Rheoli rhaglenni
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli rhaglen benodol o wahanol brosiectau sydd ar wahân ond sy’n dal yn dibynnu ar ei gilydd. Gyda’i gilydd, bydd y prosiectau hyn yn cyfrannu at gyflawni nodau strategol mwy arwyddocaol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
pennu amcanion cyffredinol y rhaglen a sut bydd y rhain yn cysylltu â nodau strategol
cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig ynghyd â rhanddeiliaid allweddol eraill yn y gwaith o reoli rhaglenni
pennu pa gyfraniad y mae gwahanol elfennau’r rhaglen yn ei wneud i gyflawni amcanion cyffredinol y rhaglen
sicrhau bod y rheini sy’n gysylltiedig yn deall sut mae gwahanol elfennau’r rhaglen yn cysylltu â’i gilydd a sut mae’r rhaglen yn cysylltu â’r nodau strategol
sicrhau bod y rheini sy’n gysylltiedig yn glir ynghylch eu rolau a’u cyfrifoldebau penodol ac ynghylch rolau a chyfrifoldebau pobl eraill y maent yn rhyngweithio gyda hwy
defnyddio adnoddau yn unol â gofynion a blaenoriaethau gwahanol elfennau’r rhaglen
gwneud yn siŵr bod unrhyw hyfforddiant, cefnogaeth neu oruchwyliaeth sydd eu hangen ar bobl ar gael iddynt er mwyn iddynt gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau
annog y rheini sy’n gysylltiedig i nodi a manteisio ar y synergeddau rhwng gwahanol elfennau’r rhaglen
dal unigolion yn atebol am gyflawni eu cyfrifoldebau eu hunain ac am gyflawni amcanion cyffredinol y rhaglen
monitro cynnydd y gwahanol elfennau, a chynnydd y rhaglen yn ei chyfanrwydd
cynnwys y rheini sy’n gysylltiedig yn y gwaith o gynnig a chymryd camau gweithredu effeithiol yng ngoleuni amrywiadau arwyddocaol, newidiadau yn yr amgylchedd gweithredu neu newidiadau yn strategaeth y sefydliad
sicrhau bod y rhaglen yn cyflawni ei hamcanion yn effeithlon ac yn effeithiol, mewn pryd ac o fewn y gyllideb
cyfleu cynnydd a chanlyniadau’r rhaglen a’i gwahanol elfennau i’r rheini sy’n gysylltiedig yn ogystal ag i randdeiliaid allweddol eraill mewn ffyrdd sy’n gwella ymrwymiad a chefnogaeth
cynnig argymhellion sy’n clustnodi arferion da a meysydd i’w gwella
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhoi sylw i ofynion niferus heb golli ffocws nac egni
Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau ar unwaith ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
Chwilio am gyfleoedd i wella perfformiad
Dod o hyd i ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
Hysbysu pobl am gynlluniau a datblygiadau mewn modd amserol
Cytuno’n glir ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir gan bobl eraill a’u dal yn atebol
Monitro ansawdd y gwaith a’r cynnydd o’i gymharu â’r cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen
Creu ymdeimlad bod pawb yn gweithio at yr un pwrpas
Hyrwyddo gwaith i gyflawni nodau cyffredin
Nodi’r amrywiaeth o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn cysylltu â’i gilydd
Gweithio at weledigaeth a ddiffiniwyd yn glir ar gyfer y dyfodol
Sgiliau
Ymddwyn yn bendant
Dadansoddi
Cydbwyso anghenion a diddordebau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd
Cyfathrebu
Penderfynu
Dirprwyo
Dylanwadu
Rheoli gwybodaeth
Cynnwys eraill
Arwain
Rheoli gwrthdaro
Monitro
Ysgogi
Negodi
Cynllunio
Cyflwyno gwybodaeth
Blaenoriaethu
Datrys problemau
Rhoi adborth
Cwestiynu
Adrodd
Rheoli risg
Gosod amcanion
Rheoli straen
Adeiladu tîm
Meddwl yn strategol
Meddwl yn systematig
Rheoli amser