Rheoli effaith amgylcheddol eich gwaith

URN: CFAMLE9
Sectorau Busnes (Suites): Y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Manwerthu
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2009

Trosolwg

​Mae'r uned hon yn ymwneud â rheoli adnoddau a gweithgareddau gwaith yn eich maes  cyfrifoldeb er mwyn lleihau'r effaith negyddol – a mwyhau'r effaith gadarnhaol – y gallent ei chael ar yr amgylchedd.

Mae’n golygu trefnu gweithgareddau gwaith a defnyddio adnoddau yn effeithiol, deall eu heffaith ar yr amgylchedd a dod o hyd i ffyrdd o leihau eu heffeithiau negyddol a chynyddu eu heffeithiau cadarnhaol. Efallai y bydd angen ichi geisio cyngor gan arbenigwyr amgylcheddol wrth gyflawni'r swyddogaeth hon.  

Argymhellir yr uned hon yn benodol i reolwyr llinell cyntaf a rheolwyr canol.  

Mae’r uned hon wedi’i chysylltu â'r unedau canlynol: 

1. Sicrhau cydymffurfiad â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol 
2. Rheoli risg 
3. Neilltuo gwaith a monitro cynnydd ac ansawdd y gwaith hwnnw yn eich maes cyfrifoldeb 
4. Rheoli adnoddau diriaethol y gyfres gyflawn o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Rheolaeth ac Arweinyddiaeth


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. trefnu gweithgareddau gwaith a defnyddio adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb mewn modd sy’n:   
   1.1. sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn effeithlon 
   1.2. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol 
    1.3. lleihau'r effaith negyddol a mwyhau'r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd 
2. canfod effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a sut y caiff adnoddau eu defnyddio yn eich maes cyfrifoldeb 
3. rhoi gwybod yn ddi-oed am unrhyw risgiau i'r amgylchedd a ganfuwyd sydd y tu hwnt i’ch gallu chi i'w rheoli 
4. annog pobl yn eich maes cyfrifoldeb i ganfod cyfleoedd i wella perfformiad amgylcheddol, ac i gyfrannu at y gwelliannau hynny  
5. canfod newidiadau i weithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau'r effaith negyddol ac yn cynyddu'r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a'u rhoi ar waith  
6. cyfleu i eraill y manteision amgylcheddol fydd yn deillio o wneud newidiadau i weithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau 
7. cael cyngor arbenigol, pan fo angen, i'ch helpu i ganfod a rheoli effaith eich gweithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau ar yr amgylchedd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol 

1. sut mae trefnu gweithgareddau gwaith a defnyddio adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb mewn modd effeithiol ac effeithlon  
2. pam ei bod yn bwysig trefnu gweithgareddau gwaith a defnyddio adnoddau mewn modd sy'n lleihau eu heffaith negyddol ac yn mwyhau eu heffaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a sut mae gwneud hynny   
3. pam ei bod yn bwysig canfod effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau yn eich maes cyfrifoldeb, a sut mae gwneud hynny 
4. pam ei bod yn bwysig rhoi gwybod yn ddi-oed am unrhyw risgiau i'r amgylchedd a ganfuwyd sydd y tu hwnt i’ch gallu chi i'w rheoli, a sut mae gwneud hynny 
5. sut mae annog pobl i gyfrannu 
6. sut mae canfod newidiadau i weithgareddau gwaith a'r defnydd o adnoddau a fydd yn lleihau'r effaith negyddol ac yn cynyddu'r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd a'u rhoi ar waith 
7. egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut mae eu defnyddio 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector 

8. gofynion y diwydiant/sector o ran rheoli perfformiad amgylcheddol yn eich maes cyfrifoldeb 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i'r cyd-destun 

9. gofynion cyfreithiol a pholisïau amgylcheddol a sut i gydymffurfio â nhw 
10. y mathau o risgiau i'r amgylchedd sydd y tu hwnt i’ch gallu chi i'w rheoli 
11. unigolion yn eich maes cyfrifoldeb sy'n gallu canfod cyfleoedd i wella perfformiad amgylcheddol ac sy’n gallu cyfrannu at wneud hynny  
12. yr ystod o arbenigwyr amgylcheddol sydd ar gael oddi mewn ac/neu oddi allan i’ch sefydliad 
13. eich rôl, eich cyfrifoldebau a therfynau eich awdurdod 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych chi’n gweld newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac yn addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny. 
2. Rydych chi'n cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth. 
3. Rydych chi’n rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau. 
4. Rydych chi'n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol ac yn sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â’r rhain hefyd. 
5. Rydych chi’n gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod. 
6. Rydych chi’n cadw llygaid am beryglon posibl.  
7. Rydych chi’n darparu gwybodaeth briodol yn brydlon i'r rheini sydd ei hangen ac sydd â hawl i’w chael. 
8. Rydych chi’n annog eraill i rannu gwybodaeth yn effeithlon o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd. 
9. Rydych chi’n defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn y ffordd orau bosibl ac yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am ffynonellau cymorth newydd pan fo angen. 
10. Rydych chi'n gallu gweld goblygiadau a chanlyniadau sefyllfa


Sgiliau

Isod mae rhestr o’r prif 'sgiliau’ generig y mae angen eu defnyddio wrth reoli perfformiad amgylcheddol yn eich maes cyfrifoldeb chi. Mae'r sgiliau hyn yn amlwg/ymhlyg yn y manylion am gynnwys yr uned ac maent wedi'u rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol.   
Asesu 
Cyfathrebu  
Ymgynghori  
Gwneud penderfyniadau  
Gwerthuso  
Cynnwys pobl eraill  
Monitro  
Cynllunio  
Cyflwyno gwybodaeth  
Rhoi adroddiadau  
Rheoli risg


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2011

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Instructus

URN gwreiddiol

E9

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Busnes, Rheolwyr a Swyddogion Uwch

Cod SOC

3565

Geiriau Allweddol

rheolaeth, arweinyddiaeth, amgylchedd