Sicrhau cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â bod yn glir am ofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol eich sefydliad, darparu polisïau a gweithdrefnau i sicrhau cydymffurfio, monitro'r cydymffurfio a gweithredu i unioni unrhyw reolau cydymffurfio sy'n cael eu torri a'u hatal rhag cael eu hailadrodd.
Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr ac arweinwyr sydd yn gyfrifol yn benodol am sicrhau bod eu sefydliad yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol.
Mae'r safon hon yn ategu ymddygiad moesegol trwy gydol y safonau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Monitro gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a'r effaith y maent yn ei gael ar eich sefydliad, yn cynnwys yr hyn fydd yn digwydd os na fyddwch yn eu bodloni.
- Datblygu polisïau a gweithdrefnau effeithiol i sicrhau bod eich sefydliad yn bodloni'r holl ofynion angenrheidiol.
- Sicrhau bod gan bobl ddealltwriaeth glir o'r polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol a phwysigrwydd eu rhoi ar waith.
- Monitro'r ffordd y mae polisïau a gweithdrefnau'n cael eu rhoi ar waith a rhoi cymorth, lle bo angen.
- Cynorthwyo pobl i adrodd ynghylch unrhyw bryderon am beidio â bodloni'r gofynion.
- Nodi a chywiro unrhyw fethiannau i fodloni'r gofynion.
- Nodi rhesymau dros beidio â bodloni'r gofynion ac addasu'r polisïau a'r gweithdrefnau i leihau'r tebygolrwydd o fethiannau yn y dyfodol.
- Darparu adroddiadau llawn am unrhyw fethiannau o ran bodloni'r gofynion i randdeiliaid perthnasol.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dealltwriaeth a gwybodaeth gyffredinol
- Pwysigrwydd cael ymagwedd foesegol ac yn seiliedig ar werth tuag at lywodraethu a sut i'w rhoi ar waith
- Gofynion cyfreithiol perthnasol sydd yn llywodraethu'r gwaith o redeg sefydliadau
- Ymagweddau cymdeithasol presennol a rhai sydd yn dod i'r amlwg tuag at ymarfer rheolaeth ac arweinyddiaeth a phwysigrwydd bod yn sensitif i'r rhain.
- Ffyrdd y mae sefydliadau eraill yn trin disgwyliadau a phryderon presennol a rhai sydd yn dod i'r amlwg.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector
5. Gofynion cyfreithiol, rheoliadol a moesegol yn eich sector, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
6. Pryderon a disgwyliadau cymdeithasol presennol a rhai sydd yn dod i'r amlwg sy'n berthnasol i'ch sector.
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i gyd-destun
7. Diwylliant a gwerthoedd eich sefydliad a'r effaith y maent yn ei gael ar lywodraethu corfforaethol.
8. Polisïau a gweithdrefnau sydd yn sicrhau bod pobl yn bodloni'r gofynion.
9. Gweithdrefnau i'w dilyn os nad yw pobl yn bodloni'r gofynion.
10. Y cymorth sydd ar gael i alluogi pobl i adrodd ynghylch pryderon am beidio â bodloni gofynion.
11. Y prosesau ar gyfer cynnal y polisïau a'r gweithdrefnau perthnasol a sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol.
12. Y ffyrdd gwahanol y gallai pobl beidio â bodloni'r gofynion a'r risg o'r rhain yn digwydd mewn gwirionedd.
13. Y gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â phobl nad ydynt yn bodloni'r gofynion, yn cynnwys gofynion ar gyfer adrodd.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
- Cydnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
- Cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sydd yn hybu dealltwriaeth
- Gwneud amser i gefnogi eraill
- Rhoi adborth i eraill i'w helpu i gynnal a gwella eu perfformiad
- Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau'r diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, a sicrhau bod pobl eraill yn gwneud hynny
- Edrych am risg a pheryglon posibl
- Dweud na wrth geisiadau afresymol
- Nodi a chodi pryderon moesegol
- Sicrhau bod gwybodaeth briodol ar gael yn brydlon i'r rheiny sydd ei hangen ac sydd â hawl iddi
- Annog eraill i rannu gwybodaeth o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd
- Cydnabod anghenion a diddordebau rhanddeiliaid a rheoli'r rhain yn effeithiol
- Gwneud a gweithredu penderfyniadau anodd a/neu amhoblogaidd, os oes angen
Sgiliau
Dadansoddi
Asesu
Cyfathrebu
Gwneud penderfyniadau
Rheoli gwybodaeth
Cynnwys eraill
Arweinyddiaeth
Monitro
Ysgogi
Cyflwyno gwybodaeth
Rhoi adborth
Adrodd
Rheoli risg
- Gwerthfawrogi a chefnogi eraill