Cynyddu defnydd effeithiol o dechnoleg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y rheiny sydd yn gweithio yn eich sefydliad neu faes cyfrifoldeb yn defnyddio technoleg – er enghraifft, technoleg gwybodaeth neu gyfathrebu, offer, peiriannau – yn briodol ac yn effeithiol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sydd â'r awdurdod i allu dylanwadu ar y defnydd o dechnoleg yn eu sefydliad neu faes cyfrifoldeb.
Mae'r safon hon yn cysylltu â'r holl safonau eraill ym meysydd allweddol EB Rheoli adnoddau ffisegol a thechnegol ac EC Rheoli gwybodaeth a deallusrwydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Ymgysylltu cydweithwyr yn briodol wrth nodi a datblygu ymagweddau effeithiol tuag at ddefnyddio technoleg.
- Ceisio a gwneud defnydd o arbenigedd i gynorthwyo datblygu, gweithredu ac adolygu eich strategaeth ar gyfer defnyddio technoleg a monitro perfformiad mewn perthynas â'r defnydd o dechnoleg.
- Nodi'r ymagweddau presennol tuag at ddefnyddio technoleg yn eich sefydliad neu faes cyfrifoldeb ac unrhyw gynlluniau i waredu neu gyflwyno technoleg neu i ddefnyddio technoleg bresennol at ddibenion gwahanol.
- Meincnodi er mwyn nodi arfer da mewn perthynas â'r defnydd o dechnoleg a pha wersi y gellir eu dysgu a'u cymhwyso i'ch sefydliad.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer cyflwyno technoleg newydd, addasu technoleg bresennol neu ddefnyddio technoleg bresennol at ddibenion gwahanol.
- Sicrhau bod gan eich sefydliad neu eich maes cyfrifoldeb strategaeth ar gyfer defnyddio technoleg a'i fod yn cyd-fynd a'r weledigaeth gyffredinol, gwerthoedd, amcanion a chynlluniau'r sefydliad.
- Cyfathrebu'r strategaeth ar gyfer defnyddio technoleg i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
- Sicrhau bod unrhyw dechnoleg newydd yn cyd-fynd â thechnoleg bresennol.
- Monitro cyflwyno unrhyw dechnoleg neu addasu technoleg bresennol yn ofalus a chymryd camau prydlon ac effeithiol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
- Sicrhau bod adnoddau a chymorth yn cael eu darparu i alluogi cydweithwyr i wneud defnydd effeithiol o'r dechnoleg sydd ar gael.
- Sicrhau bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle os bydd y dechnoleg yn pallu.
- Cynnal systemau i fonitro gweithredu'r strategaeth ac adrodd ar berfformiad technoleg eich sefydliad neu faes cyfrifoldeb.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol
- Mathau gwahanol o dechnoleg.
- Y prif ffactorau i'w hystyried wrth asesu'r defnydd a/neu gyflwyniad technoleg newydd, yn cynnwys y costau a'r buddion llawn.
- Pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a phartïon perthnasol eraill mewn perthynas â thechnoleg.
- Yr hyn y dylai strategaeth effeithiol ar gyfer defnyddio technoleg ei gynnwys.
- Pwysigrwydd cynllunio wrth gefn mewn perthynas â'r defnydd parhaus o dechnoleg a/neu ei gyflwyno a sut i wneud hyn yn effeithiol.
- Technegau a dulliau gwahanol ar gyfer cyfathrebu ymagwedd y sefydliad tuag at ddefnyddio technoleg a'i strategaeth.
- Sut i feincnodi defnydd eich sefydliad o strategaeth yn erbyn sefydliadau eraill.
- Sut i wirio addasrwydd technoleg newydd i dechnoleg bresennol.
- Sut i sefydlu systemau ar gyfer adolygu gweithredu'r strategaeth ar gyfer defnyddio technoleg a nodi meysydd ar gyfer gwella.
- Y mathau o adnoddau a chymorth sydd eu hangen i alluogi cydweithwyr i wneud y defnydd gorau o'r dechnoleg sydd ar gael.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
12. Tueddiadau a datblygiadau yn eich diwydiant/sector mewn perthynas â thechnoleg.
13. Y mathau o dechnoleg sydd ar gael ar gyfer eich diwydiant/sector a'u prif nodweddion, buddion ac anfanteision.
14. Gofynion cyfreithiol, polisïau'r llywodraeth a chanllawiau'r diwydiant neu sector yn ymwneud â defnyddio technoleg.
15. Cymhellion ariannol neu gymhellion eraill neu gymorth a allai fod ar gael ar gyfer buddsoddi mewn technoleg yn eich diwydiant/sector.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun
16. Yr agweddau tuag at a'r defnydd presennol o dechnoleg yn eich
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Ceisio cyfleoedd i wella perfformiad
- Herio'r status quo yn adeiladol a chwilio am ddewisiadau amgen gwell
- Rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
- Adlewyrchu ar eich profiadau a defnyddio'r gwersi i arwain eich penderfyniadau a'ch gweithredoedd
- Cydbwyso risg yn erbyn y buddion a allai ddeillio o gymryd risg
- Cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
- Creu teimlad o ddiben cyffredin
- Rhagweld sefyllfaoedd tebygol yn y dyfodol yn seiliedig ar ddadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau
- Nodi'r rhagfynegiadau a wnaed a'r risg sydd yn gysylltiedig â deall sefyllfa
- Gwneud penderfyniadau amserol sydd yn realistig ar gyfer y sefyllfa
Sgiliau
Meincnodi
Cyfathrebu
- Ymgynghori
- Cynllunio wrth gefn
- Rheoli gwybodaeth
- Arloesi
- Cynnwys eraill
- Arwain trwy esiampl
Arweinyddiaeth
Monitro
Rhwydweithio
Cynllunio
- Datrys problemau
- Cwestiynu
- Adrodd
Adolygu
Meddwl yn strategol
- Meddwl yn systematig