Defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol

URN: CFAM&LEC5
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth ac Arweinyddiaeth,Rheoli Amaethyddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gwneud penderfyniadau cadarn yn seiliedig ar ddadansoddiad dilys o'r wybodaeth orau sydd ar gael.

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl reolwyr a'r arweinwyr.

Mae'r safon hon yn ategu llawer o'r safonau eraill.  Mae'n agos gysylltiedig â'r holl safonau eraill ym maes allweddol EC Rheoli gwybodaeth a deallusrwydd a DD6 Arwain cyfarfodydd i gyflawn amcanion penodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. Nodi'r rheiny a allai gael eu heffeithio gan y penderfyniad a'u buddiannau.
  2. Ymgysylltu, lle y bo'n briodol, y rheiny sydd yn gallu cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau neu bydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad.
  3. Sefydlu amcanion y penderfyniad i gael ei wneud - egluro'r hyn yr ydych yn ceisio ei gyflawni trwy wneud y penderfyniad a sicrhau bod pawb sydd yn gysylltiedig yn cytuno.
  4. Nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad a ffynonellau'r wybodaeth hon.
  5. Cael digon o wybodaeth berthnasol i'ch galluogi i wneud y penderfyniad a dilysu ei chywirdeb a'i dibynadwyedd.
  6. Cymryd camau amserol i ddatrys gwybodaeth annigonol, annibynadwy, gwrthgyferbyniol neu amwys.
  7. Dadansoddi'r wybodaeth i nodi ffeithiau, patrymau a thueddiadau a allai effeithio ar eich penderfyniad.
  8. Nodi a gwerthuso'r ystod o opsiynau sydd yn agored i chi.
  9. Dod i gasgliadau wedi eu cefnogi gan ddadleuon rhesymol a gwybodaeth ddibynadwy, gan nodi'n glir unrhyw honiadau yr ydych wedi eu gwneud a'r risg a allai fod yn gysylltiedig.
  10. Gwneud penderfyniadau

    1. yn unol â'ch amcanion
    2. o fewn cwmpas eich awdurdod
    3. sydd yn cyd-fynd â gwerthoedd, polisïau a chanllawiau
    4. mewn pryd ar gyfer cymryd camau angenrheidiol.
  11. Cael cymorth a chyngor

    1. os nad oes gennych ddigon o wybodaeth
    2. os yw'r penderfyniad y tu hwnt i'ch maes cyfrifoldeb neu gwmpas eich awdurdod
    3. os yw eich penderfyniadau yn debygol o wrthdaro gyda gwerthoedd, polisïau a chanllawiau.
  12. Cyfathrebu eich penderfyniad a'ch rhesymeg yn glir i'r rheiny sydd wedi eu heffeithio.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a deallusrwydd cyffredinol

  1. Pwysigrwydd ymgysylltu'r rheiny sydd yn gallu cyfrannu neu a allai fod wedi eu heffeithio yn y broses o wneud penderfyniad, a sut i wneud hynny.
  2. Pwysigrwydd gosod amcanion ar gyfer y penderfyniad, a sut i egluro'r hyn y mae'n rhaid i'r penderfyniad ei gyflawni a'r hyn sydd y tu hwnt i gwmpas y penderfyniad.
  3. Sut i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y penderfyniad.
  4. Sut i farnu a oes gennych wybodaeth ddigonol, gywir, ddibynadwy a pherthnasol i'ch galluogi i wneud y penderfyniad.
  5. Sut i nodi a yw'r wybodaeth yn annigonol, yn annibynadwy, yn gwrthddweud neu'n amwys, a sut i ddatrys hyn mewn ffordd amserol.
  6. Sut i ddadansoddi gwybodaeth er mwyn nodi ffeithiau, patrymau a thueddiadau.
  7. Yr ystod o opsiynau sydd yn agored i chi a sut i werthuso'r opsiynau.
  8. Sut i gyfiawnhau eich casgliadau.
  9. Pwysigrwydd sicrhau bod eich penderfyniadau yn unol â gwerthoedd, polisïau a chanllawiau eich sefydliad.
  10. Pwysigrwydd dangos unrhyw honiadau yr ydych wedi eu gwneud a'r risg a allai fod yn gysylltiedig, a sut i wneud hynny.
  11. Pwysigrwydd gwneud penderfyniadau mewn pryd ar gyfer cymryd camau angenrheidiol.
  12. Sut i gyfathrebu eich penderfyniad yn glir ac yn gryno.

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
13. Gofynion y diwydiant/sector ar gyfer defnyddio gwybodaeth i wneud penderfyniadau.

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i gyd-destun
14. Pobl fydd yn gallu cyfrannu at y broses o wneud penderfyniad neu fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad.
15. Ffeithiau, patrymau a thueddiadau a allai effeithio ar eich penderfyniad.
16. Polisïau, gwerthoedd a chanllawiau eich sefydliad.
17. Cwmpas eich awdurdod ar gyfer gwneud penderfyniadau a pryd mae angen i chi gyfeirio at rywun arall.
18. At bwy i fynd am gyngor os nad oes gennych ddigon o wybodaeth, os yw'r penderfyniad y tu hwnt i'ch maes cyfrifoldeb chi, neu os yw eich penderfyniadau yn gwrthdaro â pholisïau, gwerthoedd a chanllawiau.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
  2. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol a sicrhau bod pobl eraill yn gwneud yr un peth
  3. Gweithredu o fewn terfynau eich awdurdod
  4. Dangos uniondeb, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  5. Gwirio cywirdeb a dilysrwydd gwybodaeth
  6. Ceisio gwybodaeth gadarn mewn sefyllfa amwys
  7. Ceisio deall anghenion ac ysgogiadau pobl
  8. Nodi'r ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn berthnasol i'w gilydd
  9. Creu darlun credadwy o ddata cyfyngedig
  10. Nodi'r honiadau a wnaed a'r risg sydd yn gysylltiedig â deall sefyllfa
  11. Rhoi amrywiaeth o opsiynau ar brawf cyn gwneud penderfyniad
  12. Gwneud penderfyniadau amserol sydd yn realistig ar gyfer y sefyllfa
  13. Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd ansicr neu'n seiliedig ar wybodaeth anghyflawn lle bo angen
  14. Gwneud a gweithredu penderfyniadau anodd a/neu amhoblogaidd, os oes angen

Sgiliau

  • Gweithredu'n gadarn 
  • Dadansoddi 
  • Asesu 

  • Cyfathrebu 

  • Gwneud penderfyniadau 
  • Gwerthuso 
  • Rheoli gwybodaeth 
  • Cynnwys eraill 
  • Blaenoriaethu 
  • Datrys problemau 
  • Gosod amcanion
  • Rheoli amser

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CFA Business skills @ work

URN gwreiddiol

CFAM&LEC5

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

Rheolaeth ac arweinyddiaeth; gwneud penderfyniadau