Rheoli systemau sicrhau ansawdd
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli systemau sicrhau ansawdd – systemau i sicrhau bod prosesau busnes yn cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau sy'n bodloni disgwyliadau ansawdd cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill a gofynion cyfreithiol a rheoliadol yn barhaus.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb penodol dros reoli systemau ansawdd er mwyn sicrhau ansawdd cynnyrch a/neu wasanaethau yn eu sefydliad, neu ran o'u sefydliad.
Mae'r safon hon yn agos gysylltiedig â'r holl safonau eraill ym maes allweddol FE Rheoli ansawdd a pherfformiad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Sicrhau bod y safonau ansawdd yr ydych yn cydymffurfio â nhw
1.1 yn gallu cyflwyno'r ansawdd o ran cynnyrch a gwasanaethau y mae eich cwsmeriaid yn ei ddisgwyl
1.2 yn eich galluogi i gael unrhyw nodau ansawdd, gwobrau neu achrediad disgwyliedig
1.3 yn unol â gwerthoedd, nodau ac amcanion eich sefydliad
1.4 yn bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol a rheoliadol. - Sicrhau bod systemau, cynlluniau ac adnoddau yn eu lle i sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni a'u cynnal.
- Sicrhau bod pobl yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eu rolau a'u cyfrifoldebau yn bodloni safonau ansawdd a'u bod yn gymwys i gyflawni eu rolau.
- Nodi ac asesu risg o ddiffygion o ran ansawdd prosesau, cynnyrch a gwasanaethau a chymryd camau ataliol i leddfu'r risg yma.
- Annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol dros gyflawni safonau ansawdd ac i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu bosibl neu adrodd yn eu cylch.
- Cael digon o wybodaeth ddilys o'ch system sicrhau ansawdd a ffynonellau eraill, yn cynnwys cwsmeriaid, i'ch galluogi i werthuso'n gywir a yw prosesau, cynnyrch a gwasanaethau yn bodloni'r safonau gofynnol.
- Rhoi adborth i ysgogi pobl i gynnal safonau ansawdd a gwella perfformiad yn barhaus.
- Canfod a chofnodi unrhyw ddiffyg o ran ansawdd prosesau, cynnyrch a gwasanaethau, ymchwilio i'r achosion a chymryd camau cywiro prydlon.
- Adrodd ynghylch ansawdd perfformiad, yn cynnwys diffygion, camau cywiro a gymerwyd, i'r rheiny sydd angen gwybod, o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.
- Annog cwsmeriaid a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â chyflwyno cynnyrch a gwasanaethau i nodi ac argymell gwelliannau ansawdd.
- Datblygu cynlluniau gydag adnoddau i roi gwelliannau ansawdd ar waith sydd yn rhoi buddion sylweddol am gost resymol a lefel dderbyniol o risg.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
- sut i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau cyfredol, offer a thechnegau wrth reoli ansawdd, disgwyliadau ansawdd cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill a gofynion cyfreithiol a rheoliadol.
- Gwerth nodau ansawdd, gwobrau ac achrediad i broffil sefydliad a'i frandiau.
- Unrhyw nodau ansawdd, gwobrau neu achrediad perthnasol, a'r ffordd y gall y safonau ansawdd yr ydych yn cydymffurfio â nhw gyflawni'r rhain.
- Sut i sicrhau bod y safonau ansawdd yr ydych yn cydymffurfio â nhw yn gallu cyflwyno'r ansawdd o ran cynnyrch a gwasanaethau y mae eich cwsmeriaid yn eu disgwyl.
- Pwysigrwydd sicrhau bod systemau a chynlluniau wedi eu sefydlu i sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni a'u cynnal, a sut i wneud hynny.
- Pwysigrwydd cyfathrebu gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir, a sut i wneud hynny.
- Pwysigrwydd rhoi'r wybodaeth gywir i bobl am eu rolau yn bodloni safonau ansawdd, a sut i sicrhau bod pobl yn gymwys i gyflawni rolau o'r fath.
- Pwysigrwydd annog pobl i gymryd cyfrifoldeb personol dros gyflawni safonau ansawdd.
- Pwysigrwydd annog pobl i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion gwirioneddol neu bosibl o ran ansawdd prosesau, cynnyrch a gwasanaethau neu adrodd ynghylch y rhain.
- Pwysigrwydd cael gwybodaeth ddigonol, ddilys, i'ch galluogi i werthuso'n gywir a yw prosesau, cynnyrch a gwasanaethau yn bodloni'r safonau gofynnol, a sut i wneud hynny.
- Pwysigrwydd rhoi adborth i ysgogi pobl i gynnal safonau ansawdd a gwella perfformiad yn barhaus, a sut i wneud hynny.
- Sut i ganfod a chofnodi unrhyw ddiffyg o ran ansawdd prosesau, cynnyrch a gwasanaethau, ac ymchwilio i achos(ion) a'r camau cywiro priodol i'w cymryd.
- Sut i adrodd ynghylch ansawdd perfformiad, yn cynnwys diffygion a'r camau cywiro i'w cymryd, i'r rheiny sydd angen gwybod, o fewn graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.
- Pwysigrwydd annog cwsmeriaid a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â chyflwyno cynnyrch a gwasanaethau i nodi ac argymell gwelliannau ansawdd.
- Sut i ddatblygu cynlluniau gydag adnoddau i weithredu gwelliannau ansawdd sydd yn rhoi buddion sylweddol am gost resymol a lefel dderbyniol o risg.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
16. Gofynion y diwydiant/sector ar gyfer sicrhau ansawdd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i gyd-destun
17. Datblygiadau presennol o ran rheoli ansawdd.
18. Disgwyliadau cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill yn ymwneud ag ansawdd.
19. Gofynion cyfreithiol a rheoliadol cyfredol rheoli ansawdd.
20. Cynnyrch a gwasanaethau eich sefydliad.
21. Gwerthoedd, nodau ac amcanion eich sefydliad a sicrhau bod y safonau ansawdd yr ydych yn cydymffurfio â nhw yn unol â'r rhain.
22. Yr adnoddau sydd ar gael gan eich sefydliad i sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni a'u cynnal.
23. Ffynonellau gwybodaeth, yn cynnwys eich system sicrhau ansawdd a'ch cwsmeriaid, i'ch galluogi i werthuso'n gywir a yw prosesau, cynnyrch a gwasanaethau yn bodloni'r safonau gofynnol.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau
- Ceisio cyfleoedd i wella perfformiad
- Gwrando'n weithredol, gofyn cwestiynau, egluro pwyntiau ac ailddatgan neu aralleirio datganiadau i sicrhau dealltwriaeth gydfuddiannol
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
- Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am gynlluniau a datblygiadau mewn ffordd amserol
- Annog a chroesawu adborth gan eraill a defnyddio'r adborth hwn yn adeiladol
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol a sicrhau bod pobl eraill yn gwneud hynny
- Bod yn wyliadwrus o risg a pheryglon posibl
- Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen
- Canolbwyntio sylw personol ar fanylion penodol sydd yn hanfodol i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
- Gwneud gwybodaeth briodol ar gael yn brydlon i'r rheiny sydd ei hangen ac sydd â hawl iddi
- Datblygu systemau i gasglu a rheoli gwybodaeth yn effeithiol, yn effeithlon ac yn foesegol
- Hyrwyddo gwaith i gyflawni nodau cyffredin
Sgiliau
Asesu
Cyfathrebu
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Rheoli gwybodaeth
Cynnwys eraill
Monitro
- Ysgogi
- Cael adborth
- Cynllunio
- Cyflwyno gwybodaeth
- Rhoi adborth
Cwestiynu
Adrodd
- Gosod amcanion