Meithrin a chynnal perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr

URN: CFAM&LDD1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Lleoliadol Diwylliannol a Threftadaeth,Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth ac Arweinyddiaeth,Rheoli Lleoliadau Diwylliannol a Threftadaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â meithrin a chynnal perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr yn eich sefydliad eich hun. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn eu sefydliad eu hun ond nid gyda rhanddeiliaid allanol. 

Mae cyswllt agos rhwng y safon hon a’r holl safonau eraill yn y maes allweddol DD Meithrin a chynnal cysylltiadau a hefyd CFAM&LAA3 Datblygu a chynnal eich rhwydweithiau proffesiynol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. Sefydlu perthynas waith gyda chydweithwyr perthnasol yn eich sefydliad. 
2. Cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr. 
3. Ceisio creu amgylchedd o ymddiriedaeth a chyd-barch, yn enwedig lle nad oes gennych chi awdurdod, neu os ydych chi’n rhannu awdurdod, dros y rheini sy’n gweithio gyda chi. 
4. Ceisio deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt eich cydweithwyr a rhoi cymorth, pan fo angen, i symud pethau ymlaen. 
5. Darparu gwybodaeth briodol i gydweithwyr a fydd yn eu galluogi i berfformio’n effeithiol. 
6. Ymgynghori â chydweithwyr ynghylch gweithgareddau a phenderfyniadau allweddol ac ystyried eu barn. 
7. Cyflawni cytundebau a wnaed gyda chydweithwyr, a rhoi gwybod iddynt. 
8. Rhoi gwybod yn syth i gydweithwyr am unrhyw anawsterau neu os bydd yn amhosibl cyflawni cytundebau. 
9. Adnabod a datrys gwrthdaro rhwng buddiannau ac anghytundebau â chydweithwyr mewn ffyrdd sy’n lliniaru’r niwed i weithgareddau gwaith ac i’r unigolion dan sylw. 
10. Monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr er mwyn gweld pa feysydd y gellid eu gwella. 
11. Ceisio a rhoi adborth er mwyn gwella eich perfformiad eich hun a pherfformiad cydweithwyr. 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Dealltwriaeth a gwybodaeth gyffredinol

  1. Manteision meithrin perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr.

  2. Egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut mae eu rhoi ar waith er mwyn cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr.

    3. Pam ei bod yn bwysig cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr.
    4. Pwysigrwydd creu amgylchedd o ymddiriedaeth a chyd-barch lle nad oes gennych chi awdurdod, neu os ydych chi’n rhannu awdurdod, dros y rheini sy’n gweithio gyda chi.
    5. Pam ei bod yn bwysig deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwyntiau pobl eraill ac i roi cymorth, pan fo angen, i symud pethau ymlaen. 
    6. Sut mae adnabod anghenion gwybodaeth cydweithwyr a diwallu'r anghenion hynny.
    7. Pa wybodaeth sy’n briodol ei rhoi i gydweithwyr a’r ffactorau y mae angen eu hystyried. 
    8. Sut mae ymgynghori â chydweithwyr ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol. 
    9. Pam ei bod yn bwysig ystyried, a bod pobl yn gweld eich bod yn ystyried, barn cydweithwyr. 
    10. Pam ei bod yn bwysig cyfathrebu â chydweithwyr ynglŷn â chyflawni cytundebau neu ynglŷn ag unrhyw broblemau sy’n effeithio ar eu cyflawni neu’n atal hynny. 
    11. Sut mae adnabod gwrthdaro rhwng buddiannau gyda chydweithwyr a’r technegau y gellir eu defnyddio i’w rheoli neu i gael gwared arnynt. 
    12. Sut mae adnabod anghytundebau gyda chydweithwyr a’r technegau ar gyfer eu datrys. 
    13. Y niwed y gall gwrthdaro rhwng buddiannau ac anghytundebau gyda chydweithwyr ei achosi i unigolion a sefydliadau. 
    14. Sut mae monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr. 
    15. Sut mae cael adborth gan gydweithwyr a’i ddefnyddio’n effeithiol. 
    16. Sut mae rhoi adborth i gydweithwyr sydd â’r nod o wella eu perfformiad. 

    Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector  

    17. Deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i'r sector. 
    18. Safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich diwydiant neu eich sector. 
    19. Diwylliant eich diwydiant neu eich sector. 

    Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i'r cyd-destun 
     
    20. Gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion, cynlluniau, strwythur a diwylliant eich sefydliad. 
    21. Cydweithwyr perthnasol, eu rolau gwaith a’u cyfrifoldebau. 
    22. Cytundebau â chydweithwyr. 
    23. Anghenion gwybodaeth dynodedig cydweithwyr. 
    24. Mecanweithiau ar gyfer ymgynghori â chydweithwyr am benderfyniadau a gweithgareddau allweddol. 
    25. Prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau eich sefydliad. 
    26. Dulliau o gyfathrebu â chydweithwyr. 
    27. Pŵer, dylanwad a gwleidyddiaeth o fewn eich sefydliad. 
    28. Safonau ymddygiad a pherfformiad y mae eich sefydliad yn eu disgwyl. 
    29. Y mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr. 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

  1. Canfod hoff ffyrdd pobl o gyfathrebu

  2. Defnyddio arddulliau a chyfryngau cyfathrebu sy'n briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol 

    3. Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno ac yn gywir mewn ffyrdd sy’n hybu dealltwriaeth 
    4. Sicrhau bod pobl yn cael y newyddion diweddaraf am gynlluniau a datblygiadau mewn ffordd amserol 
    5. Dangos parch tuag at farn a gweithredoedd pobl eraill 

  3. Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol a sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â’r rhain hefyd 
7. Ceisio deall anghenion pobl a beth sy'n eu hysgogi 
8. Egluro eich disgwyliadau eich hun a disgwyliadau pobl eraill o ran perthynas
9. Modelu ymddygiad sy'n dangos, ac sy’n ysbrydoli pobl eraill i ddangos, parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad 
10. Parchu eich ymrwymiadau i bobl eraill 
11. Bod yn ymwybodol o wrthdaro, cydnabod teimladau a barn pawb sy'n gysylltiedig, ac ailgyfeirio egni pobl tuag at nod cyffredin  12. Ystyried effaith yr hyn rydych chi’n ei wneud ar bobl eraill 

Sgiliau

 Cyfathrebu 

Y gallu i gydymdeimlo 
Rheoli gwybodaeth 
Cynnwys pobl eraill 
Arwain drwy esiampl 
Rheoli gwrthdaro 
Rhwydweithio 
Cael adborth 
Blaenoriaethu 
Rhoi adborth 
Rheoli straen 
Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill 


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CFA Business Skills @ Work

URN gwreiddiol

CFAM&LDD1

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Crefftau, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Galwedigaethau marchnata, Rheolwr Gweithrediadau; , Arweinydd Tîm, Technegydd Anifeiliaid Fferm, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid, Y Celfyddydau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Llyfrgelloedd a Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig, Technegydd Anifeiliaid Trwyddedig, Rheolwyr Gofal Cwsmeriaid ac Ansawdd

Cod SOC

8126;5330

Geiriau Allweddol

Rheolaeth ac arweinyddiaeth; datblygu; cynnal; perthynas waith gynhyrchiol; Marchnata; lleoliad;