Rheoli prosiectau
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli prosiectau rydych chi’n gyfrifol amdanynt.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
trafod a chytuno ar brif amcanion a chwmpas y prosiect arfaethedig a’r adnoddau sydd ar gael gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill
nodi sut mae’r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyffredinol y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill a wneir
mewn ymgynghori ag aelodau tîm y prosiect, datblygu cynllun realistig a manwl ar gyfer rhoi’r prosiect ar waith a chyflawni ei amcanion
trafod a chytuno ar gynllun y prosiect gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan newid pethau lle bo angen
rhoi gwybod i aelodau tîm y prosiect ynghylch cynllun y prosiect a’u rolau a’u cyfrifoldebau a rhoi cefnogaeth, anogaeth a gwybodaeth reolaidd
rhoi prosesau ac adnoddau ar waith i reoli risgiau posibl sy’n deillio o’r prosiect a delio â sefyllfaoedd annisgwyl
rhoi cynllun y prosiect ar waith, dewis a defnyddio cyfryngau a thechnegau effeithiol i reoli prosiectau er mwyn monitro, rheoli ac adolygu cynnydd
rhoi gwybod am gynnydd yn rheolaidd i noddwyr y prosiect, rhanddeiliaid allweddol eraill ac aelodau tîm y prosiect
nodi, yng ngoleuni cynnydd, unrhyw broblemau a gododd neu newidiadau a fu i amcanion y sefydliad, unrhyw newidiadau angenrheidiol i gynllun y prosiect, a chael cytundeb noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill lle bo angen hynny
cyflawni amcanion y prosiect mewn pryd ac o fewn y gyllideb
cadarnhau gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol eraill fod y prosiect wedi’i gwblhau’n foddhaol
gwerthuso llwyddiant y prosiect, gan nodi pa wersi y gellir eu dysgu a’u rhannu
dathlu bod y prosiect wedi’i gwblhau, gan gydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiect
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau ar unwaith ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
Nodi’r amrywiaeth o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn cysylltu â’i gilydd
Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
Gweithio o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
Cadw llygad am risgiau a pheryglon posibl
Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith er mwyn defnyddio amser ac adnoddau yn effeithiol
Derbyn cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
Cytuno’n glir ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir gan bobl eraill a’u dal yn atebol
Monitro ansawdd y gwaith a’r cynnydd o’i gymharu â’r cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen
Bod â balchder wrth wneud gwaith o safon uchel
Creu ymdeimlad bod pawb yn gweithio at yr un pwrpas
Defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol
Chwilio am ffynonellau newydd o gefnogaeth yn ôl y galw
Nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
Gwneud penderfyniadau amserol sy’n realistig yn y sefyllfa dan sylw
Sgiliau
Ymddwyn yn bendant
Cyfathrebu
Ymgynghori
Cynllunio wrth gefn
Penderfynu
Dirprwyo
Gwerthuso
Rheoli gwybodaeth
Cynnwys eraill
Arwain
Rheoli gwrthdaro
Monitro
Ysgogi
Negodi
Cynllunio
Cyflwyno gwybodaeth
Blaenoriaethu
Datrys problemau
Rhoi adborth
Adrodd
Adolygu
Rheoli risg
Gosod amcanion
Rheoli straen
Meddwl yn systematig
Rheoli amser