Cynorthwyo dysgu a datblygu unigolion
URN: CFAM&LDC2
Sectorau Busnes (Cyfresi): Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth ac Arweinyddiaeth
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
2012
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi'r cyfle i unigolion yn eich tîm neu yn eich maes cyfrifoldeb fynd i'r afael â'u hanghenion dysgu a datblygu eu potensial i'r eithaf.
Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr ar bob lefel sydd ag unigolion yn adrodd iddyn nhw.
Mae'r safon hon yn cysylltu'n agos â'r safonau eraill ym maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion a gyda CFAM&LAA2 Datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd, sydd i wneud â datblygu eich hun.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. Hyrwyddo manteision dysgu i bobl yn eich maes cyfrifoldeb a chydnabod eu parodrwydd a'u hymdrechion i ddysgu.
2. Rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion ynglŷn â'u perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno sut y gallan nhw wella.
3. Trafod gydag unigolion ynglŷn er mwyn canfod a chael gafael ar wybodaeth am amrywiaeth o weithgareddau dysgu posib er mwyn mynd i'r afael ag anghenion dysgu sydd wedi cael eu hadnabod.
4. Trafod gydag unigolion rolau a chyfrifoldebau ar gyfer y dyfodol sy'n gydnaws â'u cymwyseddau a'u potensial.
5. Trafod a chytuno ar gynlluniau datblygu personol sy'n cynnwys gweithgareddau dysgu i'w gwneud, y nodau dysgu sydd i'w cyrraedd a'r adnoddau a'r amserlenni sydd eu hangen.
6. Helpu unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu, sicrhau bod yr adnoddau sydd eu hangen ar gael ac ymdrechu i gael gwared ar unrhyw rwystrau i ddysgu.
7. Darparu cyfleoedd priodol i unigolion ddefnyddio eu cymwyseddau cynyddol yn y gweithle.
8. Adnabod a defnyddio cyfleoedd dysgu sydd heb eu cynllunio.
9. Trafod eu profiad o weithgareddau dysgu gydag unigolion ac i ba raddau y mae'r amcanion dysgu wedi cael eu cyflawni.
10. Trafod eu cynnydd gydag unigolion a'u parodrwydd i dderbyn rolau a chyfrifoldebau newydd, a chytuno ar y cymorth a'r oruchwyliaeth y bydd eu hangen arnyn nhw.
11. Penodi unigolion i rolau a chyfrifoldebau sy'n gydnaws â'u cymwyseddau a'u potensial.
12. Darparu'r cymorth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar unigolion a sicrhau eu bod yn cael adborth penodol er mwyn iddyn nhw wella eu perfformiad.
13. Trafod a chytuno ar adolygiadau i gynlluniau datblygu personol yn wyneb eu perfformiad, y gweithgareddau dysgu a gyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach.
14. Annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros ddysgu a
Datblygu eu hunain , gan gynnwys ymarfer a phwyso a mesur beth maen nhw wedi'i ddysgu.
15. Chwilio am, a defnyddio, arbenigedd ble bo angen.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
*Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol *
- Manteision dysgu i unigolion a sefydliadau a sut i hyrwyddo'r rhain.
2. Ffyrdd y gallwch chi ddatblygu diwylliant ble mae dysgu'n cael ei werthfawrogi ac mae parodrwydd ac ymdrech i ddysgu yn cael eu cydnabod.3. Sut i adnabod rolau a chyfrifoldebau posib i unigolion yn y dyfodol.4. Sut i ddarparu'r cymorth a'r oruchwyliaeth sydd eu hangen ar unigolion.5. Sut i gynnig adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion sydd wedi'i gynllunio i wella eu perfformiad.6. Sut i flaenoriaethu anghenion dysgu unigolion, gan gynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau sefydliadol ynghyd ag anghenion personol a datblygu gyrfa unigolion.7. Gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau sydd eu hangen (er enghraifft, amser, ffioedd, staff dros dro).8. Sut/ble i ganfod a chael gwybodaeth am weithgareddau dysgu gwahanol.9. Pam ei bod yn bwysig i unigolion gael cynllun datblygu personol ysgrifenedig a beth y dylai ei gynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu dynodedig, gweithgareddau dysgu i'w cwblhau ac amcanion dysgu i'w cyflawni, amserlenni a'r adnoddau sydd eu hangen).10. Sut mae pennu amcanion dysgu CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).11. Pa fath o gymorth y gallai fod ei angen ar unigolion er mwyn gwneud gweithgareddau dysgu, yr adnoddau sydd eu hangen a'r mathau o rwystrau y bydden nhw'n eu hwynebu a sut y gellir mynd i'r afael â nhw.12. Sut i werthuso a yw gweithgareddau dysgu wedi cyflawni'r amcanion dysgu a fwriadwyd.13. Pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd yn wyneb perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a gyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach.14. Sut i ystyried deddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godauymarfer perthnasol a materion amrywiaeth a chynhwysiant perthnasol o ran darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr.15. Sut i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu a'u datblygu eu hunain, gan gynnwys myfyrdod personol ynglŷn â'u perfformiad.16. Ffynonellau o arbenigedd mewn perthynas ag adnabod a darparu addysg i gydweithwyr.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector *
17. Gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd.
18. Materion dysgu a mentrau a threfniadau penodol sy'n berthnasol
19. Diwylliant ac arferion gweithio'r diwydiant/sector.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i gyd-destun *
20. Unigolion yn eich tîm, eu rolau, eu cyfrifoldebau, eu cymwysterau a'u potensial.21. Bylchau a ganfuwyd yng ngwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau unigolion.22. Anghenion dysgu dynodedig unigolion.23. Arddulliau dysgu neu gyfuniad o arddulliau y mae unigolion yn eu ffafrio.24. Cynlluniau datblygu personol unigolion.25. Gweithgareddau ac adnoddau dysgu sydd ar gael yn eich/i'ch sefydliad.26. Cyfleoedd i unigolion ddatblygu eu gyrfaoedd yn eich sefydliad.27. Cyfleoedd ar gyfer defnyddio cymwyseddau cynyddol yn y gweithle.28. Cymorth a goruchwyliaeth sydd ar gael i unigolion o fewn eich sefydliad.29. Ffynonellau o arbenigedd sydd ar gael mewn perthynas ag adnabod a darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i unigolion.30. Polisi ac arferion dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol eich sefydliad.31. Polisïau eich sefydliad mewn perthynas â chydraddoldeb ac amrywiaeth.32. Systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Cymryd y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan amrywiaeth pobl
2. Adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
3. Darganfod ffyrdd ymarferol o oresgyn rhwystrau
4. Dangos empathi at anghenion, teimladau ac ysgogiad pobl eraill a chymryd diddordeb gwirioneddol yn eu pryderon
5. Cefnogi pobl eraill i ddefnyddio eu gallu yn effeithiol
6. Cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau pobl eraill
7. Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau a pherfformiad mewn ffordd systematig
8. Ysbrydoli pobl eraill gydag awydd i ddysgu
9. Dangos uniondeb, tegwch a chysondeb o ran gwneud penderfyniadau
10. Dweud na wrth geisiadau afresymol
11. Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherfformiad yn brydlon a'u datrys yn syth gyda'r bobl dan sylw
12. Dod i gytundeb clir ynghylch yr hyn a ddisgwylir gan bobl eraill a'u dal i gyfrif
Sgiliau
*Wrth berfformio i'r safon hon, rydych chi'n debygol o ddangos y sgiliau canlynol: *
*
*
• Hyfforddi
• Cyfathrebu
• Gwneud penderfyniadau
• Dirprwyo
• Cydymdeimlo
• Grymuso
• Gwerthuso
• Ysbrydoli
• Cynnwys pobl eraill
• Arwain drwy esiampl
• Mentora
• Monitro
• Ysgogi
• Perswadio
• Cynllunio
• Datrys problemau
• Rhoi adborth
• Gofyn cwestiynau
• Adolygu
• Pennu amcanion
• Meddwl yn strategol
• Gwerthfawrogi a chefnogi pobl eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2015
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
CFA Business Skills @ Work
URN gwreiddiol
CFAM&LDC2
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Rheolwr Gweithrediadau; , Arweinydd Tîm, Rheolwr Cyfleuster Anifeiliaid, Gwaith marchnata
Cod SOC
5314
Geiriau Allweddol
Rheolaeth ac Arweinyddiaeth, cefnogaeth, dysgu a datblygu, Marchnata