Rheoli’r defnydd o adnoddau ariannol

URN: CFAM&LEA3W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli adnoddau ariannol er mwyn cyflawni amcanion eich sefydliad neu eich maes cyfrifoldeb.


Mae’r safon hon ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sy’n rheoli adnoddau ariannol eu sefydliad neu brif faes cyfrifoldeb, prosiect neu raglen waith.

Mae’r safon hon yn gysylltiedig â CFAM&LEA1 Nodi a chyfiawnhau gofynion ar gyfer adnoddau ariannol a CFAM&LEA2 Cael gafael ar adnoddau ariannol.

Mae hefyd yn cysylltu â safonau ar reoli strategol a gweithredol, megis, CFAM&LFA1 Gweithredu a gwerthuso cynlluniau busnes strategol, CFAM&LFA2 Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith, CFAM&LFA4 Rheoli rhaglenni a CFAM&LFA5 Rheoli prosiectau.

Mae CFAM&LEA4 Rheoli cyllidebau ar gyfer y rheini sy’n rheoli adnoddau ariannol ar gyfer prosiectau neu feysydd gwaith mwy cyfyngedig.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau’ch awdurdod, gyda’r rheini rydych yn adrodd iddynt

  2. cynnwys rhanddeiliaid allweddol wrth reoli adnoddau ariannol er mwyn cyflawni amcanion eich sefydliad neu eich maes cyfrifoldeb

  3. casglu a gwerthuso’r wybodaeth ariannol sydd ar gael a’r amcanion a’r cynlluniau cysylltiedig a nodi blaenoriaethau, problemau a risgiau posibl.

  4. nodi a defnyddio cyfleoedd i ddirprwyo cyfrifoldeb i gydweithwyr dros gyllidebau ar gyfer gweithgareddau sydd wedi’u diffinio’n glir, gan roi’r cymorth a’r adnoddau  gofynnol iddynt drwy'r amser

  5. trafod ac, os yw’n briodol, negodi cyllidebau a ddirprwywyd â chydweithwyr a chytuno ar gyllidebau dros dro

  6. datblygu cyllideb gyfansawdd realistig ar gyfer eich sefydliad neu eich maes i’w gymeradwyo gan y rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch cyllidebau, gan nodi’n glir y tybiaethau a wnaed, y risgiau cysylltiedig a sut caiff y rhain eu rheoli

  7. trafod ac, os yw’n briodol, negodi’r gyllideb gyfansawdd arfaethedig gyda’r rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a chyflwyno'r gyllideb derfynol i gydweithwyr yn eich maes

  8. creu systemau i fonitro a gwerthuso perfformiad yn erbyn cyllidebau a ddirprwywyd a’r gyllideb gyfansawdd a rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith

  9. canfod yr hyn sy’n achosi unrhyw amrywiadau sylweddol rhwng yr hyn y cyllidebwyd ar ei gyfer a’r hyn a ddigwyddodd go iawn, a thrafod a sicrhau bod camau cywiro yn cael eu gweithredu’n syth, gyda chytundeb y rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau, os oes angen

  10. cynnig newidiadau i’r gyllideb gyfansawdd, os oes angen, wrth ymateb i amrywiadau a/neu ddatblygiadau arwyddocaol neu annisgwyl a thrafod a chytuno ar y newidiadau gyda’r rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau

  11. darparu gwybodaeth reolaidd am berfformiad ariannol eich maes i’r rheini sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau 

  12. rhoi gwybod i’r bobl berthnasol ar unwaith os ydych wedi dod ar draws tystiolaeth o unrhyw weithgareddau a allai fod yn dwyllodrus

  13. adolygu perfformiad ariannol eich sefydliad neu faes a nodi gwelliannau i’w gweithredu yn y dyfodol​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol


1. diben systemau cyllidebol
2. pwysigrwydd cytuno ynghylch eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau’ch awdurdod, gyda’r rheini rydych yn adrodd iddynt
3. lle mae cael y wybodaeth ariannol a sut mae gwerthuso’r wybodaeth sydd ar gael er mwyn gallu paratoi cyllideb gyfansawdd realistig ar gyfer eich maes.
4. pwysigrwydd ystyried amcanion a chynlluniau cysylltiedig eich maes wrth ddatblygu’r gyllideb gyfansawdd a’i gweithredu
5. sut mae nodi cyfleoedd a dirprwyo cyfrifoldeb dros gyllidebau
6. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr ynghylch nodi blaenoriaethau, problemau a risgiau posibl, a mynd ati’n gyffredinol i baratoi’r gyllideb ar gyfer eich maes
7. sut mae trafod, negodi a chadarnhau cyllidebau gyda chydweithwyr yn eich maes a chyda phobl sy’n rheoli’r cyllid, a’r ffactorau allweddol y dylid rhoi sylw iddynt
8. sut mae creu systemau i fonitro a gwerthuso perfformiad yn erbyn cyllidebau
9. pwysigrwydd cael cynlluniau wrth gefn a’r math o sefyllfaoedd annisgwyl a allai godi
10. y prif elfennau sy’n achosi amrywiadau a sut mae eu hadnabod
11. pa wahanol fathau o gamau cywiro y gellid eu cymryd i fynd i’r afael â’r amrywiadau a welir 
12. pwysigrwydd cytuno ar newidiadau i’r gyllideb a chyfleu’r newidiadau
13. pwysigrwydd darparu gwybodaeth reolaidd am berfformiad ariannol eich maes i’r bobl berthnasol a’r hyn y gallant fod yn dymuno’i wybod
14. y mathau o weithgareddau twyllodrus a sut mae eu hadnabod
15. sut mae adolygu perfformiad ariannol eich maes yn erbyn yr amcanion a nodir

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i ddiwydiant/sector penodol *

16. y ffactorau, y tueddiadau a’r datblygiadau sy’n debygol o effeithio ar reoli adnoddau ariannol yn eich diwydiant/sector
17. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol y diwydiant/sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i gyd-destun penodol *

18. cwmpas a natur eich maes cyfrifoldeb gan gynnwys y weledigaeth, yr amcanion a'r cynlluniau gweithredol
19. eich cyfrifoldebau ariannol, gan gynnwys terfynau’ch awdurdod
20. y rheini sydd â chyfrifoldeb cyllidebol yn eich sefydliad
21. gwybodaeth ariannol sydd ar gael yn eich sefydliad
22. gweithgareddau y mae cyllidebau wedi’u dynodi ar eu cyfer
23. cyfnodau cyllidebu a ddefnyddir yn eich sefydliad
24. canllawiau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer paratoi a chymeradwyo cyllidebau ac ar gyfer monitro perfformiad a pharatoi adroddiadau yn ei gylch o’i gymharu â’r cyllidebau a diwygio cyllidebau
25. y gyllideb gyfansawdd y cytunwyd arni ar gyfer eich maes, gan gynnwys cyllidebau a ddirprwywyd
26. systemau wedi’u creu ar gyfer rheoli a gwerthuso perfformiad o’i gymharu â’r cyllidebau 
27. cynlluniau wrth gefn ar waith 
28. beth i’w wneud ac â phwy i gysylltu os byddwch chi'n amau bod rhywun wedi twyllo
29. ar bwy mae angen gwybodaeth am berfformiad ariannol eich maes, pa wybodaeth y mae ei hangen, pryd ac ar ba fformat


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau ar unwaith ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny

  2. Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth

  3. Hysbysu pobl am gynlluniau a datblygiadau mewn modd amserol

  4. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau’r sefydliad a chodau proffesiynol, a sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â hwy hefyd

  5. Gweithio o fewn terfynau eich awdurdod

  6. Nodi a mynegi pryderon moesegol

  7. Mesur risgiau’n gywir a chynnig darpariaeth fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn amharu ar gyflawni’r amcanion

  8. Cytuno’n glir ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir gan bobl eraill a’u dal yn atebol

  9. Monitro ansawdd y gwaith a’r cynnydd o’i gymharu â’r cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen

  10. Defnyddio ffynonellau gwybodaeth sydd eisoes ar gael yn effeithiol

  11. Sicrhau bod y wybodaeth yn gywir ac yn ddilys

  12. Cyfleu’n glir beth yw gwerth a manteision y camau gweithredu y bwriedir eu cymryd

  13. Gweithio at ganfod atebion sy'n plesio pawb

  14. Nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa

  15. Nodi’r tybiaethau a wnaed a’r risgiau cysylltiedig wrth ddeall sefyllfa

  16. Gwneud penderfyniadau anodd a/neu amhoblogaidd, os oes angen​


Sgiliau

  • Dadansoddi

  • Cyfathrebu

  • Cynllunio wrth gefn

  • Dirprwyo

  • Gwerthuso

  • Rhag-weld

  • Rheoli gwybodaeth

  • Cynnwys eraill

  • Monitro

  • Negodi

  • Cynllunio

  • Cyflwyno gwybodaeth

  • Datrys problemau

  • Adrodd

  • Rheoli risg

  • Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill​


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAM&LEA3

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rheolaeth ac arweinyddiaeth; cyllid; amcanion y sefydliad