Rheoli risgiau i'ch sefydliad
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chymryd yr awenau wrth sefydlu a gweithredu proses rheoli risg ar draws eich sefydliad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Dal pobl sydd o dan amheuaeth *
ystyried maint a natur eich sefydliad a gwneud yn siŵr bod y gwaith rheoli risg yn gymesur
sicrhau bod gan eich sefydliad bolisi rheoli risg ysgrifenedig, gan gynnwys datganiad ar lefel dderbyniol o risg a gosod cyfrifoldebau dros reoli risg
sicrhau bod polisi rheoli risg eich sefydliad yn cynnwys cymorth rheoli a’i fod yn cael ei gyfleu’n glir ar draws y sefydliad ac wrth randdeiliaid perthnasol eraill
sefydlu meini prawf risg ar gyfer eich sefydliad, a’u hadolygu o dro i dro, gan ystyried barn pobl berthnasol ar draws y sefydliad a rhanddeiliaid
gwerthuso gweithgareddau arwyddocaol y sefydliad sy’n digwydd yn awr ac sydd ar y gweill, a nodi risgiau posibl, natur y risgiau, y tebygolrwydd y byddant yn digwydd a’r canlyniadau
llunio proffil risg ar gyfer eich sefydliad a blaenoriaethu’r risgiau a nodwyd, gan ystyried meini prawf risg y sefydliad a gwybodaeth berthnasol arall
rhoi gwybod am y risgiau a nodwyd i bobl berthnasol ar draws y sefydliad a, lle y bo’n briodol, i randdeiliaid, er mwyn gwneud penderfyniadau a chymryd camau o ran derbyn neu ddelio â’r risgiau
sicrhau bod digon o adnoddau’n cael eu dyrannu ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod risg yn cael ei reoli’n effeithiol
rhoi cymorth i bobl ar draws y sefydliad i integreiddio’r gwaith o reoli risg mewn cynlluniau gweithredol a strategol a gweithgareddau
casglu a gwerthuso gwybodaeth o bob rhan o’r sefydliad am sut mae delio â risgiau a nodwyd neu sut aethpwyd ati i ddelio â hwy, gan gynnwys cynlluniau wrth gefn sydd wedi cael eu rhoi ar waith
datblygu diwylliant o fewn y sefydliad lle mae pobl yn ymwybodol o risg ond yn fodlon cymryd risgiau derbyniol ac i wneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt
cael cymorth arbenigol ar faterion rheoli risg, os oes angen
monitro ac adolygu effeithiolrwydd y broses rheoli risg yn eich sefydliad, nodi gwelliannau posibl a gwneud newidiadau lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol *
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Chwilio am gyfleoedd i wella perfformiad
Nodi pa wybodaeth y mae ei hangen ar bobl
Nodi pa ffyrdd o gyfathrebu sydd orau gan bobl
Defnyddio cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu priodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd
Cydbwyso’r risgiau yn erbyn y manteision a allai godi wrth gymryd risg
Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau’r diwydiant, polisïau’r sefydliad a chodau proffesiynol, a sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â hwy hefyd
Cadw llygad am risgiau a pheryglon posibl
Derbyn cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd
Diogelu eich gwaith eich hun a gwaith pobl eraill rhag effeithiau negyddol
Diogelu cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth
Adnabod anghenion a diddordebau rhanddeiliaid a rheoli’r rhain yn effeithiol
Rhag-weld senarios tebygol yn y dyfodol yn seiliedig ar ddadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau
Nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
Sgiliau
Asesu
Cyfathrebu
Ymgynghori
Cynllunio wrth gefn
Penderfynu
Gwerthuso
Dylanwadu
Rheoli gwybodaeth
Cynnwys eraill
Arwain
Monitro
Perswadio
Cynllunio
Cyflwyno gwybodaeth
Blaenoriaethu
Adolygu
Rheoli risg
Creu senarios
Meddwl yn systematig