnes neu fenter gymdeithasol
3. yn cymryd yr awenau mewn busnes neu fenter gymdeithasol arall
4. yn gyfrifol am reoli cyllid mewn busnes neu fenter gymdeithasol
Mae cadw cofnodion ariannol yn cynnwys:
1. ymchwilio i systemau gwahanol ar gyfer cofnodi, monitro ac adrodd ar gyllid eich busnes
2. penderfynu pa gofnodion ariannol i'w cadw a sut a phryd i'w cadw
3. dewis system rheoli cyfrifon sy'n berthnasol i fformat cyfreithiol eich busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 penderfynu pa gofnodion ariannol y byddwch yn eu cadw a sut a phryd y byddwch yn eu cadw
P2 nodi’r systemau a’r broses y byddwch yn ei defnyddio i reoli’r arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan o’ch busnes
P3 dewis system gyfrifo fydd:
P3.1 yn darparu cyfriflenni ariannol cywir
P3.2 yn darparu ffurflenni statudol ar gyfer hysbysu’r awdurdodau treth
P3.3 yn rhoi rhagolwg o’r llif arian parod, yr elw a’r colledion
P3.4 yn nodi amrywiadau yn gywir
P4 sicrhau bod yr holl drafodion ariannol yn cael eu cofnodi’n gywir yn y man priodol
P5 sicrhau y bydd y system ariannol yn creu cofnodion anfonebu a phrynu addas
P6 defnyddio dulliau cyfrifo sy’n berthnasol i statws masnachu eich busnes
P7 sicrhau bod y bobl briodol yn gwybod am y wybodaeth gyfrifo
P8 sicrhau bod y ffordd y mae cofnodion ariannol yn cael eu cadw a’u cofnodi yn unol â’r gofynion cyfreithiol ar gyfer busnesau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cofnodion ariannol
G1 pa gofnodion ariannol all fod eu hangen ar gyfer gwerthiannau (er enghraifft trafodion arian parod a gwerthiannau credyd, trafodion prynu a chredydwyr)
G2 pa gofnodion ariannol gall fod angen eu cadw am asedau a chronfeydd eich busnes
G3 sut i greu cofnodion ariannol, yn cynnwys:
G3.1 llyfrau cofnodion a chyfnodolion;
G3.2 anfonebu, derbynebau a thaliadau
G4 beth yw egwyddorion a gweithdrefnau bras systemau cyfrifo
G5 sut i ddewis systemau cyfrifo â llaw a chyfrifiadurol (er enghraifft llyfrau cofnodion, cyfnodolion, cyllidebau, anfonebu, derbynebion, taliadau, cyfnodau cyfrifo, y flwyddyn ariannol a’r flwyddyn dreth)
G6 pa ddatganiadau ariannol a ffurflenni statudol sy’n berthnasol i’ch busnes o ran eich statws masnachu (er enghraifft, elw a cholled, mantolenni, hen ddyledion, cyfnodolion cyfrifo neu ffurflenni treth)
G7 sut i ddewis a defnyddio cyfnodau cyfrifo a blynyddoedd ariannol gwahanol
G8 sut i ddefnyddio cofnodion ariannol ar gyfer monitro cyflwr ariannol eich busnes
G9 sut i wneud synnwyr o ragolygon llif arian, cyfriflenni elw a cholled, mantolenni, taflenni balans a’r hyn y dylent ei gynnwys
G10 sut i gysylltu llif arian, elw a cholled a thaflenni balans â’i gilydd
G11 pa gamau ariannol a rhagolygon sydd eu hangen ar eich busnes
G12 pam y mae angen gwybodaeth ariannol ar fusnesau, fel gwirio taliadau cwsmeriaid (rheoli credyd), rheoli faint o arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan (rheoli llif arian), monitro’r gweithgaredd yn eich cyfrif banc a’r taliadau a wnaed gan y banc (monitro bancio)
Gwybodaeth a chyngor
G13 pa wybodaeth am gadw cofnodion ariannol sydd ar gael a chan ba sefydliad (er enghraifft, cyfrifwyr, cyfreithwyr, canolfannau cyngor, banciau a darparwyr ariannol eraill) gall cynghorwyr fod yn annibynnol neu'n gysylltiedig â chwmni penodol
G14 pam y mae'n bwysig defnyddio cyngor technegol a phroffesiynol cywir i gael gwybodaeth am gyfrifo, llif arian, elw a cholled, rheoli credyd a ffurflenni treth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
1. MN1 Penderfynu ar anghenion ariannol eich busnes
2. MN2 Gosod a monitro targedau ariannol ar gyfer eich busnes
3. MN4 Rheoli llif arian yn eich busnes
4. MN5 Cael cwsmeriaid i dalu ar amser
5. MN6 Buddsoddi cyfalaf yn eich busnes
6. MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
7. MN8 Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
8. MN9 Gwneud y bancio ar gyfer eich busnes
9. MN10 Paratoi cyflogau
10. MN11 Cofrestru ar gyfer TAW a ffurflenni
Dolenni i safonau eraill
Os yw eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli, gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o'r Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
11. E1 Rheoli cyllideb