Datblygu a chynnal perthynas waith gynhyrchiol gyda rhanddeiliaid
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal perthynas waith gynhyrchiol gyda rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys cydweithwyr yn eich sefydliad eich hun, pobl mewn sefydliadau eraill y mae eich sefydliad yn gweithio gyda nhw a rhanddeiliaid allanol eraill.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sydd yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Mae'r safon hon yn agos gysylltiedig â'r holl safonau eraill ym maes allweddol DD Datblygu a chynnal perthynas a hefyd gyda CFAM&LAA3 Datblygu a chynnal eich rhwydweithiau proffesiynol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi rhanddeiliaid allanol a natur eu diddordeb yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad.
Sefydlu perthynas waith gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol perthnasol.
Cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon rhanddeiliaid ac, yn arbennig mewn sefyllfaoedd o reolaeth matrics, gofynion eu rheolwyr.
Ceisio creu awyrgylch o ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr, neu awdurdod a rennir, dros y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw.
Ceisio deall sefyllfaoedd anodd a materion o safbwyntiau rhanddeiliaid a rhoi cymorth, lle bo angen, i symud pethau ymlaen.
Rhoi gwybodaeth briodol i randdeiliaid i'w galluogi i berfformio'n effeithiol.
Ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â gweithgareddau a phenderfyniadau allweddol ac ystyried eu safbwyntiau, yn cynnwys eu blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risg posibl.
Cyflawni cytundebau a wnaed gyda rhanddeiliaid a rhoi gwybod iddynt.
Hysbysu rhanddeiliaid yn brydlon am unrhyw anawsterau neu os bydd yn amhosibl cyflawni cytundebau.
Nodi a datrys gwrthdaro buddiannau ac anghytundeb gyda rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy'n lleihau niwed i waith a gweithgareddau ac i'r rhanddeiliaid cysylltiedig.
Monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda rhanddeiliaid er mwyn nodi meysydd ar gyfer gwella.
Ceisio a rhoi adborth er mwyn gwella perfformiad rhanddeiliaid a'ch perfformiad eich hun.
- Monitro datblygiadau ehangach er mwyn nodi materion a allai fod o ddiddordeb neu a allai boeni rhanddeiliaid yn y dyfodol a nodi rhanddeiliaid newydd.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dealltwriaeth a gwybodaeth gyffredinol
- Buddion datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda rhanddeiliaid.
- Mathau gwahanol o randdeiliaid ac egwyddorion allweddol sy'n ategu'r cysyniad o 'randdeiliad'.
- Sut i nodi rhanddeiliaid eich sefydliad, yn cynnwys gwybodaeth gefndir a natur eu diddordeb yn eich sefydliad.
- Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut i'w cymhwyso er mwyn cyfathrebu'n effeithiol gyda rhanddeiliaid.
- Pam y mae'n bwysig cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, buddiannau a phryderon rhanddeiliaid.
- Pwysigrwydd creu hinsawdd o ymddiriedaeth a pharch ar y ddwy ochr os nad oes gennych unrhyw awdurdod, neu awdurdod a rennir, dros y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw.
- Pwysigrwydd deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwyntiau eraill a rhoi cefnogaeth, lle bo angen, i symud pethau ymlaen.
- Sut i nodi a bodloni anghenion gwybodaeth rhanddeiliaid.
- Pa wybodaeth y mae'n briodol ei darparu i randdeiliaid a'r ffactorau y mae angen eu hystyried.
- Sut i ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas â phenderfyniadau a gweithgareddau allweddol.
- Pwysigrwydd ystyried, a chael eich gweld i fod yn ystyried, safbwyntiau rhanddeiliaid, yn arbennig mewn perthynas â'u blaenoriaethau, eu disgwyliadau a'u hagweddau tuag at risg posibl.
- Pam y mae cyfathrebu gyda rhanddeiliaid ar gyflawni cytundebau neu unrhyw broblemau sy'n effeithio ar neu'n atal cyflawni yn bwysig.
- Sut i nodi gwrthdaro buddiannau gyda rhanddeiliaid a'r technegau y gellir eu defnyddio i'w rheoli neu eu dileu.
- Sut i nodi anghytundeb gyda rhanddeiliaid a'r technegau ar gyfer eu datrys.
- Y niwed y gall gwrthdaro buddiannau ac anghytundeb gyda rhanddeiliaid ei achosi i unigolion a sefydliadau.
- Sut i adnabod ac ystyried materion gwleidyddol wrth ymdrin â rhanddeiliaid.
- Sut i reoli disgwyliadau rhanddeiliaid.
- Sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd perthynas waith gyda rhanddeiliaid.
- Sut i gael a gwneud defnydd effeithiol o adborth gan randdeiliaid.
- Sut i roi adborth i randdeiliaid sydd wedi ei ddylunio i wella eu perfformiad.
- Pwysigrwydd monitro datblygiadau ehangach mewn perthynas â rhanddeiliaid a sut i wneud hynny'n effeithiol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i ddiwydiant/sector
22. Tueddiadau a datblygiadau cyfredol a rhai sydd yn dod i'r amlwg yn eich diwydiant neu sector.
23. Deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i sector.
24. Safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant neu sector.
25. Diwylliant eich diwydiant neu sector.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i gyd-destun
26. Gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion, cynlluniau, strwythur a diwylliant eich sefydliad.
27. Rhanddeiliaid perthnasol, eu gwaith a'u cyfrifoldebau.
28. Rhanddeiliaid a nodwyd, eu cefndir a'u diddordebau yng ngweithgareddau a pherfformiad y sefydliad.
29. Cytundebau gyda rhanddeiliaid.
30. Anghenion gwybodaeth a nodwyd ar gyfer rhanddeiliaid.
31. Mecanweithiau ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid ar benderfyniadau a gweithgareddau allweddol.
32. Prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau eich sefydliad.
33. Mecanweithiau ar gyfer cyfathrebu gyda rhanddeiliaid.
34. Pŵer, dylanwad a gwleidyddiaeth yn eich sefydliad.
35. Safonau ymddygiad a pherfformiad a ddisgwylir yn eich sefydliad.
36. Mecanweithiau sydd wedi eu sefydlu ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd perthynas waith gyda rhanddeiliaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Nodi ffyrdd dewisol pobl o gyfathrebu
- Defnyddio cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu sy'n briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
- Hysbysu pobl ynghylch cynlluniau a datblygiadau mewn ffordd amserol
- Dangos parch tuag at safbwyntiau a gweithredoedd pobl eraill
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol a sicrhau bod pobl eraill yn gwneud hynny
- Ceisio deall anghenion ac ysgogiadau pobl
- Creu teimlad o ddiben cyffredin
- Gweithio tuag at atebion lle mae'r ddwy ochr yn elwa
- Ystyried y wleidyddiaeth fewnol ac allanol sy'n effeithio ar eich maes gwaith eich hun
- Egluro eich disgwyliadau eich hun a disgwyliadau pobl eraill o berthynas
- Cyflwyno ymddygiad sydd yn dangos, ac yn ysbrydoli eraill i ddangos parch, cymorth a chydweithredu
- Anrhydeddu eich ymrwymiadau i bobl eraill
Adnabod pan mae gwrthdaro, cydnabod teimladau a safbwyntiau pob ochr, ac ailgyfeirio egni pobl tuag at nod gyffredin
Ystyried effaith eich gweithredoedd eich hun ar bobl eraill
- Cydnabod anghenion a buddiannau rhanddeiliaid a rheoli'r rhain yn effeithiol
Sgiliau
Cydbwyso anghenion a buddiannau sy'n cystadlu
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dangos empathi
Rheoli gwybodaeth
Cynnwys pobl eraill
Arweinyddiaeth
Rheoli gwrthdaro
Monitro
Rhwydweithio
Cael adborth
Cyflwyno gwybodaeth
Blaenoriaethu
Datrys problemau
Rhoi adborthAdolygu
Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill