Gosod a monitro targedau ariannol ar gyfer eich
Trosolwg
Os ydych eisiau rhedeg busnes llwyddiannus mae angen i chi gadw cofnod o'r arian yr ydych yn ei ddefnyddio, ei gynilo a'i wario. Bydd gosod targedau ariannol a monitro pa mor dda mae eich busnes yn ei wneud yn eu herbyn yn eich helpu i wneud hyn.
Gallech wneud hyn os ydych:
- yn creu cynllun busnes ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol newydd
- yn adolygu cynllun ariannol busnes neu fenter gymdeithasol sydd wedi ei sefydlu
- yn ceisio cyllid ychwanegol i ehangu eich busnes neu fenter gymdeithasol
- yn newid y cynnyrch neu'r gwasanaethau yr ydych yn eu cynnig
Mae gosod a monitro targedau ariannol yn cynnwys:
- ymchwilio i ffyrdd gwahanol o fesur llwyddiant eich busnes
- sefydlu systemau i fonitro perfformiad ariannol eich busnes
- penderfynu beth i'w wneud os yw'r hyn sydd yn digwydd yn wahanol i'r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- amcangyfrif yn realistig cyflwr ariannol eich busnes
- ymchwilio i ffyrdd gwahanol o fesur llwyddiant eich busnes
- penderfynu pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi rhagolwg ariannol i helpu i gynllunio eich busnes a mesur elw
- creu rhagolygon cywir ar gyfer cyfnodau cyfrifo penodol a'u cyflwyno mewn ffordd briodol
- sicrhau bod y wybodaeth ariannol yr ydych yn ei defnyddio ar gyfer rhagweld yn seiliedig ar wybodaeth ddilys a dibynadwy
- defnyddio'r rhagolygon wrth gynllunio a rheoli eich busnes yn ariannol
- cyfrifo yn gywir incwm a gwariant eich busnes a gwirio'n rheolaidd eu heffaith ar dargedau elw
- nodi gwahaniaethau rhwng elw a ragwelwyd ac elw gwirioneddol
- ymchwilio i'r hyn sydd yn achosi'r gwahaniaeth rhwng yr elw a ragwelwyd a'r elw gwirioneddol a pha effaith y mae'r rhain yn eu cael ar eich busnes
- gosod targedau ariannol yn unol â'ch cynlluniau ariannol ar gyfer eich busnes
- paratoi cynllun ariannol clir a'i ddefnyddio i asesu a helpu i wella perfformiad ariannol eich busnes
- penderfynu pa systemau rheoli ariannol i'w defnyddio yn eich busnes
- nodi ffyrdd o gadw eich atebolrwydd treth mor isel â phosibl o fewn y gyfraith
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gosod targedau
- pa dargedau ariannol sydd yn bwysig i'ch busnes (er enghraifft, trosiant, llif arian, elw, maint yr elw, benthyg, effeithlonrwydd treth, buddsoddi ac effeithlonrwydd cost)
- sut i asesu effaith targedau ariannol ar gynhyrchiant, gwerthiannau a refeniw nad yw'n werthiant, costau a gwariant
- sut i gyfrifo'r cymarebau pwysig sydd yn mesur pa mor llwyddiannus y mae rhannau gwahanol o'ch busnes (er enghraifft, elw gros a net fel canran o drosiant neu werthiannau, neu'r elw ar y cyfalaf a ddefnyddiwyd)
- sut i ganfod pryd bydd incwm yn cyd-fynd â gwariant (dadansoddiad adennill costau)
Rhagfynegi ariannol
5. pa ragolygon ariannol penodol sydd angen eu gwneud (er enghraifft elw a cholled, llif arian, incwm, gwariant, symudiadau i mewn, asedau ac atebolrwydd, cyllidebu a chynhyrchu, gwerthiannau)
6. pa broblemau sy'n debygol o effeithio ar ragfynegi busnes, fel newidiadau i'r farchnad yn ymwneud â chynnyrch ac ystod, costau adnoddau a gweithredu
Cynyddu proffidioldeb
7. sut i ganfod y gwahaniaeth rhwng elw gros a net, cyfriflenni elw a cholled sylfaenol, rhagolygon uchel ac isel a chymarebau syml a sut i ddefnyddio'r wybodaeth yma i ddadansoddi maint yr elw ar gyfer cynnyrch a marchnadoedd gwahanol
8. beth yw maint priodol o elw ar gyfer eich busnes, sut i fonitro proffidioldeb a pha mor aml dylid gwneud hyn
9. sut i benderfynu pa ystod o stoc i'w gynnig trwy ystyried:
9.1 cylch bywyd y cynnyrch (y ffordd y mae gwerthiannau'n codi a disgyn – cyflwyniad, twf, aeddfedrwydd a dirywiad);
9.2 troad stoc (gwerth stoc yn erbyn gwerthiannau blynyddol)
10. sut i gymharu ystod a maint gwerthiannau gyda:
10.1 chynhyrchu (cost unedau)
10.2 cyllid (cost stoc);
10.3 prynu (gostyngiadau maint); K10.4 polisi prisio (maint yr elw)
Cynllun ariannol
11. yr hyn y dylai cynllun ariannol ei gynnwys, yn cynnwys:
11.1 asesiad o gyflwr ariannol eich busnes a nodau ariannol, gyda chymarebau pwysig elw yn erbyn trosiant, gwerthiannau neu gyfalaf
11.2 llif arian, cyfriflenni elw a cholled a rhagolygon
11.3 mantolen
11.4 gwybodaeth am y systemau rheoli a'r mesurau perfformiad i gael eu defnyddio
11.5 y pwynt adennill costau
- sut i ddefnyddio cynllunio wrth gefn (ffyrdd o osgoi unrhyw broblemau posibl)
- pa ffyrdd sylfaenol sydd o gadw'r dreth yr ydych yn ei thalu mor isel â phosibl
- beth yw eich atebolrwydd yn unol â chyfreithiau presennol (er enghraifft cynllunio hirdymor ac adrodd ar dollau ac ansolfedd)
Rheoli cyfrifon
15. sut i ddewis systemau llaw a chyfrifiadurol (er enghraifft cyfriflyfrau, dyddlyfrau, cyllidebau, anfonebu, derbynebion, taliadau, cyfnodau cyfrifo, blwyddyn ariannol a blwyddyn dreth
16. pa gyfriflenni ariannol a ffurflenni statudol sydd yn berthnasol i'ch busnes chi (er enghraifft, elw a cholled, mantolenni, hen ddyledion, dyddlyfrau cyfrifo neu ffurflenni treth) o ran eich statws masnachu (er enghraifft, unig fasnachwr, partneriaeth, cwmni cyfyngedig)
17. sut i ddefnyddio cyfnodau cyfrifo gwahanol ar gyfer cynllunio
18. pam mae eich busnes angen gwybodaeth ariannol, fel cadw cofnod o daliadau cwsmeriaid (rheoli credyd), rheoli faint o arian sydd yn dod i mewn ac yn mynd allan (rheoli llif arian), monitro'r gweithgaredd yn eich cyfrif banc a'r taliadau a wneir gan y banc (monitro'r banc)
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
- MN1 Penderfynu ar anghenion ariannol eich busnes
- MN3 Cadw cofnodion ariannol ar gyfer eich busnes
- MN4 Rheoli llif arian yn eich busnes
- MN6 Buddsoddi cyfalaf yn eich busnes
- MN7 Cael cyllid ar gyfer eich busnes
- MN8 Monitro benthyca ar gyfer eich busnes
Cysylltiadau â safonau eraill - Os yw eich busnes yn tyfu ac yn datblygu tîm rheoli gall fod yn briodol ystyried yr unedau canlynol o Safonau Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.
- B3 Datblygu cynllun busnes strategol
- E1 Rheoli cyllideb