Caffael cynnyrch a/neu wasanaethau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chaffael cynnyrch a/neu wasanaethau gan gyflenwyr allanol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr nad ydynt yn arbenigwyr caffael ond y mae angen iddynt gaffael cynnyrch a/neu wasanaethau fel rhan o'u rôl.
Mae'r safon hon yn cysylltu'n agos â'r holl safonau eraill ym maes allweddol EC Caffael cynnyrch a gwasanaethau a hefyd CFAM&LEB2 Cael adnoddau ffisegol a CFAM&LEB5 Cynyddu'r defnydd effeithiol o dechnoleg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a gofynion cyfreithiol a moesegol wrth gaffael cynnyrch a/neu wasanaethau.
- Ceisio cymorth gan gydweithwyr neu arbenigwyr caffael neu gyfreithiol ar unrhyw agwedd ar gaffael cynnyrch a/neu wasanaethau yr ydych yn ansicr yn eu cylch.
- Ymgynghori ag eraill sydd yn gysylltiedig er mwyn nodi eich gofynion ar gyfer cynnyrch a/neu wasanaethau, gan lunio manylebau manwl, lle bo angen.
- Canfod cynnyrch a/neu wasanaethau sy'n bodloni eich gofynion, lle y bo'n bosibl yn nodi ystod amrywiol o gynnyrch, gwasanaethau a/neu gyflenwyr er mwyn i chi allu cymharu dewisiadau amgen.
- Dewis cynnyrch, gwasanaethau a chyflenwyr sydd yn cynnig y cymysgedd gorau o ansawdd, cost, amseroldeb a dibynadwyedd.
- Trafod gyda chyflenwyr dethol er mwyn dod i gytundeb sydd yn cynnig gwerth da am arian ac sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.
- Cytuno ar gontract sydd yn nodi'n glir
7.1 ansawdd a niferoedd cynnyrch a/neu wasanaethau i gael eu cyflenwi
7.2 graddfeydd amser a chostau
7.3 telerau ac amodau
7.4 y canlyniadau os yw'r naill ochr neu'r llall yn methu cydymffurfio â'r contract. - Monitro perfformiad cyflenwyr o ran ansawdd, amseroldeb a dibynadwyedd cynnyrch a/neu wasanaethau, a chymryd camau prydlon i ddatrys unrhyw broblemau, yn unol â thelerau'r contract.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
- Pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a'r gofynion cyfreithiol a moesegol wrth gaffael cynnyrch a/neu wasanaethau.
- Pwysigrwydd ymgynghori ag eraill sydd yn gysylltiedig er mwyn nodi eich gofynion ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau.
- Sut i lunio manylebau manwl ar gyfer caffael cynnyrch a/neu wasanaethau.
- Sut i ganfod cynnyrch a/neu wasanaethau sy'n bodloni eich gofynion
- Sut i gymharu cynnyrch a/neu wasanaethau a chyflenwyr amgen.
- Sut i ddewis cynnyrch a/neu wasanaethau a chyflenwyr sydd yn cynnig y cymysgedd gorau o ansawdd, costau, amseroldeb a dibynadwyedd.
- Sut i drafod gyda chyflenwyr dethol er mwyn cyrraedd cytundeb sydd yn rhoi gwerth da am arian ac sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.
- Pwysigrwydd cytuno ar gontract sydd yn nodi'n glir ansawdd a niferoedd cynnyrch a/neu wasanaethau, graddfeydd amser a chostau, telerau ac amodau, a chanlyniadau os yw'r naill ochr neu'r llall yn methu cydymffurfio â'r contract.
- Sut i fonitro perfformiad cyflenwyr o ran ansawdd, amseroldeb a dibynadwyedd cynnyrch a/neu wasanaethau.
- Pwysigrwydd gweithredu'n brydlon i ddatrys unrhyw broblemau gyda pherfformiad cyflenwyr, yn unol â thelerau'r contract, a sut i benderfynu pa gamau y dylid eu cymryd a phryd.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
11. Gofynion y diwydiant/sector ar gyfer caffael cynnyrch a/neu wasanaethau.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i gyd-destun
12. Gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a gofynion cyfreithiol a moesegol ar gyfer caffael cynnyrch a/neu wasanaethau.
13. Ffynonellau cyngor, arweiniad a chymorth gan gydweithwyr neu arbenigwyr caffael neu gyfreithiol ar unrhyw agwedd ar gaffael cynnyrch a/neu wasanaethau yr ydych yn ansicr yn eu cylch.
14. Terfynau eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd eich hun.
15. Â phwy i ymgynghori er mwyn nodi eich gofynion ar gyfer cynnyrch a/neu wasanaethau, gan lunio manylebau manwl lle bo angen.
16. Ffynonellau cynnyrch a/neu wasanaethau a/neu gyflenwyr sy'n bodloni eich gofynion.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Ceisio cyfleoedd i wella perfformiad
- Gwrando'n weithredol, gofyn cwestiynau, egluro pwyntiau ac ailddatgan neu aralleirio datganiadau i sicrhau dealltwriaeth ar y ddwy ochr
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
- Nodi ac achub ar gyfleoedd i gael adnoddau
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol a sicrhau bod pobl eraill yn gwneud yr un peth
- Gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
- Dangos integredd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
- Mynd i'r afael â materion perfformiad yn brydlon a'u datrys yn uniongyrchol gyda'r bobl gysylltiedig
- Cytuno'n glir gyda'r hyn a ddisgwylir gan eraill a'u dwyn i gyfrif
- Gweithio tuag at atebion sydd o fantais i'r ddwy ochr
- Gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael
- Ceisio ffynonellau cymorth newydd lle bo angen
- Gwneud penderfyniadau amserol sydd yn realistig ar gyfer y sefyllfa
Sgiliau
- Asesu
- Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Gwneud penderfyniadau
- Gwerthuso
- Dylanwadu
- Monitro
- Trafod
- Datrys problemau
- Meddwl yn strategol