Hyfforddi unigolion

URN: CFAM&LDC4
Sectorau Busnes (Suites): Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â helpu unigolion – un ai yn eich tîm chi neu o grŵp gwaith arall – i ddatblygu a chynnal eu perfformiad trwy hyfforddiant.  

Mae hyfforddiant yn golygu helpu unigolion i wella eu perfformiad trwy: 
adnabod eu cryfderau a sut y gallan nhw wneud y defnydd mwyaf effeithiol ohonynt, a 
dadansoddi rhannau o'u gwaith ble nad ydyn nhw'n hollol effeithiol ac adnabod a datblygu sgiliau newydd a ffyrdd gwahanol o ymddwyn, eu profi a'u mireinio.

Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sydd â chyfrifoldeb penodol dros hyfforddi unigolion. 

Mae'r safon hon yn cysylltu'n agos â'r holl safonau eraill ym maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. Helpu unigolion i adnabod a blaenoriaethu eu hanghenion hyfforddi. 

2. Sicrhau bod anghenion hyfforddi unigolion yn cyd-fynd ag amcanion eich sefydliad. 
3. Sefydlu gydag unigolion 

3.1 y meysydd penodol y maen nhw am ddatblygu eu perfformiad ynddynt
3.2 safon eu perfformiad ar hyn o bryd 
3.3 y safon perfformiad yr hoffen nhw ei chyrraedd 
3.4 pam eu bod nhw am ddatblygu eu perfformiad 

3.5 y cymorth y gallan nhw ei ddisgwyl gennych chi, a'r ymroddiad rydych chi'n ei ddisgwyl ganddyn nhw. 
4. Sefydlu gydag unigolion 

4.1 yr hyfforddiant y byddwch chi'n ei ddarparu 
4.2 yr amserlen 
4.3 lleoliad, amlder a hyd y cyfarfodydd 
4.4 pryd y bydd cynnydd yn cael ei adolygu 

4.5 sut y bydd cynnydd yn cael ei fesur a'i asesu. 
5. Trafod gydag unigolion y sgiliau y mae angen iddyn nhw eu datblygu a'r ymddygiad y mae angen iddyn nhw ei newid er mwyn cyrraedd y safon perfformiad dan sylw.
6. Trafod gydag unigolion, rhwystrau a allai lesteirio eu cynnydd a sut i gael gwared ar y rhwystrau hyn. 
7. Cynllunio gydag unigolion sut y gallan nhw ddatblygu sgiliau ac ymddygiadau newydd mewn trefn resymegol gam wrth gam. 
8. Rhoi cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau newydd ac arbrofi gydag ymddygiadau gwahanol yn hyderus. 
9. Annog unigolion i adnabod a manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau a'u hymddygiad newydd yn y gwaith. 
10. Trafod unrhyw beryglon sy'n gysylltiedig â rhoi eu sgiliau a'u hymddygiad newydd ar waith gydag unigolion a'u helpu i gynllunio ffyrdd o leihau'r peryglon hyn i lefelau sy'n dderbyniol iddyn nhw a'r sefydliad. 
11. Annog unigolion i fyfyrio ynghylch eu cynnydd ac egluro eu 
meddyliau a'u teimladau amdano. 
12. Monitro cynnydd yr unigolyn mewn ffordd systematig. 
13. Darparu adborth penodol sydd wedi'i gynllunio i wella sgiliau unigolion, atgyfnerthu ymddygiad effeithiol a chynyddu eu hysgogiad i gyrraedd y safon perfformiad a ddymunir. 
14. Cytuno gydag unigolion pan fyddan nhw wedi cyrraedd y safon perfformiad a fynnir, neu pan na fyddan nhw angen hyfforddiant mwyach. 
15. Annog a grymuso unigolion i gymryd cyfrifoldeb dros ddatblygu a chynnal eu hunanymwybyddiaeth, perfformiad ac effaith. 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol  *

1. Modelau hyfforddi, adnoddau a thechnegau perthnasol, a sut i roi'r rhain ar waith. 

Mae angen i chi wybod a deall: 
2. Y sgiliau sydd eu hangen ar hyfforddwr effeithiol, a sut i ddefnyddio'r sgiliau hyn. 
3. Sut i sefydlu contract hyfforddi gydag unigolyn a beth ddylai'r contract ei gynnwys. 
4. Sut i helpu unigolion i adnabod y sgiliau y mae angen iddyn nhw eu datblygu a'r ymddygiad y mae angen iddyn nhw ei newid. 
5. Sut i helpu unigolion i adnabod a chwalu rhwystrau a allai lesteirio eu cynnydd. 
6. Sut i helpu unigolion i baratoi cynllun i ddatblygu eu sgiliau a/neu addasu eu hymddygiad. 
7. Sut i helpu unigolion i roi cynnig ar sgiliau ac ymddygiad newydd mewn amgylchedd diogel. 
8. Sut i helpu unigolion i adnabod a manteisio ar gyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau a'u hymddygiad newydd yn eu gwaith. 
9. Sut i helpu unigolion i asesu a rheoli'r peryglon sy'n gysylltiedig â sgiliau ac ymddygiad newydd. 
10. Pam ei bod yn bwysig i unigolion fyfyrio ar eu cynnydd a sut i'w helpu i wneud hyn. 
11. Pwysigrwydd monitro cynnydd unigolion o ran datblygu sgiliau ac ymddygiad newydd a sut i wneud hyn.  
12. Sut i roi adborth penodol i unigolion sydd wedi'i gynllunio i wella eu sgiliau, atgyfnerthu ymddygiad effeithiol a chynyddu eu hysgogiad. 
13. Pwysigrwydd cydnabod pan mae unigolion wedi cyrraedd eu hamcanion datblygiad. 
14. Sut i rymuso unigolion i gymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad eu hunain. 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector*  
15. Gofynion y diwydiant/sector o ran helpu unigolion i wella eu perfformiad. 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i gyd-destun 
16. Unigolion yn eich maes gwaith, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwyseddau a'u potensial. 
17. Amcanion eich sefydliad. 
18. Ffynonellau gwybodaeth, adnoddau a chyngor yn eich sefydliad. 
19. Polisïau ac arferion eich sefydliad mewn perthynas â hyfforddiant.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

​1. Chwilio am gyfleoedd i wella perfformiad 

2. Darganfod ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau 
3. Gwrando’n astud, gofyn cwestiynau, esbonio pwyntiau ac ail-adrodd neu aralleirio datganiadau er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb yn deall  
4. Dangos empathi at anghenion, teimladau ac ysgogiad pobl eraill a chymryd diddordeb gwirioneddol yn eu pryderon 
5. Cefnogi pobl eraill i wneud defnydd effeithiol o'u gallu 
6. Rhoi adborth i bobl eraill i'w helpu i gynnal a gwella eu perfformiad 
7. Cydnabod cyflawniadau a llwyddiant pobl eraill 
8. Ysbrydoli pobl eraill gydag awydd i ddysgu 
9. Mynd i'r afael a materion yn ymwneud a pherfformiad yn brydlon a'u datrys yn syth gyda'r bobl dan sylw 
10. Cadarnhau ymrwymiad unigolion i'w rolau a'u cyfrifoldebau 
11. Cyfathrebu gwerth a manteision y ffordd o weithredu arfaethedig yn glir 
12. Modelu ymddygiad sy'n dangos, a'n ysbrydoli pobl eraill i ddangos, parch, cymwynasgarwch a chydweithrediad 


Sgiliau

Hyfforddi

Cyfathrebu
Arddangos
Cydymdeimlo
Grymuso
Gwerthuso
Dylanwadu
Rheoli gwybodaeth
Ysbrydoli
Arwain drwy esiampl
Dysgu
Monitro
Ysgogi
Rhwydweithio
Cael adborth
Cynllunio
Cyflwyno gwybodaeth
Datrys problemau
Rhoi adborth
Gofyn cwestiynau
Myfyrio
Adolygu
Meddwl yn systematig
Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

CFA Business Skills @ Work

URN gwreiddiol

CFAM&LDC4

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Rheolwr Gweithrediadau; , Arweinydd Tîm, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid, Technegydd Anifeiliaid Trwyddedig

Cod SOC

5314

Geiriau Allweddol

Rheolaeth ac Arweinyddiaeth; hyfforddi unigolion